Bwrsariaeth Costau Teithio Myfyrwyr - Telerau ac Amodau
Mae'r fwrsariaeth yn daliad arian parod untro o £500 i helpu myfyrwyr y Pecyn Clirio gyda chostau teithio a byw yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio.
Amodau cyffredinol
Mae'r fwrsariaeth hon ar gael i chi os ydych yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Yn fyfyriwr o’r DU sydd wedi cofrestru ar flwyddyn sylfaen neu flwyddyn gyntaf gradd israddedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/2027; ac
- Wedi cofrestru ar gwrs israddedig llawn amser; ac
- Yn astudio ar gampysau Caerdydd neu Gasnewydd; ac
- Wedi derbyn cynnig y Pecyn Clirio o ystafell sengl safonol yn Llys Morgannwg (Campws Trefforest) ac wedi ymrwymo i gytundeb llety'r Brifysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/2027; ac
- Yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Pecyn Clirio PDC 2026; ac
- Yn parhau’n gofrestredig gyda chwrs cymwys ac yn byw mewn llety cymwys ar y dyddiad y caiff y fwrsariaeth ei thalu.
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i atal taliad lle na ellir gwirio cymhwysedd neu lle nad ydych bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar ddyddiad y taliad.
Sut ydw i'n gwneud cais am y fwrsariaeth hon?
Nid oes angen i chi wneud cais am y fwrsariaeth hon. Byddwn yn gwirio eich cymhwysedd drwy ddefnyddio gwybodaeth a gedwir yn systemau'r Brifysgol a byddwn yn eich hysbysu os ydych yn gymwys. Os byddwch yn penderfynu peidio â manteisio ar eich cynnig o ystafell yn Nhrefforest, ni fyddwch bellach yn gymwys i gael y fwrsariaeth. Os hoffech optio allan o dderbyn y fwrsariaeth, cysylltwch â [email protected].
Telerau talu
Mae'r fwrsariaeth yn daliad arian parod untro o £500. Nid yw'n gysylltiedig â faint fydd yn cael ei wario ar deithio ac nid oes angen cyflwyno derbynebau. Bydd yn cael ei ddyfarnu i fyfyrwyr cymwys ym mis Ionawr 2027, tua dechrau'r ail dymor academaidd. Bydd y taliad yn cael ei wneud i'ch cyfrif banc yn system gyllid PDC. Gallwch enwebu cyfrif banc arall yn y DU ond bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu hyn drwy e-bostio [email protected].
Mae'r fwrsariaeth hon yn bersonol i chi. Nid yw'n drosglwyddadwy ac ni ellir ei gyfnewid am unrhyw fudd gwahanol.
Rwy'n credu fy mod yn gymwys, ond dydw i ddim wedi derbyn y fwrsariaeth – beth ddylwn i ei wneud?
Anfonwch e-bost [email protected] os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael y fwrsariaeth ond heb dderbyn hysbysiad erbyn dydd Llun 18 Ionawr 2027.
Gwneir penderfyniadau ar gymhwysedd ar sail y cofnodion sydd gan y Brifysgol. Bydd apeliadau yn cael eu hystyried ddim ond pan fyddwch yn credu ac yn gallu darparu tystiolaeth bod camgymeriad ffeithiol yn y wybodaeth a gedwir amdanoch gan y Brifysgol.
Fydd derbyn y fwrsariaeth hon yn effeithio ar fy nghymhwysedd ar gyfer bwrsariaethau ac ysgoloriaethau eraill PDC?
Mae gennych hawl i dderbyn sawl ysgoloriaeth a bwrsariaeth PDC yn amodol ar feini prawf cymhwysedd pob ysgoloriaeth a bwrsariaeth unigol. Nid yw derbyn bwrsariaeth neu ysgoloriaeth arall yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer y fwrsariaeth hon.
Beth sy'n digwydd os byddaf yn gadael y Brifysgol neu lety’r brifysgol am ryw reswm?
Os byddwch yn tynnu'n ôl o'ch cwrs neu'n symud allan o'r llety cymwys neu os nad ydych bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd cyn y dyddiad talu, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth. Os byddwch yn gadael y Brifysgol am unrhyw reswm ar ôl i'ch taliad gael ei wneud, nid oes gofyniad i chi ad-dalu'r fwrsariaeth.
Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio
Bydd gwybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o'ch cais a'ch cofrestriad yn cael ei defnyddio gan y Brifysgol i weinyddu'r fwrsariaeth hon, gan gynnwys gwirio cymhwysedd, cysylltu ag ymgeiswyr cymwys, dyfarnu'r fwrsariaeth ac ymateb i ymholiadau cysylltiedig. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu’n unol â hysbysiadau preifatrwydd perthnasol y Brifysgol (Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol neu Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnydd o Ddata Personol | Prifysgol De Cymru).
Cyfyngu ar atebolrwydd
I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Brifysgol, ei hasiantau neu ddosbarthwyr mewn unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol nac yn atebol i ddigolledu unrhyw ymgeisydd neu drydydd parti ac eithrio mewn achos o anaf personol neu farwolaeth yn deillio'n uniongyrchol o esgeulustod, twyll neu gamliwio twyllodrus y Brifysgol, neu unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu'n gyfreithlon. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Cyffredinol
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddileu, atal, canslo, neu ddiwygio neu dynnu'r fwrsariaeth hon yn ôl lle bo angen oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Brifysgol yn ceisio sicrhau bod cyn lleied â phosibl o anfantais i fyfyrwyr cymwys lle bo'n rhesymol ymarferol.
- Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a'r Brifysgol ac rydych chi'n cytuno i ddefnyddio llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
Os oes anghydfod ynglŷn â'r fwrsariaeth hon, bydd y Brifysgol yn ystyried y mater yn unol â'r Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw weithdrefnau perthnasol y Brifysgol. Mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol nac unrhyw hawl i godi cwyn o dan weithdrefnau perthnasol y Brifysgol.