Ysgoloriaeth Dysgu ac Addysgu

Cynhadledd Ymchwil, Dysgu, Addysgu ac Arloesi 2026

Cynhelir Cynhadledd Ymchwil, Dysgu, Addysgu ac Arloesi eleni o ddydd Llun 29 Mehefin i ddydd Gwener 3 Gorffennaf.

An audience listening to a conference speaker in a lecture theatre.

Thema'r gynhadledd yw Arloesi ac effaith: Sut mae'r Brifysgol yn effeithio ar ein cymunedau.


Trwy gydol yr wythnos, byddwn yn arddangos sut mae ymchwil, cydweithio diwydiannol, ac addysgeg arloesol yn croestorri trwy Gwricwlwm yn Seiliedig ar Her (CBC). Byddwn yn archwilio sut bydd y dull hwn yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr ac yn mynd i'r afael â heriau yn y byd go iawn.

Bydd posteri o'r pedwar Grwp Ymchwil ac Arloesi (RIG) ar ddeg yn cael eu harddangos, a bydd arweinwyr RIG a chydweithwyr o'r adran Ymgysylltu, Ymchwil a Masnacheiddio (ERC) wrth law i ateb cwestiynau a chefnogi cysylltiadau newydd.

student-25

Ochr yn ochr â chyflwyniadau Grwpiau Ymchwil ac Arloesi (RIGs), bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai, sesiynau DPP, arddangosfeydd posteri, cyfleoedd rhwydweithio, a mwy.


Drafft Strategaeth Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Bwriad y Strategaeth yw llywio ein dull o ddysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr dros y pedair blynedd nesaf. Gellir dod o hyd i fersiwn ddrafft sydd wedi'i lunio trwy ymgysylltu ac adborth gan gydweithwyr, yma. Nodwch mai dim ond i gydweithwyr PDC y mae'r ddolen hon yn hygyrch. Mae hon yn ddogfen weithiol ac felly dim ond yn Saesneg y mae ar gael ar hyn o bryd.

Strategaeth ddrafft

Angen adborth

Rydym nawr yn gofyn am sylwadau terfynol ar y ddogfen gan gydweithwyr. Rhowch eich adborth i ni erbyn dydd Mercher 8 Gorffennaf.

Ffurflen Werthuso