Cymuned o Arbenigedd PDC

Myfyrwyr fel Cyd-grewyr

many people together having an idea symbolized by icons on cubes on wooden background

Sefydlwyd y Gymuned o Arbenigedd: Myfyrwyr fel Cyd-grewyr (CymArb: Cyd-grewyr), gyda chefnogaeth CELT, ym mis Chwefror 2021 er mwyn adlewyrchu un o ddaliadau craidd strategaeth cwricwlwm 2030 PDC. ​​​​​​​

Mae cyd-greu yn derm y gellir ei gymhwyso i lawer o wahanol sefyllfaoedd, ac mae digonedd o enghreifftiau gwych o arfer da drwy’r Brifysgol, er na chaiff ei fesur na’i gydnabod yn ffurfiol fel hynny bob tro. Gall y fantais i fyfyrwyr fod yn enfawr, ar lefel unigol i’r myfyrwyr hynny sy’n cymryd rhan yn y broses o gyd-greu, ac i’r corff myfyrwyr yn gyffredinol.  Fodd bynnag, gall deimlo’n anghyfforddus i ddarlithwyr adael i’r myfyrwyr weld y tu ôl i’r llen, a gwybod beth sy’n gweithio neu ble mae’r diffygion.  ​​​​​​​

Mae’r Gymuned o Arbenigedd yn lle i staff allu archwilio a phennu sut gallai ‘myfyrwyr fel cyd-grewyr’ edrych iddyn nhw; bydd yn wahanol i bob cwrs a phob aelod o staff. Gan ddefnyddio llenyddiaeth academaidd a phrofiadau staff o Brifysgol De Cymru a phrifysgolion eraill, mae CymArb: Cyd-grewyr yn ceisio adeiladu corff o wybodaeth y gall staff ei ddefnyddio i ddeall sut gallan nhw integreiddio ‘myfyrwyr fel cyd-grewyr’, a darparu gofod ar gyfer rhannu, cydweithio a chymorth. ​​​​​​​

Os hoffech ddysgu mwy am ‘fyfyrwyr fel cyd-grewyr’, neu efallai fod gennych brofiad rydych chi’n meddwl sy’n berthnasol ac rydych chi’n fodlon ei rannu gydag eraill, neu os ydych chi am ymuno gyda ni ar ein taith tuag at gwricwlwm 2030 PDC, ystyriwch ymuno â CymArb: Cyd-grewyr.

Mae aelodwyr Cymuned yn gallu rhannu cynnwys ac cydweithio yn defynyddio yr wefan Sharepoint ymroddedig, preifat dros CymArb: Cyd-grewyr (mae aelodau Cymuned newydd neu arfaethedig yn gallu dilyn y ddolen i geisio mynediad i'r wefan).

Os wyt ti'n gydweithiwr neu fyfyriwr PDC cymryd rhan mewn cyd-greu, ymunwch ni!