Hwb Unigolion sydd wedi derbyn cynnig

Dyma'r lle i chi gymryd y cam nesaf tuag at ymuno â PDC. Fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch i dderbyn eich cynnig, sgwrsio â'n myfyrwyr a'n staff, a dysgu am fywyd yn PDC drwy ein digwyddiadau a'n profiadau. Mae eich taith yn dechrau yma, ac allwn ni ddim aros i weld ble fydd yn mynd â chi.

Derbyn eich cynnig
Student smiling and giving a peace sign at Treforest Welcome Week

Yn barod i dderbyn eich cynnig?

Os ydych chi wedi derbyn cynnig i astudio yn PDC, bydd angen i chi ei dderbyn cyn gynted â phosibl i sicrhau eich lle. Os gwnaethoch gais trwy UCAS, gallwch dderbyn y cynnig ar UCAS Hub. Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch cynigion erbyn y dyddiad cau a nodir, neu efallai y bydd eich holl gynigion yn cael eu gwrthod.

Os ydych wedi gwneud cais yn uniongyrchol, gallwch dderbyn eich cynnig drwy fewngofnodi i borth ymgeiswyr ar-lein y Brifysgol a dilyn y canllawiau derbyn eich cynnig.


CYSYLLTWCH

Mae dewis ble i astudio yn benderfyniad mawr. Os oes gennych gwestiynau am eich cynnig neu beth i'w wneud nesaf, rydym yma i helpu. Cysylltwch â ni a byddwn yn trafod y peth gyda chi.

E-bost

Myfyrwyr y DU

 

Myfyrwyr rhyngwladol ac UE

Ffôn

Myfyrwyr y DU

 

Myfyrwyr rhyngwladol ac UE

Beth nesaf?

Awyddus i ymuno â ni mewn Diwrnod Profiad Ymgeiswyr, dechrau cysylltu â’ch darpar gyd-fyfyrwyr, neu ddysgu am fywyd fel myfyriwr? Dyma’r lle i chi.
A student ambassador is handing out a USW tote bag at an open day.

Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr

Dyma’ch cyfle i ymuno â sesiwn flasu hwyl yn y pwnc o’ch dewis, cwrdd â'ch darpar ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr, cael golwg ar ein llety, a sgwrsio â'n staff cymorth cyfeillgar.

A group of students sat talking over drinks at Treforest Student's Union

Ymunwch â'n Grŵp Ymgeiswyr

Dysgwch am y camau nesaf yn eich cais, ein gwasanaethau cymorth, a phopeth sy’n mynd ’mlaen yn PDC!

Pedwar myfyriwr prifysgol yn cerdded ac yn siarad

Bywyd fel myfyriwr PDC

Cewch gwrdd â phobl o'r un anian, cymryd rhan mewn chwaraeon, clybiau a chymdeithasau, a darganfod sut y gall ein gwasanaethau iechyd a lles eich cefnogi chi.

Darganfod PDC

An open day visitor getting money advice from a member of staff at an open day information fair.
A student sat on a bed writing notes in the Glamorgan Court accommodation.
A group of three students enjoying ice cream at Newport Market.
A group of four students are taking a selfie at a bowling alley named Roxy Lanes in Cardiff. There are neon lights lighting the room.


Digwyddiadau croeso - yr wythnos y mae pawb yn siarad amdani! Mae ein digwyddiadau’n llawn gweithgareddau na ddylech eu colli, sesiynau cymdeithasol epig, a'r holl eiliadau arbennig hynny sy'n gwneud bywyd yn y brifysgol yn fythgofiadwy. Cewch gwrdd â ffrindiau newydd, crwydro’ch campws, a dechrau eich profiad myfyriwr mewn steil. Byddwch chi yn bendant eisiau bod yn rhan o hyn.


Dilynwch ni

@de_cymru