Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr

Mae ein Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr yn ddigwyddiadau i rai sy’n cael gwahoddiad yn unig. Maen nhw’n rhoi golwg fanylach i chi ar yr hyn sy'n gwneud Prifysgol De Cymru yn arbennig ac yn eich helpu i deimlo'n hyderus wrth ein dewis ni fel eich Dewis Pendant.

Uwchraddiwch Eich Cynnig
student-25

Sut mae Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn wahanol i Ddiwrnod Agored?

Efallai eich bod wedi bod i Ddiwrnod Agored cyn gwneud cais, ond mae Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr yn mynd ymhellach. Maen nhw wedi'u dylunio i'ch helpu i archwilio eich cwrs yn fanwl, gweld ein cyfleusterau â‘ch llygaid eich hun, a theimlo'n hyderus wrth ddewis PDC fel eich Dewis Pendant. Wedi penderfynu ar PDC eisoes? Mae'n gyfle gwych i gwrdd â'ch darlithwyr a'ch darpar gyd-fyfyrwyr.

Pam mynd i Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr?

Mae Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr yn rhoi cyfle i chi fynd y tu hwnt i'r llyfrynnau a chael profiad go iawn o fywyd ym Mhrifysgol De Cymru. Cewch archwilio eich cwrs yn fwy manwl, gweld y cyfleusterau y byddwch chi'n eu defnyddio, a gofyn cwestiynau yn uniongyrchol i'r darlithwyr a fydd yn eich addysgu. Gallwch gwrdd â myfyrwyr presennol, clywed am eu profiadau, a chael cyngor ar sut beth yw bywyd yn PDC mewn gwirionedd. Mae hefyd yn gyfle gwych i ddod i gyswllt ag ymgeiswyr eraill a allai fod yn gyd-fyfyrwyr i chi ymhen ychydig amser a chael teimlad o fywyd bywiog y campws.

Prospective students and a lecturer in a classroom at Glyntaff Campus, interacting with baby dolls on open day.
  • Rydym yn brysur yn cynllunio ein digwyddiadau ar gyfer 2027, felly cadwch lygad ar eich negeseuon e-bost am eich gwahoddiad!

Plymiwch i mewn i'ch cwrs, profwch fywyd fel myfyriwr PDC, ac uwchraddiwch i gynnig diamod!*

*Telerau ac Amodau'n berthansol
  • Rydym yn brysur yn cynllunio ein digwyddiadau ar gyfer 2027, felly cadwch lygad ar eich negeseuon e-bost am eich gwahoddiad!


A student smiling in the library with books and study spaces in the background.

Uwchraddiwch eich Cynnig

Pan fyddwch yn ymuno â ni mewn Diwrnod Profiad Ymgeisydd, cewch gyfle i uwchraddio eich cynnig amodol i gynnig diamod* - gan sicrhau eich lle yn ddiogel ar ôl sgwrs gyda'ch darlithwyr yn y dyfodol. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.

Cwestiynau Cyffredin

Rydym wedi casglu atebion i'r cwestiynau y mae myfyrwyr yn eu gofyn amlaf, fel y gallwch deimlo'n hyderus eich bod yn gwybod popeth sydd angen i chi ei wybod am Ddigwyddiadau Croeso Prifysgol De Cymru.

Gallwch! Gallwch hawlio costau teithio i fynychu Diwrnod Profiad Ymgeiswyr. Edrychwch ar ein tudalennau bwrsariaeth teithio am ragor o fanylion a sut i wneud cais.

Bydd lleoliad eich sesiynau Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn dibynnu ar ba bwnc/pynciau yr ydych wedi cael cynnig ar eu cyfer. Rhoddir gwybod i chi am y lleoliad unwaith y byddwch yn rhoi eich manylion ar y ffurflen archeb.

Cynhelir ein Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn fras rhwng 9.30yb a 2.00yp a chewch gyfle i ymweld â'ch adran(nau) academaidd a chael amser i archwilio'r campws.

Bydd yr amserlen benodol ar gyfer yr adran(nau) academaidd yr ydych yn ymweld â nhw yn cael ei hanfon atoch cyn y digwyddiad er mwyn eich galluogi i gynllunio eich amser gyda ni. Byddwn hefyd yn rhannu rhagor o wybodaeth am ble a phryd y bydd angen i chi gofrestru yn ystod eich ymweliad.

Bydd y rhaglen yn cael ei chynnwys yn yr e-bost a gewch yn nes at y digwyddiad. Bydd hyn yn cynnwys cyngor defnyddiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad. Sylwch na fydd angen i chi neilltuo lle i fynychu unrhyw sgyrsiau penodol cyn y Diwrnod Profiad Ymgeiswyr.

Pan fyddwch yn cyrraedd y campws, bydd ein tîm o staff a llysgenhadon myfyrwyr wrth law i'ch croesawu a rhoi cyfarwyddiadau a chyngor.

Anfonwch e-bost at ein Tîm Diwrnod Profiad Ymgeiswyr a fydd yn hapus i helpu: [email protected]

Heb dderbyn eich gwahoddiad?

Rydym yn anfon eich gwahoddiad i’r e-bost a ddefnyddiwyd pan wnaethoch gais, os nad ydych wedi derbyn un, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

DARGANFOD PDC

Methu mynychu un o'n Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr? Mae ein teithiau rhithwir rhyngweithiol yn rhoi cyfle i chi brofi ein holl gampysau gyda golygfa banoramig 360-gradd lawn o'ch cartref eich hun. Gallwch hefyd ymweld â'n tudalennau campws a lleoliad i ddarllen mwy am yr hyn sydd gennym i'w gynnig.