Cwestiynau Cyffredin
Mae Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr yn gyfle i chi archwilio'ch cwrs yn fanylach, sgwrsio â myfyrwyr, cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, a chwrdd â'ch darlithwyr yn y dyfodol. Er mwyn eich helpu i baratoi, rydym wedi creu rhestr o Gwestiynau Cyffredin i ateb eich cwestiynau mwyaf cyffredin.
Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr
Cwestiynau Cyffredin
Efallai eich bod eisoes wedi mynychu Diwrnod Agored cyn gwneud eich cais. Mae Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr wedi'u cynllunio i'ch helpu i gadarnhau Prifysgol De Cymru fel eich Dewis Cadarn ac maent wedi'u teilwra i'ch helpu i ddarganfod mwy am eich cwrs a gweld cyfleusterau'r Brifysgol. Os ydych chi eisoes wedi dewis PDC mae hwn yn gyfle gwych i gwrdd â’ch darlithwyr yn y dyfodol a’ch cyd-fyfyrwyr.
Bydd lleoliad eich sesiynau Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn dibynnu ar ba bwnc/pynciau yr ydych wedi cael cynnig ar eu cyfer. Rhoddir gwybod i chi am y lleoliad unwaith y byddwch yn rhoi eich manylion ar y ffurflen archeb.
Edrychwch ar ein tudalennau Cyrraedd Yma, sydd â gwybodaeth am ble y gallwch ddod o hyd i ni a beth allwch chi ei wneud pan fyddwch yn ymweld.
- Pontypridd – ar y safle am ddim
- Caerdydd a Chasnewydd – maes parcio cyhoeddus
Mae amseroedd y Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn amrywio ac yn dibynnu ar eich cwrs. Unwaith y byddwch yn neilltuo eich lle, byddwn yn anfon amserlen bersonol atoch, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer eich sesiwn cofrestru a sgwrs croeso i fanteisio i'r eithaf ar y diwrnod.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer ein Diwrnod Profiad Ymgeiswyr a bydd angen i fynychwyr neilltuo eu lleoedd ymlaen llaw. Trefnwch eich lle gan ddefnyddio'r ddolen i'r ffurflen archebu ar-lein a anfonwyd atoch trwy e-bost.
Rydym yn argymell eich bod yn aros tan eich bod wedi derbyn cynnig cyn neilltuo eich lle ar gyfer Diwrnod Profiad Ymgeiswyr, er mwyn sicrhau eich bod yn gweld y cyfleusterau ar y campws sy'n berthnasol i chi.
Os nad ydych wedi gwneud cais eto, neu os ydych wedi derbyn cynnig ond nid yw ein system archebu yn dangos unrhyw ddyddiadau ar gyfer eich cwrs/cyrsiau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected] a gallwn eich helpu.
Os yw'r ddau gwrs y mae gennych gynigion ar eu cyfer ar yr un campws, gallwch siarad â staff academaidd y ddau gwrs. Os yw eich cyrsiau ar wahanol gampysau byddem yn argymell mynychu mwy nag un diwrnod ymgeiswyr. Mae cymorth am gostau teithio ar gael – gwelwch ein bwrsariaeth teithio am ragor o wybodaeth.
Mae croeso i chi ddod â chyfanswm o 2 westai i’r digwyddiad.
Bydd, bydd ein mannau arlwyo ar agor ar bob campws.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu’r diwrnod llawn lle bynnag y bo modd, ond os na allwch fynychu’r diwrnod cyfan e-bostiwch ein tîm Diwrnod Profiad Ymgeiswyr i roi gwybod i ni a byddwn yn hapus i helpu.
Bydd amrywiaeth o'n neuaddau preswyl ar gael i chi eu gweld ar y diwrnod. Bydd rhagor o wybodaeth am oriau agor ein fflatiau yn cael ei chynnwys yn y rhaglen a gewch cyn eich ymweliad.
Gallwch, bydd ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gael yn ystod y Diwrnod Profiad Ymgeiswyr.
Oes, gallwch ymuno â'n Rhwydwaith Diwrnodau Agored pan fyddwch yn cyrraedd y campus, bydd y manylion yn y rhaglen.
Byddwch, bydd staff academaidd eich cwrs yn arwain eich sesiwn.
Anfonwch e-bost at ein Tîm Diwrnod Profiad Ymgeiswyr a fydd yn hapus i helpu: [email protected]