Rhoi yn ôl

Mae Sam yn rhoi yn ôl I PDC drwy gynnig Interniaethau

Fel rhan hanfodol o’n cymuned o gyn-fyfyrwyr, mae Sam wedi cael sawl intern ers cychwyn, lle mae’n cynnig profiad mwy ymarferol iddynt ddatblygu eu set sgiliau.

Cofrestru i wirfoddoli Rhoi yn ôl
Placeholder Image 1

Mae Sam Padget, a raddiodd BA Ffotonewyddiaduraeth, bellach yn rhedeg tŷ microgynhyrchu yn Llundain, gan greu cynnwys gwe ar ffurf dogfennol ar gyfer busnesau bach eu maint yn ogystal â phrosiectau hirach ar hap.


Pam oeddech chi eisiau gwirfoddoli?

Mae angen rhywfaint o brofiad ymarferol ar bawb, a gall fod yn anodd dod o hyd iddo... Roeddwn yn ei chael yn ddefnyddiol iawn cael pâr ychwanegol o ddwylo, ond hefyd, rwy'n gwybod bod Matt fy intern wedi mynd ymlaen i ddefnyddio llawer o'r sgiliau golygu fideo a ddysgais fe.

Llwyddodd i gael mwy o ymarfer ar sgiliau gan eu gwneud yn llawn amser am ychydig wythnosau nag y byddai ganddo gyda chyflwyniad byrrach ar gwrs. Mae hefyd yn dda i interniaid weithio ar brosiect go iawn yn y byd go iawn i hogi sgiliau.

Sut oedd y profiad gwirfoddoli?

Byddwn yn argymell gwirfoddoli a chymryd intern i gyflogwyr - mae'n gyfle gwych i fireinio eich sgiliau arwain a hyfforddi. Fel arfer rwy'n gweithio ar fy mhen fy hun felly roedd yn wych cael seinfwrdd a phrofi fy mhrosesau a'm llifoedd gwaith i sicrhau eu bod yn glir ac yn effeithlon. Mae cael intern hefyd yn ffordd wych o gynnal perthynas gyda fy hen Brifysgol a Darlithwyr.

Unrhyw gyngor i gyn-fyfyrwyr sy'n meddwl am wirfoddoli gyda ni?

Does ond angen i chi gymryd i ystyriaeth y bydd yna gromlin ddysgu a chaniatáu amser ar gyfer hynny.