Dysgwch y sgiliau i weithio ar bob agwedd ar gerbydau awyr o ddylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, profi ehediadau ac ardystio, i warchod addasrwydd i hedfan a gweithrediadau awyrennau cynaliadwy, gyda'n cwrs peirianneg awyrenegol o'r radd flaenaf.
Mae cyrraedd y gofod yn gofyn am beirianwyr sydd nid yn unig â sgiliau technegol rhagorol, ond hefyd y creadigrwydd i ddatrys problemau newydd a chymhleth. Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu hennill ar y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer swyddi ar draws y byd awyrofod, yn ogystal â byd awyrennau, moduron, gweithgynhyrchu a mwy.
Mae angen mwy na sgiliau rhagorol yn unig ar beirianwyr trydanol heddiw, mae hefyd angen creadigrwydd ac arloesedd i ffynnu mewn byd mwy digidol, deallus a chysylltiedig. Mae'r radd hon yn sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer, gan baratoi graddedigion ar gyfer rolau arwain mewn diwydiant.
Mae'r radd BEng Peirianneg Fecanyddol hon yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol a mathemategol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae cryn alw am beirianwyr mecanyddol mewn pob math o ddiwydiannau a sectorau, fel prosesu bwyd, cynhyrchu fferyllol, ynni adnewyddadwy, y diwydiant modurol ac awyrofod. Fe allech ddylunio, dadansoddi, ymchwilio a phrofi unrhyw beth o dyrbinau gwynt i beiriannau turbojet.
Rydym yn cymryd Peirianneg Sifil o ddifrif. O’r gwareiddiadau cynharaf, mae peirianwyr wedi dylunio’r amgylchedd adeiledig ac wedi gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl. Gyda'ch gradd, byddwch yn dod yn rhan o un o broffesiynau hynaf y byd ac yn mwynhau gyrfa sy'n cael effaith barhaol ar ddynoliaeth.
Datblygwch eich sgiliau fel rheolwr prosiect adeiladu, gan ddysgu sut i bontio’r bwlch rhwng cleient a chontractwr a chyflawni prosiectau mewn pryd ac o fewn y gyllideb.
Rydym yn credu bod agor meddyliau yn agor drysau. Dyna pam mae ein gradd arloesol BSc Seicoleg, sydd wedi’i hachredu gan y BPS, yn cyfuno dysgu ymarferol ag amrywiaeth eang o gyfleoedd ar leoliad a phrosiectau mewn bywyd go iawn. Mae’r cyfan yn rhoi’r profiad y mae ei angen ar ein graddedigion Seicoleg i gael dechrau llwyddiannus i’w gyrfaoedd.
Byddwch yn cwblhau’r holl brif feysydd angenrheidiol mewn seicoleg i gael achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Byddwch yn edrych ar sut mae’r meddwl dynol yn gweithio, ac yn archwilio sut mae hyn yn effeithio ar batrymau ymddygiad troseddol, o’r cymhelliad i droseddu hyd at ddelio â chyhuddiadau anwir a’r effaith ar ddioddefwyr.
Byddwch hefyd yn astudio datblygiad niwroamrywiol ac amrywiaeth o anhwylderau datblygiadol, gan ddysgu sut mae’r rhain yn cael eu hasesu a pha ymyriadau y gallant eu cynnwys.
Dysgwch sut i ddarparu systemau diogel, dibynadwy o ansawdd uchel sy'n gwneud perfformiadau'n dechnegol anhygoel.
Enillwch brofiad ymarferol wrth i chi baratoi ar gyfer gyrfa ddeinamig a gwerth chweil mewn diwydiant lle nad oes dau eiddo yr un fath. Dysgwch gan arbenigwyr amgylchedd adeiledig a defnyddiwch dechnoleg arloesol, wrth i chi archwilio popeth o brisio eiddo i wneud penderfyniadau masnachol.
Mae angen cynyddol am bobl sy'n gallu rheoli a chynghori ar bob agwedd ar ein hamgylchedd adeiledig sy'n newid yn barhaus. Bydd syrfewyr adeiladau yn chwarae rhan hanfodol wrth i'r galw am fannau trefol mwy cynaliadwy ac effeithlon gynyddu. Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i gamu i'r rôl honno.
Yr unig ffordd o ennill y set sgiliau eang a deinamig sydd ei hangen i ddatrys troseddau yw trwy brofiad ymarferol. Mae ein BSc Ymchwiliad Fforensig yn eich paratoi ar gyfer gweithredu yn y byd archwilio safleoedd troseddau, wrth i chi ymchwilio i safleoedd troseddau efelychiadol, defnyddio offer labordy o safon diwydiant a rhoi tystiolaeth fel tyst arbenigol.