Peirianneg Awyrofod
Meistrolwch y sgiliau damcaniaethol ac ymarferol uwch a mathemateg sydd eu hangen i adael atmosffer y Ddaear, gan ddefnyddio offer blaengar a phrofiad hedfan go iawn.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
H503
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
H500
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae cyrraedd y gofod yn gofyn am beirianwyr sydd nid yn unig â sgiliau technegol rhagorol, ond hefyd y creadigrwydd i ddatrys problemau newydd a chymhleth. Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu hennill ar y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer swyddi ar draws y byd awyrofod, yn ogystal â byd awyrennau, moduron, gweithgynhyrchu a mwy.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os oes gennych feddwl chwilfrydig, yn ymddiddori’n fawr ym maes y gofod, ac ysfa i ddeall sut mae pethau'n gweithio, mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Mae'n eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector awyrofod, wrth agor drysau hefyd ar draws sbectrwm eang peirianneg fecanyddol.
Bod yn barod ar gyfer y diwydiant
Cynlluniwyd y cwrs i fodloni gofynion achredu'r RAeS ac IMechE ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig.
Llwybrau Gyrfa
- Peiriannydd Ardystio ac Addasrwydd i Hedfan
- Peiriannydd Dylunio
- Peiriannydd Mecanyddol
- Rheoli Prosiect
- Peiriannydd Ymchwil
Y sgiliau a addysgir
- Datrys problemau drwy ddadansoddi, gan ddefnyddio damcaniaethau gwyddonol a pheirianyddol
- Sgiliau peirianyddol ymarferol
- Gwybodaeth uwch am dechnoleg arloesol
- Gweithio mewn tîm, rheoli ac arwain
- Sgiliau cyfathrebu
- Deall cyfrifoldebau proffesiynol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r radd hon yn cyfuno dadansoddiad mathemategol â dylunio ymarferol, gan ddechrau gyda sylfaen eang mewn cysyniadau a sgiliau peirianneg. O’r ail flwyddyn, byddwch yn archwilio modiwlau awyrofod unigryw ac yn datblygu’r sgiliau meddal, y rheolaeth a’r gallu i gynnal ymchwil sydd eu hangen i feistroli peirianneg fodern.
Blwyddyn Un
Mathemateg ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol
Dylunio a Gweithgynhyrchu
Rhaglenni Cyfrifiadura Peirianneg
Mecaneg Beirianyddol 1
Gwyddorau Trydanol
Thermohylifau 1
Blwyddyn Dau
Rheolaeth ac Offeryniaeth
Thermohylifau 2
Deunyddiau Peirianyddol
Mathemateg Peirianyddol Pellach
Technoleg Roced a Gofod
Dylunio Awyrofod
Blwyddyn Tri
Dadansoddiad Cyfrifiadurol
Dynameg Hedfan Awyrennau
Prosiect Unigol
Gyriant awyrofod
Strwythurau a Deunyddiau Awyrofod
Rheoli Prosiect a'r Gymdeithas Beirianneg
Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth
Dysgwch egwyddorion ac arferion gwyddonol hanfodol peirianneg awyrofod. Byddwch yn cael profiad ymarferol gydag offer dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu, gan gynnwys pecynnau CAD o safonol y diwydiant ac ieithoedd rhaglennu.
Mathemateg ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol
Dewch i ddeall perthnasedd mathemateg ym maes peirianneg a datblygu’r sgiliau mathemategol a data sydd eu hangen i ddatrys problemau peirianneg.
Dylunio a Gweithgynhyrchu
Dysgwch sut i ddiffinio problemau, nodi gofynion a chymhwyso egwyddorion peirianneg o fewn dylunio, gweithgynhyrchu, deunyddiau ac ymarfer.
Rhaglenni Cyfrifiadura Peirianneg
Dewch i ddeall y defnydd o gyfrifiaduron i efelychu a datrys problemau ym maes peirianneg, gan gynnwys defnyddio cod rhaglennu a chynllunio gyda chymorth cyfrifiadur.
Mecaneg Beirianyddol 1
Dewch i ddatrys problemau mecaneg mewn systemau statig a dynamig, gan edrych ar gysyniadau allweddol fel straen, plygu, dirdro a dirgrynu.
Gwyddorau Trydanol
Dadansoddwch gylchedau cerrynt tonnog (AC) a cherrynt uniongyrchol (DC), gan gynnwys gwahanol gyfuniadau o ffynonellau gwrthydd/anwythydd/cynhwysor (RLC), foltedd a cherrynt.
Thermohylifau 1
Byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o briodweddau mecanyddol hylif a thermodynamig hylifau a nwyon, gan gymhwyso egwyddorion thermodynamig i brosesau peirianneg allweddol.
Byddwch yn archwilio meysydd allweddol ym maes peirianneg awyrofod, gan gynnwys technoleg roced a gofod a dylunio awyrofod. Byddwch yn defnyddio sgiliau a enillwyd yn y flwyddyn gyntaf i fynd i’r afael â phroblemau peirianneg awyrofod, fel awyrennau RC a rocedi model.
Rheolaeth ac Offeryniaeth
Ewch i'r afael â strategaethau rheoli a ddefnyddir yn eang ar gyfer systemau rheoli ac offeryniaeth mewnbwn sengl ac allbwn sengl (SISO), gan edrych ar wahanol synwyryddion a throswyr.
Thermohylifau 2
Cyfunwch egwyddorion uwch thermodynameg a'u cymhwyso i raglenni peirianneg awyrofod, gan archwilio gwahanol ddulliau dadansoddi ar gyfer hylifau gweithredol.
Deunyddiau Peirianyddol
Defnyddiwch ddulliau profi safonol i nodi beth sy’n achosi methiant, ac archwilio sut mae strwythur, priodweddau a phrosesu deunyddiau peirianyddol yn dylanwadu ar eu defnydd mewn awyrofod.
Mathemateg Peirianyddol Pellach
Dewch â'ch Einstein mewnol i'r amlwg wrth i chi ddatrys heriau peirianyddol gan ddefnyddio modelau mathemategol uwch fel hafaliadau differol, gwerthoedd eigen a thrawsffurfiad z.
Technoleg Roced a Gofod
Dysgwch beth sydd ei angen i gael roced i'r gofod a chadw llong ofod yno'n ddiogel wrth i chi archwilio mecaneg orbitol, gwyddoniaeth roced, roboteg a chyfathrebu lloeren.
Dylunio Awyrofod
Gan weithio mewn grwpiau, byddwch yn datblygu dyluniad awyren cysyniadol ac yn cynhyrchu awyren RC. Byddwch yn archwilio dyluniad roced trwy gynhyrchu model o roced.
Dewch yn arbenigwr awyrofod trwy fagu dealltwriaeth ddofn o strwythur a gyriant llongau gofod. Profwch ehediadau prawf yn yr awyren Jetstream a'r efelychydd hedfan a datblygwch sgiliau proffesiynol trwy arwain prosiect peirianneg i ddod yn 'barod am waith'.
Dadansoddiad Cyfrifiadurol
Defnyddiwch offer sy'n arwain y diwydiant fel meddalwedd Ansys Fluent a thwneli gwynt i ddatrys problemau o fewn dadansoddiad elfennau meidraidd a dynameg hylif cyfrifiannu.
Dynameg Hedfan Awyrennau
Treuliwch amser helaeth yn yr efelychydd hedfan wrth i chi asesu rhinweddau hedfan a thrin awyren a chynhyrchu adroddiad manwl.
Prosiect Unigol
Nodwch, ymchwiliwch a chyflwynwch eich canfyddiadau ar bwnc peirianneg awyrofod sy'n eich diddori, gan ddod â'ch holl sgiliau a gwybodaeth ynghyd.
Gyriant awyrofod
Archwiliwch amrywiaeth o systemau gyriant solid a hylif gan gynnwys peiriannau scramjet a ramjet, a dyluniwch a dadansoddwch eich system eich hun.
Strwythurau a Deunyddiau Awyrofod
Dewch i ddeall egwyddorion dylunio strwythurau a chydrannau awyrofod fel adenydd, cyrff awyrennau, arwynebau rheolaeth, sefydlogyddion a fframiau lloeren.
Rheoli Prosiect a'r Gymdeithas Beirianneg
Paratowch i ffynnu yn y gweithle peirianyddol wrth i chi ddatblygu rhinweddau allweddol yn ymwneud â rheolaeth, sicrhau ansawdd, a gwybodaeth fasnachol ac amgylcheddol.
Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth
Mae gennych y dewis i wneud lleoliad rhyngosod ar ôl eich ail flwyddyn mewn sefydliad peirianneg awyrofod, awyrenegol neu fecanyddol allweddol fel Airbus.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi’n dysgu
Mae’r cwrs BEng Peirianneg Awyrofod yn cyfuno darlithoedd, tiwtorialau, gwaith mewn labordai a seminarau. Byddwch hefyd yn cael ymweld â chyfleusterau mawrion y diwydiant ac elwa o ddarlithoedd gwadd gan ddiwydianwyr ac academyddion blaenllaw sy’n trafod y cynnydd technolegol diweddaraf.
Mae dulliau asesu yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs, yn ogystal ag asesiad ymarferol trwy efelychiadau a thasgau datrys problemau. Mae prosiectau grŵp yn pwysleisio sgiliau cyflwyno, lle byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i gyfoedion. Mae uchafbwynt gwirioneddol yn digwydd yn y flwyddyn olaf, pan fyddwch chi'n hedfan mewn awyren go iawn, gan ddyfnhau eich dealltwriaeth o egwyddorion rheoli ac ymddygiad awyrennau.
Staff Addysgu
Mae gan ein staff ystod eang o arbenigedd ym maes peirianneg. Mae rhai yn datblygu hyn trwy ymchwil o ansawdd uchel, o bwys byd-eang. Mae eraill wedi mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus mewn swyddi peirianneg mawr. Mae’r cyfuniad hwn o gefndiroedd ymhlith ein staff yn cyfoethogi eich profiad, ac yn golygu ein bod nid yn unig yn rhoi cefnogaeth academaidd wych, ond hefyd yn eich helpu i ganfod eich nod yn y diwydiant.
Rydym yn ffodus i gael cewri peirianneg rhyngwladol fel Airbus ar garreg ein drws, ac mae ein staff yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau hyn. Rydyn ni'n gwybod beth mae cwmnïau'n chwilio amdano mewn graddedigion awyrofod, fel y gallwn eich tywys i ddod yn weithiwr gwerthfawr iawn.
Lleoliadau
Rydym yn gwybod nad oes unrhyw beth yn curo mynd allan i'r byd go iawn, gweld sut mae'r diwydiant peirianneg yn gweithredu a datblygu eich sgiliau mewn amgylcheddau go iawn.
Rydym yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau ystyrlon ac mae gennych yr opsiwn i gael blwyddyn ryngosod ar ôl eich ail flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys cyflogwyr peirianyddol mawr fel GE Aviation, Airbus a British Airways Maintenance, ac rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu mwy o gyfleoedd yn y sector awyrofod.
Rydym yn trefnu sawl taith maes ac yn gwahodd arbenigwyr o'r diwydiant o wahanol gwmnïau i draddodi darlithoedd a chefnogi prosiectau, gan roi cipolwg pellach i chi ar fyd gwaith.
Cyfleusterau
Mae'r brifysgol wedi buddsoddi £3.3m yn ei chyfleusterau awyrofod. Byddwch yn cael profiad ymarferol gydag argraffwyr 3D, torwyr dŵr a laser, peiriannau rheoli rhifiadol cyfrifiadurol (CNC), twneli gwynt, a chyfleusterau profi deunyddiau.
Mae ein Canolfan Awyrofod yn cynnwys dwy sied awyrennau gyda Jetstream 31 a gweithdai ar gyfer cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedion, offer llaw, a weldio.
Mae gennym hefyd weithdai cyfansawdd glân a budr, a labordai i gynnal tasgau electronig, afioneg, hydroleg a niwmateg. Gellir rhaglennu'r Merlin MP521 hefyd ar gyfer unrhyw fath o awyren ac mae'n hanfodol wrth ddylunio a pharatoi profion hedfan.
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU
ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Peirianneg Awyrofod
(Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 112 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBC i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BB ar Lefel A i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Mathemateg
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Mathemateg/Gwyddoniaeth a chael o leiaf 112 pwynt tariff UCAS
- Safon T: Pasio (C ac uwch)
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,790
fesul blwyddyn*£9,790
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2027 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2027 Llawn Amser
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.