Cemeg Fferyllol
Wedi’i gynllunio i greu graddedigion cyflogadwy a medrus.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/chemical-and-pharmaceutical-sciences/msc-pharmaceutical-chemistry.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae’r cwrs yn ffocysu ar greu graddedigion cyflogadwy a medrus ar gyfer rolau o fewn y sector fferyllol - un o’r meysydd cyflogaeth mwyaf yn y DU a’r byd, gan ddefnyddio’r cyfleusterau a’r staff arbenigol ym Mhrifysgol De Cymru.
Cynlluniwyd Ar Gyfer
Mae’r MSc mewn Cemeg Fferyllol wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer graddedigion ym maes cemeg er mwyn iddynt deilwra’u harbenigedd tuag at swyddi yn y diwydiant fferyllol. Mae’r diwydiant fferyllol yn ddiwydiant byd-eang, felly mae’r cymhwyster hwn yn arbennig o ddeniadol i raddedigion tramor sydd am wella’u sgiliau a sicrhau swyddi ar hyd a lled y byd.
Llwybrau Gyrfa
- Dadansoddwr fferyllol
- Swyddog sicrhau ansawdd
- Swyddog gwyddor data fferyllol
- Cemegydd datblygu prosesau
- Dadansoddwr rheoli ansawdd
Sgiliau a Addysgir
- Sgiliau ymarferol o fewn labordai’r diwydiant
- Sgiliau rheoli prosiect
- Profi a dadansoddi cynnyrch fferyllol
- Materion rheoliadol a chydymffurfiaeth o ran rheoli ansawdd
- Dadansoddi data a modelu cyfrifiadurol yn y maes fferyllol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Wrth astudio ar ein campws yng Nglyn-taf Uchaf, bydd graddedigion yn ennill sgiliau sy’n benodol i’r diwydiant (e.e. dadansoddi fferyllol) a gwybodaeth (e.e. materion rheoliadol), yn ogystal â sgiliau proffesiynol pwrpasol (e.e. rheoli prosiect, sgiliau ymchwil, a gwyddor data) gan roi mynediad iddynt i’r ystod eang o rolau o fewn y Diwydiant Fferyllol.
Mae gan y cwrs blwyddyn hwn ddau bwynt mynediad, sef mis Medi a mis Chwefror. Mae myfyrwyr yn astudio’r un modiwlau trwy gydol eu cwrs, gan weithio ochr yn ochr, sy’n creu cyfleoedd ar gyfer ehangu rhwydweithiau a chyfeillgarwch. Daw’r ddau gwrs i ben gyda’r prosiectau ymchwil fel y gall y myfyrwyr arddangos yr holl sgiliau a enillwyd ganddynt, nid yn unig ym modiwl y prosiect, ond trwy gydol eu holl fodiwlau.
Rheoli Prosiect a Thechnegau
Mae’r modiwl hwn yn arbennig o berthnasol i’r diwydiant fferyllol lle gallai prosiectau amrywio o fod yn fach (e.e. yn seiliedig ar labordy) i fod yn enfawr (safle cyfan). Bydd y modiwl hwn yn rhoi sylfaen dda i chi yn yr egwyddorion a’r technegau sy’n ymwneud â rheoli prosiectau, fel y gallwch werthuso’r prosesau sy’n gysylltiedig â chynllunio, rheoli, gweithredu a chomisiynu prosiectau penodol.
Ansawdd mewn Gweithgynhyrchu a Dosbarthu Meddyginiaethau
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddiwydiant ac yn edrych ar y modd y mae cwmnïau’n ceisio gwarantu bod y cyffuriau y maent yn eu cynhyrchu a’u dosbarthu o’r ansawdd uchaf i sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd. Mae’n archwilio egwyddorion sylfaenol Sicrwydd Ansawdd, sef elfen allweddol o’r systemau rheoli ansawdd sy’n sail i’r diwydiannau gweithgynhyrchu a dosbarthu fferyllol.
Meddyginiaethau: Cynyddu, Ffurfio a Chynhyrchu (Opsiynol)
Bydd y modiwl hwn yn herio myfyrwyr i feddwl am y ffactorau y mae angen eu hystyried wrth weithio ym maes datblygu proses ar raddfa labordy, er mwyn nodi peryglon posibl neu brosesau a fyddai’n heriol i’w perfformio ar raddfa fwy swmpus, e.e. wrth fynd o’r labordy i ffatri gynhyrchu a darparu llwybrau amgen.
Technegau Dadansoddol ac Ansawdd yn y Labordy
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau labordy sydd eu hangen arnynt i gynnal dadansoddiad labordy cywir wrth archwilio’r theori a’r gofynion sy’n ymwneud ag egwyddorion a phrosesau ar gyfer dilysu dulliau. Pam dilysu? Cefnogir y dysgu gan brofiad ymarferol sylweddol.
Gwyddoniaeth Fformiwleiddio Uwch
Gydag elfen hyfforddi ymarferol sylweddol yn y labordy, mae’r modiwl hwn yn ehangu gwybodaeth y myfyrwyr am fathau, priodweddau, profion a nodweddion y fformwleiddiadau meddyginiaethol gyda ffocws penodol ar systemau fferyllol gwasgaredig. Gall myfyrwyr hefyd ymchwilio’n fanwl i fformiwleiddiad o’u dewis.
Tocsicoleg (Opsiynol)
Mae llawer o gyffuriau mewn gwirionedd yn sylweddau gwenwynig yr ydym yn eu cymryd mewn dosau rheoledig. Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddeall yr egwyddorion y tu ôl i effeithiau tocsicolegol y sylweddau ar y corff a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar hyn. Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth am ystod a dosbarthiad y sylweddau tocsig hyn.
Technegau Cyfrifiadurol a Thechnegau Seiliedig ar Ddata yn y Diwydiant Fferyllol
Wrth astudio’r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfrifiadura uwch a mathemateg gymhwysol, bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y technegau wrth wraidd gwyddor data a pheiriannau fel y’u hamlygir yn y diwydiant fferyllol ac yn nhueddiadau’r dyfodol, e.e. defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddarganfod cyffuriau. Bydd myfyrwyr hefyd yn ennill sgiliau cyfrifiadurol ymarferol trwy ryngweithio â’r systemau hyn.
Prosiect Ymchwil Mawr, Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd
Bydd myfyrwyr yn datblygu neu’n gwella’r sgiliau fydd eu hangen arnynt i weithio mewn lleoliad proffesiynol. Bydd y rhain yn cynnwys sgiliau ymarferol uwch a chymhwysol sy’n benodol i’r diwydiant, sgiliau ymchwil, sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, a sgiliau paratoi ar gyfer cyflogaeth. Bydd y myfyrwyr yn cael modd i arddangos eu bod wedi ennill y sgiliau hyn.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Cyflwyno ac Asesu
Mae’r modd y caiff pob modiwl ei gyflwyno a’i asesu wedi’i gynllunio i sicrhau’r profiad dysgu gorau i’r myfyriwr ac i ddangos cyrhaeddiad clir o ran amcanion dysgu’r modiwl. Mae gweithgareddau dysgu yn cynnwys popeth o ddarlithoedd traddodiadol i weithdai rhyngweithiol, efelychiadau, astudiaethau achos, trafodaethau dosbarth, ac arddangosiadau gan gyfoedion. Gyda ffocws sylweddol ar waith ymarferol a chymhwysol, mae myfyrwyr yn treulio amser sylweddol yn labordai fferyllol a chyfrifiadurol PDC. Cefnogir addysgu personol gan ddeunyddiau ar-lein sylweddol (fideos, ymarferion, darllen ar-lein ac ati). Mae’r asesiadau yr un mor amrywiol â’r dulliau addysgu, ac yn cynnwys popeth o adroddiadau, profion ar-lein, aseiniadau, adolygiadau, traethodau, portffolios, cyflwyniadau, a phosteri. Hefyd, mae modiwl y Prosiect yn ymgorffori “dewis y myfyrwyr” fel elfen newydd o’u hasesiad.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/chemical-and-pharmaceutical-sciences/bsc-pharmaceutical-science.png)
Y Staff Addysgu
Mae’r staff yn angerddol am eu pynciau, ac am brofiad a llwyddiant eu myfyrwyr. Mae’r staff yn hynod gymwys ac yn meddu ar flynyddoedd o wybodaeth a phrofiad, ac mae rhai ohonynt yn hanu o’r diwydiant fferyllol. Ochr yn ochr â hynny, mae PDC hefyd yn cyflogi Arbenigwyr Diwydiant i sicrhau, lle bo angen, bod y dysgu sy’n ymwneud yn benodol â diwydiant yn gwbl gyfredol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-chemistry-research-and-researchers-1.jpg)
Lleoliadau
Mae de Cymru yn ganolbwynt ffyniannus ar gyfer y diwydiant fferyllol/gwyddor bywyd ac mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio i’r gwahanol gwmnïau lleol sydd hefyd yn cymryd myfyrwyr ar leoliadau gwaith yn rheolaidd. Mae ein Modiwl Sgiliau Proffesiynol 60-credyd yn galluogi myfyrwyr sy’n sicrhau lleoliad gwaith i ddefnyddio hynny tuag at elfen ymarferol y modiwl. Anogir myfyrwyr i ddod o hyd i leoliad gwaith yn gynnar yn y cwrs a chânt eu cefnogi gan Brifysgol De Cymru wrth iddynt fetio a sefydlu’r profiad, yn ogystal â chefnogi myfyrwyr yn ystod eu hamser ar leoliad. Codir ffi o £500 ar fyfyrwyr fel tâl i’r cwmni am y costau o gynnal y lleoliad.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/chemical-and-pharmaceutical-sciences/chemical-and-pharmaceutical-sciences-bsc-medicinal-and-biological-chemistry-placeholder-01.png)
Cyfleusterau
Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau dysgu wedi’u lleoli yn Labordai Cemegol a Dadansoddol George Knox a’r labordai cyfrifiadura a leolwyd ar Gampws Glyn-taf PDC. Mae’r labordai yn gartref i offeryniaeth a chyfarpar a welir yn rheolaidd mewn cwmnïau fferyllol, ac o’r herwydd mae’r hyfforddiant ymarferol a dderbynnir yn hynod berthnasol i’r gweithle. Gwasanaethir Campws Glyn-taf gan ei lyfrgell arbenigol ei hun a chyfleusterau eraill i fyfyrwyr; fodd bynnag, rydym hefyd yn defnyddio’r cyfleusterau cyfrifiadura arbenigol ar Gampws Trefforest sy’n gartref i Undeb y Myfyrwyr, y Ganolfan Gyrfaoedd, a’r Swyddfa Myfyrwyr Rhyngwladol, ac yn darparu mynediad i’r rhain yn rheolaidd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/chemical-and-pharmaceutical-sciences/chemical-and-pharmaceutical-sciences-bsc-medicinal-and-biological-chemistry-placeholder-02.png)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd 2: 2 BSc (Anrh) naill ai mewn Cemeg neu Wyddor Fferyllol neu radd sy'n cynnwys cemeg. Bydd ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£10,800
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Er eu bod yn cael eu darparu gan PDC, mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i gael eu côt labordy a sbectols diogelwch addas eu hunain ar gyfer gweithgareddau labordy.
Cost: Amrywiol
Mae’r ffi hwn ond yn daladwy gan fyfyrwyr sydd wedi llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant i dalu costau’r cwmni sy’n croesawu’r myfyriwr PDC.
Cost: I fyny at £300
Mae angen i’r costau a geir wrth ymgymryd â lleoliad (e.e., teithio, llety, prynu unrhyw offer diogelwch personol) gael eu talu gan y myfyriwr
Cost: Amrywiol
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.