Ffilm (Dogfennol)
Mae’r cwrs MA Ffilm (Dogfennol) yn ymwneud ag adrodd storïau dynol drwy ffilm. Gan adeiladu ar eich sgiliau presennol, mae'r cwrs hwn yn hogi eich technegau ac yn dyfnhau eich arbenigedd mewn gwneud ffilmiau dogfen. Byddwch yn arbenigo yn eich maes dewisol, gan baratoi i greu ffilmiau proffesiynol o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu naratifau'r byd go iawn gyda hyder.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£11,060*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Byddwch yn gweithio gyda'r gweithwyr proffesiynol gorau yn y diwydiant ac yn ennill profiad o weithio mewn cwmni cynhyrchu ffeithiol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi ddod yn wneuthurwr ffilmiau dogfen yn y diwydiant heddiw, gan gynnwys adrodd storïau, sgiliau ymchwil, hunan-ffilmio, gwneud ffilmiau gyda chamera sengl a golygu ffilmiau.
Wedi'i gynllunio ar gyfer
Mae'r cwrs MA Ffilm (Dogfennol) ar gyfer myfyrwyr sydd am adrodd storïau go iawn. Gan adeiladu ar eich sgiliau, byddwch yn gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau adrodd storïau a gwneud ffilmiau. Byddwch yn archwilio naratifau bywyd go iawn, gan greu portffolio cryf o waith ystyrlon trwy brofiad ymarferol.
Llwybrau gyrfa
- Cyfarwyddwr Dogfen
- Sinematograffydd dogfennol
- Datblygu rhaglenni ffeithiol
- Newyddiadurwr fideo
- Ymchwilydd Teledu
Sgiliau a addysgir
- Adrodd storïau
- Sgiliau a thechnegau camera
- Cynllunio cynhyrchu rhaglenni dogfen
- Meddwl beirniadol a dadansoddi
- Cydweithredu a rhwydweithio yn y diwydiant
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r cwrs MA Ffilm (Dogfennol) yn cynnig profiad ymarferol a sgiliau uwch mewn rhaglenni dogfen. Trwy fynd i weithio ar leoliadau yn y diwydiant, prosiectau cydweithredol, a chynhyrchiad terfynol, byddwch yn datblygu portffolio sy'n bodloni safonau'r diwydiant. Byddwch yn ennill arbenigedd mewn adrodd storïau, ffilmio eich hun, a phrosesau cynhyrchu, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn gwneud ffilmiau a rhaglenni dogfen.
Diwydiant
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno profiad gwaith yn eich maes dewisol, dan arweiniad partneriaid yn y diwydiant. Mae'r darlithoedd yn cwmpasu mynediad i'r diwydiant a phroffesiynoldeb, gwyliau ffilm a chodi arian, ac yna gweithdai i'ch helpu i ddatblygu eich presenoldeb ar-lein a phortffolio CV/rîl arddangos.
Ymarfer Crefft Arbenigol / Ymarfer Crefft Arbenigol Uwch
Cyfle i ddatblygu sgiliau uwch yn y ddisgyblaeth o'ch dewis drwy ddarlithoedd, gweithdai, ymarferion ymarferol a thiwtorialau. Byddwch yn adeiladu portffolio i’w gyflwyno sy'n bodloni meini prawf asesu a safonau'r diwydiant.
Theori ac Ymarfer Ffilm
Mae'r modiwl hwn yn archwilio fframweithiau damcaniaethol a beirniadol allweddol a'u cymhwyso i ymarfer ffilm cyfoes. Byddwch yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig a chlyweledol sy'n ymgysylltu'n greadigol â theori a beirniadaeth ffilm.
Ymarfer Cydweithredol
Yn y modiwl hwn, byddwch yn gweithio gyda myfyrwyr o'r llwybrau eraill mewn grwpiau cynhyrchu, gan wneud ffilm 6 – 9 munud. Byddwch yn dysgu sut i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm, yn dod i ddeall prosesau cynhyrchu a hierarchaethau, ac yn dysgu cwrdd â therfynau amser a rheoli cyllidebau.
Prosiect Cynhyrchu Mawr
Yn y prosiect mawr olaf hwn, byddwch yn gwneud ffilm 12-15 munud a deunyddiau ategol, naill ai'n unigol neu drwy gydweithio, gydag arweiniad ac adborth parhaus.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2: 2 o leiaf mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol priodol; neu HND/HNC a phrofiad perthnasol; neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol. Ystyrir y rhai heb gymwysterau o'r fath yn unigol, lle bydd profiad blaenorol yn cael ei ystyried.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£11,060
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch
astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae gan PDC gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur eich hun, sy'n gallu rhedeg Microsoft Office 365. Gall myfyrwyr gael mynediad at gopi o Microsoft Office ac Adobe Creative Suite am ddim.
Cost: I fyny at £2000
Argymhellir bod sinematograffwyr a myfyrwyr ffilmiau dogfennol yn prynu eu cerdyn SSD eu hunain. Pan fyddwch yn dechrau'r cwrs, cewch eich cynghori ynghylch pa gyflymder a chapasiti i'w brynu.
Cost: I fyny at £40
Argymhellir bod myfyrwyr ar y llwybrau sinematograffeg, cyfarwyddo, ffilmiau dogfennol a golygu yn prynu eu gyriannau caled allanol eu hunain. Isafswm o 2GB, mae mecanyddol yn iawn ond SSD os gallwch ei fforddio.
Cost: I fyny at £120
Efallai y bydd cyfle ar gyfer teithiau addysgol, fel ymweliadau â stiwdios. Ar y cyfan, bydd y rhain yn lleol i'r ardal ac ni fydd unrhyw gost neu gost isel. Bydd unrhyw deithiau posib sydd angen cost teithio sylweddol yn cael eu cyfleu ymhell ymlaen llaw (Gall pob taith newid a hyfywedd mewn perthynas â nifer y myfyrwyr)
Cost: £100
Benthyca Offer Cyfryngau
Mynediad at gamerâu, cyfarpar goleuo, sain a recordio o safon y diwydiant, gyda chefnogaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a gwireddu eich gwaith yn hyderus.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Llwyddiant i Fyfyrwyr Ffilm ac Animeiddio yng Ngwobrau RTS Cymru
Mae myfyrwyr a graddedigion Ffilm ac Animeiddio PDC wedi sicrhau wyth gwobr fawreddog yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru (RTS), gan ddathlu creadigrwydd, arloesedd ac adrodd straeon wrth wraidd teledu Cymru. Roedd eu prosiectau arobryn yn cwmpasu adloniant, drama, comedi ac adrodd straeon ffeithiol, gan danlinellu ymrwymiad y brifysgol i feithrin talent greadigol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Ar y cwrs MA Ffilm (Dogfennol), byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o weithdai, seminarau, darlithoedd, tiwtorialau, a dosbarthiadau meistr gyda siaradwyr gwadd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Bydd eich asesiad yn seiliedig ar dasgau ymarferol yn deillio o friffiau byw a phrosiectau cynhyrchu (70%), ynghyd â myfyrdodau ysgrifenedig a dadansoddiad beirniadol o'ch gwaith (30%).
Staff addysgu
Rydyn ni’n dîm medrus iawn, gydag ystod eang o brofiad diweddar yn y diwydiant. Mae ein staff yn cynnwys gwneuthurwyr ffilmiau arobryn sy'n parhau i weithio yn y diwydiant, gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn gyfredol ac yn flaengar ar draws y radd.
Mae’r MA Ffilm yn defnyddio ein cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol presennol y diwydiant trwy ddarlithoedd gwadd, dosbarthiadau meistr, ymweliadau allanol, a chyfleoedd i ymgynghori.
Mynd i weithio ar leoliadau a phrofiad gwaith
Rydyn ni’n falch o gydweithio ag ystod eang o sefydliadau'r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Channel 4, BBC Cymru, BAFTA Cymru, RTS Wales, Ffilm Cymru, a Llywodraeth Cymru. Fel partner addysg yn Screen Alliance Wales, byddwch yn gallu mynd ar leoliadau gwaith gydol eich gradd, yn amrywio o rolau gwirfoddoli mewn Gwyliau Ffilm i waith cynhyrchu pan fo rhaglenni teledu a ffilmiau yn cael eu saethu.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys modiwl profiad gwaith unigryw gyda chyflogwyr ffilm a theledu lleol mawr, yn ogystal â llawer o gyfleoedd cysgodi a gwaith â thâl a di-dâl gyda gwahanol gwmnïau'r diwydiant sgrin.
Cyfleusterau
Rydyn ni’n cynnig cyfleusterau o safon y diwydiant ar ein Campws yng Nghaerdydd sy'n cynnwys sinema ar y safle ble gallwch arddangos eich gwaith a chwarae eich hoff ffilmiau.
Fel myfyriwr ffilm, byddwch yn gallu manteisio ar ein stiwdio ffilm sydd â’r holl offer angenrheidiol gan gynnwys Arri Alexa, Black Magic Ursa, a chamerâu Sony, ystod o feicroffonau proffesiynol, goleuadau LED, traciau, doliau ac offer gafael. Popeth sydd ei angen arnoch i ymarfer gwneud ffilmiau mewn man diogel a sicr.
Rydyn ni hefyd yn cynnig ystafelloedd gorffen o'r radd flaenaf ar gyfer golygu fideo proffesiynol, cymysgu sain, a graddio lliw. Gan gynnwys pecynnau Adobe Creative, Movie Magic a Final Draft.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.