Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch
Mae'r cwrs MSc Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch yn cychwyn gyda modiwl ar-lein cychwynnol 10 wythnos a fydd yn datblygu sgiliau mewn arfarnu beirniadol a gwybodaeth am fethodolegau ymchwil.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Mae'r cwrs MSc blwyddyn mewn Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch ar gael i'r rhai sydd wedi cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch (120 credyd). Gall hyn fod o Ddiploma MSc, Prifysgol De Cymru neu o brifysgol arall yn y DU (ar ôl cwblhau modiwlau tebyg).
Trosolwg o'r Modiwl
Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol
Mae'r modiwl yn cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos a’i nod yw datblygu sgiliau mewn gwerthuso beirniadol a gwybodaeth am fethodolegau ymchwil a ddefnyddir mewn Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch.
Mae'r modiwl yn cynnwys gweithgareddau asesu ffurfiannol gorfodol i gefnogi'ch dysgu a'ch datblygiad cyn modiwl y prosiect proffesiynol.
Prosiect Proffesiynol
Bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o waith yn seiliedig ar brosiect clinigol sy'n berthnasol i'ch ymarfer.
Ar ôl i chi ddewis prosiect penodol, byddwch yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect o oddeutu 1,500 o eiriau. Yn dilyn cymeradwyo'ch cynnig, byddwch wedyn yn cwblhau prosiect proffesiynol 10,500 o eiriau.
I gynhyrchu'r prosiect proffesiynol, byddwch yn parhau i astudio ar-lein.
Mae llawer o'r gwaith yn hunangyfeiriedig, ond byddwch yn derbyn arweiniad gan eich tiwtor drwy gydol y modiwl.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gan fod ein cyrsiau'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl ar-lein, maent yn hygyrch i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig y DU a rhyngwladol.
Yn nodweddiadol, bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.
Dogfennau Angenrheidiol:
- Copi o'ch CV wedi'i ddiweddaru gan gynnwys eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni.
- Copi o'ch tystysgrif gradd israddedig.
- Enw a chyfeiriad e-bost rhywun sy'n gallu darparu geirda, gall hwn fod yn gydweithiwr gwaith, yn gyflogwr neu'n gyn-diwtor.
- Datganiad personol manwl yn egluro pam yr hoffech chi ddilyn y cwrs.
- Copi o'ch prawf o gymhwysedd Saesneg (gweler isod).
Gofynion Ychwanegol:
Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf mewn disgyblaeth briodol, neu HNC ynghyd â phum mlynedd mewn diwydiant, neu HND ynghyd â thair blynedd mewn diwydiant. Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, byddwn yn ystyried eich achos yn unigol.
Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac yn gofyn am Saesneg ar lefel IELTS 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna