MSc

Meddygaeth Arennol

Caiff yr MSc mewn Meddygaeth Arennol ei ddarparu gyda'n Diploma MSc partner cydweithredol, ac mae wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydyn nhw'n arbenigwyr arennol ond sy’n gweld cleifion sy'n arddangos symptomau clefyd yr arennau yn aml.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Mae gan gynnwys y cwrs ffocws clinigol. Fe'i cynlluniwyd ar sail ar ymchwil helaeth gydag ymarferwyr gofal sylfaenol, mae'n berthnasol iawn ac mae'n cynnwys y datblygiadau diweddaraf mewn meddygaeth arennol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae rhai nad ydynt arbenigwyr arennau'n dod ar draws clefyd yr arennau yn aml mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, felly mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y rheng flaen angen y sgiliau a'r wybodaeth.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Arbenigwr Arennau 
  • Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Sgiliau a addysgir

  • Sgiliau Clinigol
  • Ymchwil

Trosolwg o'r Modiwl

Mae'r MSc yn ddilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Arennol ac, ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn derbyn MSc mewn Meddygaeth Arennol gan Brifysgol De Cymru. Gallwch astudio'r MSc mewn Meddygaeth Arennol dros flwyddyn neu ddwy flynedd. I astudio dros flwyddyn, bydd angen i chi fod wedi cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Arennol yn llwyddiannus - naill ai gyda Diploma MSc neu brifysgol arall yn y DU ar ôl cwblhau modiwlau tebyg. Gallwn drafod hyn gyda chi fel rhan o'ch cais.

Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol

Nod y modiwl hwn yw helpu myfyrwyr i adnabod, deall, dehongli a chymhwyso dulliau a ddefnyddir mewn ymchwil gofal iechyd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fethodolegau sy'n benodol i ymchwil meddygaeth arennol.

Prosiect Proffesiynol

Byddwch yn datblygu eich gallu i werthuso'n feirniadol feysydd penodol o ymarfer clinigol, ymchwil a/neu sefydliadol a datblygu sgiliau mewn ymchwil annibynnol, astudio ac ysgrifennu ar gyfer cyhoeddi.

Mewn partneriaeth â

Gofynion Mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Disgwylir i fyfyrwyr ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol yn yr 8 wythnos gyntaf. Mae myfyrwyr yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau). 

Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.

Staff addysgu

Cewch eich addysgu gan Richard Smith, Neffrolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Ymchwil ac Arloesi yn Ysbyty Ipswich, sef cyfarwyddwr y cwrs. 

Bydd y myfyriwr a'r tiwtor yn rhyngweithio'n rheolaidd (wythnosol) ar ardal drafod benodol y myfyrwyr/tiwtor neu drwy unrhyw ddulliau cyfathrebu eraill y mae'r ddau barti yn eu hystyried yn briodol (ffôn/SKYPE/e-bost).

Cyfleusterau

Bydd gennych fynediad at holl ddeunyddiau dysgu'r Brifysgol, gan gynnwys cyfnodolion a chyhoeddiadau ar-lein.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mewn ymarfer clinigol, mae rhai nad ydynt yn arbenigwyr arennau yn dod ar draws clefyd yr arennau’n aml, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, yn enwedig gan ei fod yn gymhlethdod mewn cyflyrau cyffredin, megis diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Felly, mae angen i'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y rheng flaen, gan gynnwys gofal sylfaenol ac unedau arbenigol, fod â’r sgiliau a'r wybodaeth i ymdrin â darpar gleifion neffroleg yn hyderus ac yn effeithiol.  Bydd y cwrs yn rhoi'r gallu a'r wybodaeth hon i chi.

 

 

Cymorth gyrfaoedd

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna