Meddygaeth Esgyrn a Chalsiwm
Mae'r angen byd-eang am ddatblygu gwybodaeth mewn meddygaeth esgyrn a chalsiwm yn amlwg. Gyda 800 miliwn o bobl yn cael eu hystyried yn danfaethedig a mwy na 3.5 biliwn mewn perygl o fod â diffyg calsiwm (Harinarayan, Akhila a Shanthisree, 2021), mae'n hanfodol gwella gwybodaeth ar bob lefel o ofal iechyd ac ymchwil.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Mae'r rhaglen hon yn cofleidio persbectif rhyngwladol, gan groesawu dysgwyr o gefndiroedd amrywiol a meithrin cymuned fyd-eang. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddysgu gan gyfoedion ac arbenigwyr ledled y byd, gan annog cyfnewid syniadau a phrofiadau ar draws ffiniau.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r rhaglen Meddygaeth Esgyrn a Chalsiwm gyflym hon wedi'i hanelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn meddygaeth esgyrn a chalsiwm ar draws sbectrwm eang o leoliadau iechyd cyhoeddus, gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Meddyg Teulu
- Nyrs
- Fferyllydd
- Maethegydd
- Ffisiotherapydd
Y sgiliau a addysgir
- Datrys problemau uwch
- Meddwl lefel uwch
- Meddwl yn feirniadol
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r cwrs hwn yn cynnig archwiliad arbenigol a chynhwysfawr o feddyginiaeth calsiwm ac esgyrn. Fe'i cynlluniwyd i arfogi ymarferwyr gofal iechyd â gwybodaeth a sgiliau manwl yn ymwneud â ffisioleg calsiwm ac esgyrn, gan gwmpasu meysydd fel anhwylderau parathyroid, osteoporosis, a chyflyrau esgyrn metabolig fel clefyd Paget.
Datblygwyd y cwricwlwm mewn cydweithrediad ag arbenigwyr blaenllaw yn y maes. Mae hyn yn sicrhau bod y rhaglen yn adlewyrchu'r ymchwil, canllawiau clinigol ac arferion gorau diweddaraf.
Ffisioleg a Pathoffisioleg Homeostasis Calsiwm a Metaboledd Esgyrn
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth fanwl i weithwyr gofal iechyd proffesiynol o'r mecanweithiau ffisiolegol a phathoffisiolegol sy'n ymwneud â homeostasis calsiwm a metaboledd esgyrn.
Anhwylderau Metaboledd Mwynau ac Anhwylderau Parathyroid
Nod y modiwl hwn yw paratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i reoli anhwylderau sy'n gysylltiedig â metaboledd mwynau a swyddogaeth barathyroid yn effeithiol.
Clefydau Esgyrn Metabolig
Nod y modiwl hwn yw galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud diagnosis, monitro a rheoli gwahanol glefydau esgyrn metabolig a wynebir mewn ymarfer clinigol.
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
I sicrhau eich lle ar y cwrs, fel arfer bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn pwnc perthnasol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Mae'r rhaglen hon yn cael ei darparu’n gyfan gwbl drwy ein platfform dysgu ar-lein.
Mae dysgu'n digwydd yn bennaf ar ein fforwm academaidd lle mae myfyrwyr yn ymchwilio, yn ymateb i ac yn trafod senarios achos sy'n gryf yn glinigol, ac yn ymgymryd ag ymarfer adfyfyriol. Mae'r drafodaeth hon yn cael ei harwain a'i chefnogi gan ein tîm o diwtoriaid arbenigol sydd eu hunain yn arweinwyr ym maes Meddygaeth Esgyrn a Chalsiwm.
Byddwch yn dysgu ymhlith grŵp o gyfoedion sy’n weithwyr gofal iechyd proffesiynol amlddisgyblaethol ledled y byd. Gallwch rannu arferion gorau â nhw a manteisio ar bersbectif byd-eang.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna