Meddygaeth Fenopos
Mae cymdeithas heddiw yn fwy gwybodus nag erioed o'r blaen ynghylch camau’r menapos a rheoli'r menopos. Bydd sicrhau lle ar y Dystysgrif Ôl-raddedig hon mewn Meddygaeth Fenopos yn rhoi hwb i'ch awdurdod, yn cefnogi eich dilyniant gyrfa ac yn cyfrannu at ymchwil bwysig ar y pwnc hwn.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Bydd y rhaglen hon hefyd yn eich galluogi i ymchwilio i'r symptomau systemig sy'n gysylltiedig â'r menopos, fel newidiadau i'r croen a phyliau o wres.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol sydd â diddordeb mewn menopos a'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal menopos, gan gynnwys y rhai mewn gofal cymunedol, sylfaenol ac eilaidd.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Graddedigion meddygol sydd â diddordeb mewn gofal menopos
- Ymarferwyr gofal iechyd sydd â diddordeb mewn gofal menopos
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd astudio'r cwrs menopos hwn ar-lein yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i gyfranogwyr o'r menopos, ei ddiagnosis, therapïau adfer hormonau, rheolaeth hirdymor a chyflyrau cysylltiedig.
Bydd y cwrs menopos chwe mis, cyfredol a chryno hwn yn cynnwys trafod senarios achos sy’n gryf yn glinigol, gyda chyfoedion ac arbenigwyr ar Therapi Adfer Hormonau (HRT), ynghyd â strategaethau rheoli hirdymor.
Hanfodion Meddygaeth Fenopos
Mae'r modiwl hwn yn darparu trosolwg cynhwysfawr o menopos, peri-menopos, a methiant ofarïaidd cynamserol. Mae hefyd yn ymchwilio i'r symptomau systemig sy'n gysylltiedig â'r menopos, fel newidiadau i'r croen a phyliau o wres.
Therapi Adfer Hormonau
Nod y modiwl hwn yw galluogi cyfranogwyr i ddatblygu arbenigedd mewn therapïau adfer hormonau ar gyfer rheoli'r menopos. Bydd cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth fanwl o'r egwyddorion sy'n sail i therapïau adfer hormonau, gan gynnwys eu manteision, risgiau, arwyddion a’u croes-arwyddion. Nod y modiwl yw paratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i deilwra cyfundrefnau therapïau adfer hormonau, monitro ymateb cleifion, ac addasu cynlluniau triniaeth yn ôl yr angen. Bydd cyfranogwyr yn gwerthuso'n feirniadol y sail dystiolaeth, ffarmacocineteg, a ffarmacodynameg therapïau adfer hormonau i wneud penderfyniadau gwybodus ac optimeiddio canlyniadau cleifion.
Rheoli Menopos a Chyflyrau Cysylltiedig yn y Tymor Hir
Rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr allu rheoli'r menopos yn effeithiol yn y tymor hir a mynd i'r afael â chyflyrau cysylltiedig. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar strategaethau rheoli hirdymor a chynhwysfawr, gan gynnwys addasiadau i ffordd o fyw, triniaethau nad ydynt yn hormonaidd, a therapïau cyflenwol. Bydd cyfranogwyr yn archwilio rheoli cyflyrau fel osteoporosis ac iechyd cardiofasgwlaidd mewn menywod sy’n profi menopos. Y nod yw paratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol â'r gallu i ddatblygu cynlluniau triniaeth wedi'u personoli, monitro cynnydd cleifion, a darparu gofal parhaus i optimeiddio rheolaeth o'r menopos a gwella canlyniadau cleifion.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
I sicrhau eich lle ar y cwrs, fel arfer bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn pwnc perthnasol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Cynhelir ein cyrsiau'n gyfan gwbl ar-lein drwy ddysgu hunangyfeiriedig o bell. Byddwch yn derbyn arweiniad drwy gydol eich cwrs gyda thrafodaethau academaidd wedi'u hysgogi gan diwtoriaid, sy'n seiliedig ar senarios achos sy'n gryf yn glinigol.
Mae'r rhain fel arfer yn digwydd mewn grwpiau o 10-20 o fyfyrwyr, sy'n eich galluogi i gyfathrebu'n glir â'ch tiwtor a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae Darpariaeth Ar-lein o Bell yn fodd darparu ar gyfer myfyriwr unigol sy'n astudio cwrs yn gyfan gwbl ar-lein lle nad oes unrhyw ran o’r dysgu yn cael ei ddarparu neu ei gefnogi drwy ddulliau wyneb yn wyneb. Mae hyn yn rhoi elfen gref o reolaeth dros amser, man a chyflymder y ddarpariaeth.
Staff addysgu
Cewch eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan dîm ymroddedig o arbenigwyr addysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna