MSc

Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol

Mae'r cwrs Meistr ar-lein hwn mewn Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol wedi'i gynllunio i fod yn ymarferol ac â ffocws clinigol a bydd yn canolbwyntio ar gymhwyso egwyddorion gwyddonol i ofal uniongyrchol cleifion.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Nod y Diploma MSc, sy'n cael ei chynnal gyda'n partneriaid, yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn ymgysylltu â materion a dadleuon ynghylch rôl egni, gan gynnwys archwilio'r cwestiynau technegol a pholisi sy'n codi.

Mewn partneriaeth â

Learna | Diploma MSc
<logo>

Llwybrau Gyrfa

  • Meddyg Teulu
  • Hyfforddeion Gofal Eilaidd mewn Diabetes
  • Cardiolegydd 
  • Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
  • Nyrs Practis

Sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau
  • Sgiliau clinigol

Trosolwg o'r Modiwl

Mae myfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r cwrs Diploma Ôl-raddedig yn gwneud yr MSc blwyddyn sy'n cynnwys y modiwlau canlynol.

  • Methodolegau Ymchwil a Gwerthusiad Beirniadol mewn Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol
  • Prosiect Proffesiynol

Bydd myfyrwyr sy'n penderfynu cofrestru'n uniongyrchol ar yr MSc (yn hytrach na'r Dip Ôl-raddedig) yn gwneud y fersiwn dwy flynedd, sy'n cynnwys y modiwlau canlynol.

  • Egwyddorion Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol
  • Rheoli Risg Cardiofasgwlaidd
  • Metabolaeth Lipid mewn Ymarfer Clinigol
  • Rheoli Anhwylderau Lipid
  • Gorbwysedd: Diagnosis a Rheolaeth
  • Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol mewn Sefyllfaoedd Arbennig
  • Methodolegau Ymchwil a Gwerthusiad Beirniadol mewn Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol
  • Prosiect Proffesiynol

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.

Gofynion Ychwanegol:

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch chi'n gwneud cyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio ymarfer myfyriol i'ch helpu chi i ystyried sut y gellir trosi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar y cwrs yn waith ac ymarfer bob dydd.

Disgwylir i fyfyrwyr ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol yn ystod yr 8 wythnos gyntaf. Mae myfyrwyr yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).

Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.

Staff addysgu

Ar ôl cwblhau MD mewn bioleg fasgwlaidd, mae Dr Dev Datta yn cynnal clinig ffactor risg cardiofasgwlaidd a lipid a'r gwasanaeth afferesis lipoprotein yng Nghymru erbyn hyn. Mae’n arweinydd meddygol ar gyfer Gwasanaeth Hypercholesterolaemia Teuluol Cymru hefyd.

Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mae ein cwrs MSc Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol wedi'i ddatblygu ar gyfer meddygon teulu, hyfforddeion gofal eilaidd mewn diabetes, llawfeddygaeth fasgwlaidd, cardioleg, biocemeg feddygol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsys practis sy'n rhedeg clinigau cardiofasgwlaidd sy'n dymuno datblygu eu sgiliau yn y maes gwaith hwn.

 

Cymorth gyrfaoedd

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna