Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig
Bu twf dramatig ym mhoblogrwydd triniaethau cosmetig ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys pigiadau tocsin botulinwm, llenwyr dermol, triniaeth laser a mwy.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig, a gaiff ei haddysgu'n llwyr ar-lein, wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer meddygon, deintyddion, therapyddion deintyddol, fferyllwyr a nyrsys, ac fe'i datblygwyd er mwyn hyrwyddo a gwella'r wybodaeth broffesiynol sy'n sail i ymarfer mewn meddygaeth gosmetig.
CYNLLUNIWYD GYFER
Meddygon, deintyddion a nyrsys sydd angen cymhwyster ôl-raddedig i gefnogi eu dysgu proffesiynol a'u datblygiad clinigol i ddod yn ymarferydd esthetig.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Ymarferydd Esthetig
Trosolwg o'r Modiwl
Sut byddwch chi'n dysgu
Sut byddwch chi'n dysgu
Cynhelir ein cyrsiau yn gyfan gwbl ar-lein trwy ddysgu o bell hunangyfeiriedig. Byddwch yn derbyn arweiniad drwy gydol eich cwrs gyda thrafodaethau academaidd a ysgogir gan y tiwtor, sy'n seiliedig ar senarios achos sy'n gyfoethog yn glinigol. Mae'r rhain yn digwydd mewn grwpiau o 10-15 o fyfyrwyr fel arfer, sy'n eich galluogi i gyfathrebu'n glir â'ch tiwtor a'ch cyd-fyfyrwyr.
Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfuniad o weithgareddau modiwl hefyd a allai fod ar sail grŵp a/neu unigolyn, yn dibynnu ar y modiwl. Mae'r dulliau addysgu arloesol hyn yn eich galluogi i ragweld sut y bydd eich astudiaethau yn eich cynorthwyo yn eich gwaith a'ch ymarfer bob dydd.
Staff addysgu
- Dr Karl New, Arweinydd y Cwrs
- Dr Ana Cristina Diniz Silva, Arweinydd y Rhaglen
Mae ein Tîm Cymorth Myfyrwyr ymroddedig ar gael i helpu gydag unrhyw broblemau y gallech eu hwynebu. O lywio eich ffordd drwy ein platfform ar-lein i'ch cynghori ar ddyddiadau cau, gall ein tîm gynorthwyo gydag unrhyw gwestiynau neu heriau a allai fod gennych ar hyd y ffordd.
Cyfleusterau
Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.
GOFYNION MYNEDIAD
Fel arfer, bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gymhwyser cyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, megis gradd feddygol neu nyrsio.
Bydd gweithwyr gofal iechyd cofrestredig nad oes ganddynt y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol, a gall amrywiaeth eang o brofiad blaenorol gael ei ystyried. Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith ar gyfer asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio’n hyderus ar lefel ôl-raddedig, ac i ddangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.
Dogfennau Angenrheidiol
- Copi o’ch CV diweddaraf yn cynnwys eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni.
- Copi o’ch tystysgrif gradd israddedig.
- Enw a chyfeiriad e-bost rhywun sy’n gallu darparu geirda – gallai hyn fod yn gweithiwr, cyflogwr neu diwtor blaenorol.
- Datganiad personol manwl yn egluro pam yr hoffech astudio’r cwrs.
- Copi a dystiolaeth o’ch cymhwysedd yn y Saesneg.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan LearnaSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.