Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig
Mae'r Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig, a addysgir yn llwyr ar-lein, wedi'i ddatblygu gyda'r pwrpas penodol o hyrwyddo a gwella'r wybodaeth sy'n sail i ymarfer mewn meddygaeth gosmetig.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Bu twf dramatig ym mhoblogrwydd gweithdrefnau cosmetig ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys pigiadau tocsin botwlinwm, llenwyr dermol, triniaeth laser a mwy.
DYLUNIWYD AR GYFER
Meddygon, deintyddion a nyrsys sydd angen cymhwyster ôl-raddedig i gefnogi eu dysgu proffesiynol a'u datblygiad clinigol i ddod yn ymarferydd esthetig.
Mewn partneriaeth â
Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
Ymarferydd Esthetig
Trosolwg o'r Modiwl
Nod y Diploma Ôl-raddedig dysgu o bell rhan-amser mewn Meddygaeth Gosmetig, a gyflwynir dros flwyddyn, yw hyrwyddo a gwella gwybodaeth gweithwyr proffesiynol sy'n sail i ymarfer mewn meddygaeth gosmetig. Mae'n cynnwys chwe modiwl (120 credyd), pob un yn chwe wythnos o hyd, sy'n werth 20 credyd yr un.
Trosolwg o Anatomeg, Ffisioleg a Materion Proffesiynol
Nod y modiwl yw mynd i'r afael â'r gwyddorau bywyd sy'n sail i feddygaeth gosmetig a'r materion proffesiynol a moesegol sy'n codi wrth ymarfer.
Triniaethau Tocsin
Mae'r modiwl hwn yn mynd i'r afael â botwliaeth fel afiechyd a ffarmacoleg tocsinau a thriniaethau botwlinwm.
Llenwyr Dermol
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am lenwyr wyneb, colli cyfaint, padiau braster wyneb a sut y gall trin wyneb sydd wedi colli cyfaint gael effaith ar wyneb sy'n heneiddio.
Triniaethau Croen mewn Meddygaeth Gosmetig
Nod y modiwl hwn yw deall effeithiau heneiddio/haul/ysmygu sigaréts ar y croen, a sut y gall triniaethau fel laserau a philio croenol newid elfennau'r croen.
Anhwylderau Gwallt
Nodau'r modiwl yw deall tyfiant gwallt a cholli gwallt a chysylltu hynny â thriniaethau meddygol ar gyfer tynnu gwallt ac amnewid gwallt.
Dulliau Esthetig Eraill
Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth o'r mecanweithiau hormonaidd sy'n sail i heneiddio a strategaethau gwrth-heneiddio effeithiol eraill.
GOFYNION MYNEDIAD
Fel arfer, bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gymhwyser cyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, megis gradd feddygol neu nyrsio.
Bydd gweithwyr gofal iechyd cofrestredig nad oes ganddynt y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol, a gall amrywiaeth eang o brofiad blaenorol gael ei ystyried. Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith ar gyfer asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio’n hyderus ar lefel ôl-raddedig, ac i ddangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.
Dogfennau Angenrheidiol
- Copi o’ch CV diweddaraf yn cynnwys eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni.
- Copi o’ch tystysgrif gradd israddedig.
- Enw a chyfeiriad e-bost rhywun sy’n gallu darparu geirda – gallai hyn fod yn gweithiwr, cyflogwr neu diwtor blaenorol.
- Datganiad personol manwl yn egluro pam yr hoffech astudio’r cwrs.
- Copi a dystiolaeth o’ch cymhwysedd yn y Saesneg.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Mae'r cwrs Meddygaeth Gosmetig yn gyfan gwbl ar-lein a gall unrhyw fyfyriwr sydd â chyfrifiadur a mynediad i'r rhyngrwyd gael gafael arno. Rhoddir myfyrwyr mewn grwpiau tiwtor rhithwir o 10-15 ac maent yn defnyddio fforwm trafod i ryngweithio â'r tiwtor a gweddill y grŵp.
Mae gan bob un o'r chwe modiwl yr un fformat asesu:
- Fforwm Academaidd - 40%
- Dyddiadur Myfyriol - 10%
- Gweithgaredd grŵp/unigol - 20%
- Arholiad seiliedig ar achosion - 30%
Staff addysgu
Dr Karl New, Arweinydd y Cwrs
Cyfleusterau
Fel rhan o'ch astudiaethau, bydd gennych fynediad at dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion a thrafodion cynadleddau.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna