MSc

Peirianneg Awyrenegol

Paratowch eich hunain am yrfa yn y diwydiant awyrenegol. Gallwch gael arbenigedd perthnasol a chael profiad ymarferol o gyfleusterau o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol De Cymru.

Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Siarad gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae’r MSc Peirianneg Awyrenegol yn bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig (CEng) gyda’r Sefydliad Peirianneg Fecanyddol (IMechE) a’r Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS).Mae dilyniant at reolaeth yn allweddol i yrfaoedd peirianwyr ôl-raddedig, felly fel rhan o’r rhaglen peirianneg awyrenegol byddwch yn datblygu sgiliau rheoli perthnasol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r materion ehangach sy’n effeithio’r diwydiant awyrenegol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Peirianwyr awyrenegol sydd â meddwl ymholgar, eisiau deall sut mae pethau’n gweithio a sut i gymhwyso gwybodaeth at ddatrys problemau diwydiant. Tra bod llawer o’n myfyrwyr yn dilyn gyrfaoedd yn y sectorau awyrenegol, mae’r cwrs hefyd yn darparu sylfaen academaidd ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa fel Peiriannydd Mecanyddol.

Wedi’i achredu gan

  • y Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS) a Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE)

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Ardystio ac Addasrwydd i Hedfan
  • Peiriannydd Dylunio
  • Peiriannydd Mecanyddol
  • Rheoli Prosiect
  • Peiriannydd Ymchwil

Y sgiliau a ddysgir

  • Datrys problemau trwy ddadansoddi gan ddefnyddio damcaniaeth gwyddonol a pheirianneg
  • Gwybodaeth ddatblygedig o dechnoleg flaengar
  • Gwaith tîm, rheolaeth ac arweiniaeth.
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Deall cyfrifoldebau proffesiynol 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Wedi’i gydnabod yn broffesiynol

Datblygwyd y radd BEng (Anrh) Peirianneg Awyrenegol hon mewn ymgynghoriad agos â chyrff proffesiynol y diwydiant, gan gynnwys y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS) a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) i hybu eich cyflogadwyedd

Canolbwyntiad ar y diwydiant

Mae gennym gysylltiadau cryf gyda’r diwydiant ac yn rhoi pwyslais sylweddol ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol sy’n seiliedig ar broblemau.

Gwybodaeth arbenigol

Mae’r staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, rhai trwy weithgareddau ymchwil a rhai trwy ymarfer proffesiynol mewn gyrfaoedd diwydiannol.

Trosolwg Modiwl

Trwy gydol rhaglen MSc Peirianneg Awyrenegol, byddwch yn astudio cymysgedd o fodiwlau craidd a dewisol ac yn llunio traethawd hir 60 credyd dan oruchwyliaeth. Sylwer: Os oes gennych radd mewn peirianneg awyrenegol o Brifysgol De Cymru ac yn bwriadu symud ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig, bydd gofyn i chi gwblhau’r modiwlau dewisol mewn deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, deinameg hylif gyfrifiadol uwch, lluedd a thorri a dadansoddiad elfennau cyfyngedig (FEA) pellach.

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch 

Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyriwr i ennill gwybodaeth a sgiliau dadansoddi ar ystod o ddeunyddiau peirianneg modern, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r meini prawf dethol ar gyfer cymwysiadau peirianneg awyrenegol a mecanyddol. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth ar ystod o brosesau, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu.

Lludded a thorri  

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i gynnal dadansoddiad priodol i’w ddefnyddio ar ddyluniadau lle gallai methiant oherwydd lludded fod yn broblem. Mae dadansoddi craciau mewn strwythurau yn caniatáu i'r myfyrwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch camau priodol y gellir eu cymryd i atal methiant trychinebus diangen. 

Dadansoddi Elfennau Cyfyngedig Pellach

Bydd hyn yn galluogi'r myfyriwr i asesu addasrwydd dadansoddi elfennau cyfyngedig i ddatrys ystod o ddadansoddiadau peirianneg gyda dealltwriaeth o’u cyfyngiadau. Byddwch yn dysgu sut i gynnal dadansoddiad elfennau cyfyngedig gan ddefnyddio ystod o dechnegau modelu a dadansoddi'n feirniadol y canlyniadau a gafwyd o feddalwedd elfennau cyfyngedig.

Deinameg Hylif Gyfrifiadol Bellach

Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth ymarferol i fyfyrwyr o'r dulliau rhifiadol sy'n sail i ddadansoddi deinameg hylif gyfrifiadol.

Dulliau Ymchwil i Beirianwyr 

Bydd hyn yn rhoi'r gallu i'r myfyrwyr bennu'r dulliau mwyaf priodol i gasglu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth sy'n berthnasol i faes ymchwil peirianneg. Byddwch yn datblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eich gwaith chi ac eraill. 

Aeroelastigedd 

Mae'r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth integredig i'r myfyriwr o'r rhyngweithio ymhlith grymoedd aerodynamig, inertia ac elastig a sut mae'r rhyngweithio hwn yn effeithio ar ddyluniad awyren. Byddwch yn dysgu sut i ragfynegi, dadansoddi ac asesu ffenomenau aeroelastig ar awyren.

Rheoli Peirianneg Proffesiynol 

Bydd y modiwl hwn yn galluogi’r dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth am arweinyddiaeth strategol yng nghyd-destun busnes peirianneg. Bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau i ddadansoddi damcaniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth yn feirniadol a sut mae'r rhain yn llunio cyfeiriad strategol ac effeithiolrwydd sefydliad. Bydd y dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o gymhwyso'r wybodaeth hon at sgiliau arwain unigol mewn perthynas â pheirianneg broffesiynol, gan ddefnyddio dogfen UK-Spec y Cyngor Peirianneg fel fframwaith ar gyfer arfer dda.

Gyriad Uwch 

Bydd hyn yn darparu'r sgiliau sy'n ofynnol i wneud dadansoddiad manwl o gydrannau peiriannau awyrennau. Byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol ac ymwybyddiaeth feirniadol o berfformiad peiriannau awyrennau, gan ddadansoddi technegau, cydrannau, dyluniad system a thechnolegau cysylltiedig.

Dylunio Awyrennau Uwch 

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth integredig o'r modiwlau ôl-raddedig peirianneg awyrenegol a addysgir, o safbwynt dylunio a synthesis. Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r offer a'r dulliau i chi greu, efelychu a gwneud y gorau o ddyluniad awyren yn gysyniadol.

Traethawd Hir 

Y traethawd hir yw'r gydran olaf a phenllanw'r rhaglen MSc. Mae gwybodaeth a sgiliau elfennau a addysgir y rhaglen MSc yn darparu sylfaen ar gyfer y prosiect ymchwil cynhwysfawr hwn ynghyd ag arweiniad ychwanegol ar fethodoleg ymchwil. Mae'r traethawd hir yn ddarn sylweddol o waith, sy'n dod ag elfennau a addysgir y rhaglen at ei gilydd yn eu cyd-destun mewn gwaith prosiect ymchwil neu ddiwydiannol. Mae'r traethawd hir yn caniatáu i'r myfyrwyr ymgymryd â darn sylweddol o waith ymchwil ymchwiliol ar bwnc peirianneg priodol a datblygu sgiliau'r myfyrwyr ymhellach ym meysydd ymchwil, dadansoddi beirniadol a datblygu datrysiadau gan ddefnyddio technegau priodol.

Bydd myfyrwyr Mynediad Uniongyrchol heb unrhyw wybodaeth flaenorol am Ddeinameg Hylif Gyfrifiadol neu Ddadansoddiad Elfennau Cyfyngedig hefyd yn cael y dewis i ymrestru yn y modiwlau canlynol: 

Dadansoddi Cyfrifiadol Peirianneg - 20 credyd 

 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Cyflwynir yr MSc Peirianneg Awyrenegol yn gyfartal trwy gydol y flwyddyn. 

Mae modiwlau’n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau a gwaith labordy ymarferol, gyda gwaith cwrs a asesir yn barhaus neu gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau.

Staff dysgu

Mae gan y staff sy’n cyflwyno’r modiwlau ystod eang o arbenigedd yn eu meysydd pwnc. 

Mae rhai wedi datblygu’r arbenigedd hwn trwy ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r meysydd ymchwil yn rhyngwladol eu cwmpas tra hefyd yn berthnasol yn lleol, yn aml yn gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol sy’n gweithredu’n lleol.

Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd trwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maent bellach yn defnyddio’r wybodaeth honno i addysgu a pharatoi’r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.

Mae’r cyfuniad hwn o gefndiroedd a gynrychiolir yn y staff academaidd yn rhoi ehangder i brofiad myfyrwyr ac yn eu datblygu’n dechnegol ac yn broffesiynol.

Cyfleusterau

Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi £3.3m yn ei chyfleusterau awyrofod, gan gynnwys estyniad deulawr i’r Ganolfan Awyrofod, sy’n cynnig 1,00m2 o fan gweithdy a labordy, dau awyrendy awyren, ac efelychydd hedfan MP521 i fyfyrwyr peirianneg. 

Mae’r Ganolfan yn gartref i awyren Jetsteam 31, cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedu, offer llaw, a gweithdai weldio. Yn ogystal â hyn, mae’n cynnwys gweithdai cyfansawdd glân a budr, labordai ar gyfer tasgau electronig, afioneg, hydroleg a niwmateg. Mae twneli gwynt is-sonig yn cynorthwyo cyfarwyddyd aerodynamig. 

Mae’r efelychydd Merlin MP521, y gellir ei raglennu ar gyfer unrhyw fath o awyren, yn ganolog i brofi dylunio a pharatoi prawf hedfan.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae gennym gysylltiadau â’r diwydiant hedfan rhanbarthol, sy’n cynnwys GE Aviation, BAMC, Nordam Europe, TES Aviation Group, ac aelodau eraill o Fforwm Awyrofod Cymru.

Mae galw mawr am raddedigion ein gradd Peirianneg Awyrenegol yn y DU, ac yn y sectorau sifil ac amddiffyn ledled y byd. Mae rhai o’r cwmnïau y mae ein graddedigion o’r DU yn gweithio gyda nhw yn cynnwys Rolls Royce, GE Aviation, MBDA, Airbus, Jaguar Land Rover, BAMC, EasyJet, Emirates, Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn (Dstl) a Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU.



Llwybrau gyrfa posibl

Efallai bod gennych lwybr gyrfa clir rydych yn anelu ato, a gallwn eich helpu i chi gyrraedd yno. Ar y llaw arall, efallai eich bod yn dal yn ansicr am y cyfeiriad yr hoffech ei ddilyn a dyna pam y bydd ein darlithwyr, ein cysylltiadau diwydiannol a’n gwasanaethau gyrfaoedd am siarad â chi am y cyfleoedd hyn. Mae’n amser cyffrous i fod yn Beiriannydd – mae’r byd yn wynebu heriau mawr ac rydym ar flaen y gad o ran datblygu atebion i nifer o’r rhain.

 

 

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweliad a CV a’ch helpu i ganolbwyntio ar eich cyfeiriad eich hunain.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf mewn peirianneg awyrenegol neu awyrofod, er y bydd ymgeiswyr eraill sydd â gradd mewn peirianneg berthnasol yn cael eu hystyried. 

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi’ch astudiaeth a’ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Er bod yr adnoddau hyn fel arfer yn fwy na digon i’ch cefnogi i gwblhau eich cwrs, efallai y bydd angen costau ychwanegol, gorfodol a dewisol, ar gyfer pethau fel teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer.

 

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.