MEng

Peirianneg Awyrenegol

Paratowch eich hun ar gyfer gyrfa yn y diwydiant awyrofod. Datblygwch arbenigedd perthnasol a chael profiad ymarferol gan ddefnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol De Cymru.

How to apply Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    92N5

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Y cwrs pedair blynedd Meistr mewn Peirianneg (MEng) yw'r dyfarniad uchaf ar gyfer astudiaethau israddedig ym maes peirianneg ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr mwy galluog. Mae cyfuno ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Awyrenegol â deunydd lefel Meistr yn eich galluogi i sefyll ar wahân trwy ddatblygu set uwch o sgiliau proffesiynol a thechnegol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae gan beirianwyr awyrenegol feddwl chwilfrydig, ac maen nhw’n dymuno deall sut mae pethau’n gweithio a sut mae defnyddio gwybodaeth i ddatrys problemau’r diwydiant. Er bod llawer o'n myfyrwyr yn dilyn gyrfaoedd yn y sectorau awyrofod, mae'r cwrs hefyd yn cynnig sylfaen academaidd i'r rheini sydd â diddordeb mewn gyrfa fel Peiriannydd Mecanyddol.

Wedi’i achredu gan

  • Y Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS)
  • Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE)

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Ardystio ac Addasrwydd i Hedfan
  • Peiriannydd Dylunio
  • Peiriannydd Mecanyddol
  • Rheoli Prosiect
  • Peiriannydd Ymchwil

Y sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau drwy ddadansoddi, gan ddefnyddio damcaniaethau gwyddonol a pheirianyddol
  • Gwybodaeth uwch o dechnoleg arloesol
  • Gweithio mewn tîm, rheoli ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Deall cyfrifoldebau proffesiynol

Still from aeronautical course video - student and lecturer inside of the simulator

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Wedi’i gydnabod yn broffesiynol

Datblygwyd y cwrs gradd BEng (Anrh) Peirianneg Awyrenegol mewn ymgynghoriad agos â chyrff proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys y Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS) a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) i roi hwb i’ch cyflogadwyedd.

Ffocws ar ddiwydiant

Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant ac rydym yn rhoi cryn bwyslais ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol sy'n seiliedig ar broblemau.

Lleoliadau gwaith

Anogir pob myfyriwr peirianneg awyrenegol i gwblhau lleoliad gwaith er mwyn ategu eu hastudiaethau. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi ennill profiad yn gweithio i GE Aviation Wales, Airbus Filton a British Airways Maintenance yng Nghaerdydd.

Gwybodaeth arbenigol

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, rhai drwy weithgareddau ymchwil a rhai drwy ymarfer proffesiynol mewn gyrfaoedd diwydiannol.

Trosolwg o’r Modiwl

Dyma gyfle i chi astudio’r gwyddorau cyfrifiadura, mathemategol a ffisegol sydd eu hangen i ddylunio, datblygu a gweithgynhyrchu amrywiaeth o systemau peirianyddol. Byddwch yn astudio meysydd craidd sy’n darparu sail i faes Peirianneg Awyrenegol, fel gwyddor deunyddiau, mecaneg beirianyddol, thermohylifau, aerodynameg, gyriant a strwythurau awyrennau. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau dadansoddi labordy ar gyfer systemau a brofwyd.

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen beirianyddol hon yn darparu egwyddorion ac arferion gwyddonol hanfodol sy’n gysylltiedig â pheirianneg awyrenegol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i ddefnyddio offer dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu / gweithdai cyffredinol. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae defnyddio pecynnau CAD safonol yn y diwydiant ac iaith rhaglennu.

Mathemateg ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol Yn rhoi hyder i fyfyrwyr ym maes mathemateg ac yn arddangos perthnasedd mathemateg ym maes peirianneg. 

Dylunio a Gweithgynhyrchu Mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth sylfaenol ym maes dylunio peirianyddol, gweithgynhyrchu a deunyddiau, ac yn caffael sgiliau ym maes ymarfer gweithgynhyrchu.

Cymwysiadau Cyfrifiadura Peirianyddol Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r defnydd o raglenni cyfrifiadurol ym maes peirianneg drwy raglennu a dylunio gyda chymorth cyfrifiadur.

Mecaneg Beirianyddol 1 Mae cynnwys y modiwl yn ymwneud yn uniongyrchol â Mecaneg Beirianyddol a Mecaneg Deunyddiau, er mwyn cyflwyno myfyrwyr i broblemau ym maes mecaneg fel y’u cymhwysir i sefyllfaoedd go iawn posibl.

Gwyddorau Trydanol Mae'r modiwl hwn yn cydnabod natur drawsddisgyblaethol peirianneg ym maes ymarfer proffesiynol, ac yn rhoi mewnwelediad i bwysigrwydd gwybodaeth am ddamcaniaethau trydanol a dylunio cylchedau.

Thermohylifau 1 Yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i fyfyrwyr o briodweddau mecanyddol hylif a thermodynamig nwyon a hylifau.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio meysydd allweddol fel thermohylifau, aerodynameg sylfaenol, perfformiad awyrennau a pheirianneg systemau awyrennau. Daw’r ail flwyddyn i ben drwy ddatblygu dyluniad awyrennau cysyniadol mewn amgylchedd tîm, a fydd yn cael ei brofi ar ein hefelychydd hedfan peirianyddol.

Mathemateg Peirianyddol Pellach Bydd Myfyrwyr yn dysgu cymhwyso ystod o ddulliau dadansoddi mathemategol i ddatrys problemau peirianyddol, a byddant yn datblygu modelau mathemategol o systemau peirianyddol i bennu nodweddion gweithredol amlwg.

Integreiddio Systemau Awyrennau a Pherfformiad Systemau Awyrennau

Bydd myfyrwyr yn astudio’r prif systemau awyrennau ac yn datblygu dealltwriaeth o fecaneg awyrennau, gan ddefnyddio dulliau i amcangyfrif perfformiad awyren a sut mae nodweddion dylunio yn effeithio arni.

Dylunio Awyrenegol Cyflwyniad i faes dylunio awyrennau, sy’n canolbwyntio ar ddylunio awyrennau sifil cysyniadol. 

 

 

Rheolaeth ac Offeryniaeth Bydd Myfyrwyr yn dysgu sut i asesu ymddygiadau statig a deinamig offer a systemau rheoli drwy ddulliau dadansoddi sylfaenol a theori rheolaeth mewn parthau amser ac amledd.

Thermohylifau 2 Mae’r modiwl hwn yn ymestyn egwyddorion thermodynameg ac yn eu cymhwyso i ystod o gymwysiadau peirianyddol. Mae cysyniadau llif hylif yn cael eu cyfuno i alluogi myfyrwyr i ddadansoddi ffenomena cymhwysol mwy cymhleth.

Deunyddiau Peirianyddol Mae’r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o ddulliau profi deunyddiau safonol a methiannau mewn deunyddiau. Mae’n datblygu gwybodaeth am y berthynas rhwng strwythur, priodweddau, prosesu ac wedyn defnydd deunyddiau peirianyddol.

Mae modiwlau’r drydedd flwyddyn yn cynnwys aerodynameg, gyriant a strwythurau awyrennau. Byddwch yn dysgu am offer cyfrifiadurol a thechnegau modelu uwch, ac yn cynhyrchu traethawd estynedig. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profion hedfan awyrennau go iawn fel rhan o’n modiwl Dynameg a Rheolaeth Hedfan.

BEng Prosiect Unigol (Craidd): Wedi’i ddylunio i alluogi myfyrwyr i gynnal gwaith ymchwil / prosiectau manwl sy'n berthnasol i'w pwnc. Yn gwella gwybodaeth, hyrwyddo gwaith annibynnol, ac annog dysgu gydol oes.

  • Prosiect Unigol - Dewisol

Dadansoddi Peirianneg Gyfrifiadurol: Ymestyn gwybodaeth dadansoddi peirianneg myfyrwyr gan ddefnyddio technegau elfennau meidraidd. Yn cyflwyno dulliau cyfrifiadurol ar gyfer mecaneg hylif ac aerodynameg peiriannau tyrbo.

Strwythur Awyrennau: Yn cyflwyno hanfodion dylunio strwythurol awyrofod. Mae’n rhoi sylw i adenydd awyrennau, cyrff awyrennau, arwynebau rheolaeth, a sefydlogyddion sydd wedi’u gwneud o ddalenni tenau. Yn ategu a chymhwyso egwyddorion modiwl Mecaneg Beirianyddol 1.

Aerodynameg a Gyriant: Yn adeiladu ar egwyddorion modiwlau Thermohylifau 1 a 2. Mae’n cyflwyno cysyniad llifoedd anghywasgadwy a chywasgadwy, gan bwysleisio eu perthnasedd i gerbydau awyr.

 

 

Gyriant I ddarparu gwybodaeth am hylifau anghywasgadwy a chywasgadwy, yn seiliedig ar fodiwlau Thermohylifau 1 a 2, gwybodaeth am systemau gyriant awyrennau a sgiliau i ddadansoddi paramedrau perfformiad/cylchredau injan confensiynol ac arloesol.

Dynameg a Rheolaeth Hedfan: Yn darparu dealltwriaeth integredig o sefydlogrwydd awyrennau. Dyma gyfle i asesu rhinweddau awyrennau, i ddylunio systemau rheoli dolen gaeedig, a chymhwyso cysyniadau haniaethol / efelychol i greu systemau rheoli deinamig.

Dynameg Hedfan Awyrennau Dealltwriaeth o ymddygiad sefydlogrwydd sefydlog a deinamig yr awyren, a chyfnerthu'r ddealltwriaeth o ffenomenau llifoedd aer cyflym gyda ffocws penodol ar sut maent yn berthnasol i awyrennau.

 

Yn y bedwaredd flwyddyn, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol. Mae'r sgiliau hyn yn cael eu cymhwyso mewn cyd-destunau unigol a grŵp ac yn gwahaniaethu'r myfyrwyr o safbwynt cyflogadwyedd. Yn ogystal, byddwch yn astudio rhai o'r pynciau arbenigol uwch yn ystod y flwyddyn hon.

Prosiect Grŵp MEng Integreiddiol

Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso a gwella eu sylfaen wybodaeth peirianneg, eu dealltwriaeth a'u sgiliau trosglwyddadwy i brosiect dylunio mawr sydd â pherthnasedd ymarferol, lle bo'n bosibl, yn gysylltiedig â diwydiant. Mae'n galluogi myfyrwyr i integreiddio a chymhwyso eu sgiliau peirianneg, rheoli prosiectau a sgiliau ehangach mewn amgylchedd tîm.

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau dadansoddi ar amrywiaeth o ddeunyddiau peirianneg a phrosesau gweithgynhyrchu modern, a byddant wedyn yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r meini prawf dethol ar gyfer cymwysiadau peirianneg.

Dadansoddi Elfennau Meidraidd Pellach

Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gynnal dadansoddiadau elfennau meidraidd priodol gan ddefnyddio ystod o dechnegau modelu, a sut i ddadansoddi'r canlyniadau a gafwyd yn feirniadol.

Deinameg Hylifau Cyfrifiadurol Pellach

Diben y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth ymarferol i fyfyrwyr o’r dulliau rhifiadol sy’n sail i ddadansoddiad dynameg hylif cyfrifiadurol.

Aeroelastigedd 

Mae'r modiwl hwn yn  rhoi dealltwriaeth integredig i fyfyrwyr o'r rhyngweithio rhwng erodynameg, anegni a grymoedd elastig, a sut mae'r rhyngweithio hwn yn effeithio ar ddyluniad awyren.

Gyriant Uwch

Pwrpas y modiwl hwn yw arddangos gwybodaeth ymarferol ac ymwybyddiaeth feirniadol o berfformiad injan awyren, technegau dadansoddi, cydrannau, dylunio systemau a thechnolegau cysylltiedig.

Rheoli Peirianneg Proffesiynol

Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau i ddadansoddi damcaniaethau arwain a rheoli yn feirniadol a sut mae'r rhain yn llywio cyfeiriad strategol ac effeithiolrwydd sefydliad. Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o gymhwyso’r wybodaeth hon i sgiliau arwain unigol mewn perthynas â pheirianneg broffesiynol.

 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch chi’n dysgu

Mae'r cwrs MEng Peirianneg Awyrenegol yn cyfuno darlithoedd, tiwtorialau, gwaith mewn labordai a seminarau. Mae hunan-astudio sylweddol yn hanfodol, gan gynnwys gwaith ymchwil a pharatoi asesiadau. 

Gall myfyrwyr ymweld â chwmnïau mawr yn y diwydiant fel Rolls Royce, GE Aviation, BAMC ac Airbus, gan elwa ar ddarlithoedd gwadd gan ddiwydianwyr ac academyddion blaenllaw sy'n trafod cynnydd technolegol cyfoes. 

Mae dulliau asesu yn cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, efelychiadau, a thasgau datrys problemau. Mae prosiectau grŵp yn pwysleisio sgiliau cyflwyno, gan ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr siarad o flaen eu cyfoedion. 

Yn nodedig, yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn hedfan awyren go iawn, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o egwyddorion rheoli ac ymddygiad awyrennau.

Staff Addysgu

Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau ystod eang o arbenigedd yn eu meysydd pwnc. 

Mae rhai wedi datblygu’r arbenigedd hwn drwy waith ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r meysydd ymchwil yn rhyngwladol eu cwmpas ar yr un pryd â bod yn berthnasol yn lleol, gan weithio’n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy’n gweithredu’n lleol. 

Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd drwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maent bellach yn defnyddio'r wybodaeth honno i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.

Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd a gynrychiolir ymhlith ein staff academaidd yn rhoi ehangder i brofiad y myfyrwyr ac yn eu datblygu yn dechnegol a phroffesiynol.

Lleoliadau

Rydym yn gwybod gwerth profiad gwaith a lleoliadau, ac rydym yn frwd dros weld ein myfyrwyr yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau lleol a chenedlaethol er mwyn helpu myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Cyfleusterau

Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi £3.3m yn ei chyfleusterau awyrofod, gan gynnwys estyniad deulawr i'r Ganolfan Awyrofod, sy'n cynnig 1,000m2 o ofod gweithdai a labordai i fyfyrwyr cyrsiau peirianneg, yn ogystal â dau awyrendy ac efelychydd hedfan MP521.

Mae'r Ganolfan yn gartref i awyren Jetstream 31 a gweithdai cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedion, offer llaw, a weldio. Yn ogystal, mae'n cynnwys gweithdai cyfansawdd glân a budr, labordai i gynnal tasgau electronig, afioneg, hydroleg a niwmateg. Mae twneli gwynt is-sonig yn hwyluso hyfforddiant aerodynameg. 

Mae efelychydd Merlin MP521, y gellir ei raglennu ar gyfer unrhyw fath o awyren, yn hanfodol ar gyfer profi dyluniadau a pharatoi ar gyfer profion hedfan.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae gennym gysylltiadau â’r diwydiant awyrennau rhanbarthol, sy’n cynnwys GE Aviation, BAMC, Nordam Europe, TES Aviation Group ac aelodau eraill o Fforwm Awyrofod Cymru. 

Mae galw mawr am raddedigion ein gradd Peirianneg Awyrenegol yn y DU, ac yn y sectorau sifil ac amddiffyn ledled y byd. Mae rhai o’r cwmnïau y mae ein graddedigion o’r DU yn gweithio gyda nhw yn cynnwys Rolls Royce, GE Aviation, MBDA, Airbus, Jaguar Land Rover, Boeing, EasyJet, Emirates, Defence Science and Technology Laboratory (Dstl) a Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU.

Llwybrau gyrfa posibl

Efallai fod gennych lwybr gyrfa clir yr ydych yn anelu ato, a gallwn eich helpu i’w wireddu. Ar y llaw arall, efallai eich bod yn dal i fod yn ansicr ynghylch y cyfeiriad yr hoffech ei ddilyn a dyna pam y bydd ein darlithwyr, cysylltiadau diwydiannol a gwasanaethau gyrfaoedd eisiau siarad am y cyfleoedd hyn. 

Mae’n amser cyffrous i fod yn Beiriannydd Mecanyddol – mae’r byd yn wynebu rhai heriau mawr ac rydym ar flaen y gad o ran datblygu datrysiadau i lawer o’r rhain.

Cymorth Gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â’r diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweld a CVs a’ch helpu i ganolbwyntio ar gyfeiriad eich gyrfa.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: BBB i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall 
  • Bagloriaeth Cymru: Gradd B gyda BB ar Lefel A 
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC: Rhagoriaeth Rhagoriaeth Teilyngdod mewn pwnc Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Mathemateg. 
  • Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg, gyda 45 credyd Lefel 3 yn cyfateb i 120 pwynt tariff UCAS. E.e 27 Rhagoriaeth, 15 Teilyngdod a 3 Pas. Mae cyfuniadau eraill yn dderbyniol
  • Lefel T: P

Gofynion ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.