MSc

Peirianneg Sifil

Paratoi eich hun am yrfa ym maes Peirianneg Sifil. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Y rhaglen MSc yw eich cyfle i sefydlu neu atgyfnerthu eich gyrfa fel Peiriannydd Sifil. Bydd eich astudiaethau'n datblygu sgiliau beirniadol a dadansoddol, a'r arbenigedd rheoli sydd ei angen i reoli prosiectau peirianneg sifil a gweithredu atebion cynaliadwy. Bydd y cwrs yn darparu'r dysgu sy'n ofynnol i symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bwriedir y cwrs MSc mewn Peirianneg Sifil ar gyfer graddedigion peirianneg sifil neu ddisgyblaeth â chysylltiad agos sy'n dymuno ymestyn eu harbenigedd i lefel uwch wrth baratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol.

Achredir gan

  • Cyd-fwrdd y Cymedrolwyr sy'n cynnwys;
  • Sefydliad y Peirianwyr Sifil
  • Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol
  • Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd
  • Sefydliad Siartredig Priffyrdd Chludiant
  • Permanent Way Institution

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Rheolwr Adeiladu
  • Peiriannydd Adeiladu
  • Rheolwr Datgarboneiddio
  • Peiriannydd Dŵr a Dŵr Gwastraff
  • Peiriannydd Geotechnegol
  • Peiriannydd Seilwaith

Sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau drwy ddadansoddi gan ddefnyddio theori wyddonol a pheirianneg
  • Gwybodaeth ddatblygedig am dechnoleg flaengar
  • Gwaith tîm, rheoli ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Deall cyfrifoldebau proffesiynol 

Placeholder Image 1

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Mae'r cwrs MSc Peirianneg Sifil yn cynnwys Cynllun corfforedig ICE

Gall gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio symud ymlaen tuag at statws CEng trwy lwybr wedi'i deilwra o dan y Cynllun corfforedig. Mae'r cynllun corfforedig hwn yn nodwedd unigryw o’r cwrs gradd meistr ac yn lleihau'r cyfnod sydd ei angen i gyflawni statws Siartredig yn sylweddol.

Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan Gyd-fwrdd y Cymedrolwyr

sy'n cynnwys Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a'r Permanent Way Institution

Dysgu pellach ar gyfer statws CEng

Mae'r cwrs hwn yn bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng). Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd Baglor (Anrh) hefyd sydd wedi'i hachredu fel un sy'n bodloni'r gofyniad academaidd yn rhannol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng).

MSc wedi'i achredu

Bydd angen i ymgeiswyr sy'n cwblhau'r MSc sydd â gradd Baglor achrededig sydd wedi'i hachredu ar gyfer IEng yn unig neu radd baglor heb ei hachredu wneud cais am asesiad academaidd i benderfynu a fyddant yn bodloni'r sylfaen addysgol ar gyfer cofrestru CEng.

Trosolwg o'r Modiwl

Mae gan y cwrs ddau lwybr gwahanol i'ch galluogi i arbenigo mewn naill ai Peirianneg Strwythurol neu Beirianneg Amgylcheddol. Dylech ddewis y llwybr perthnasol – MSc Peirianneg Sifil (Strwythurol) neu MSc Peirianneg Sifil (Amgylcheddol) wrth gwblhau eich cais.

Mae gan y cwrs ddau lwybr gwahanol i'ch galluogi i arbenigo mewn naill ai Peirianneg Strwythurol neu Beirianneg Amgylcheddol. Dylech ddewis y llwybr perthnasol – MSc Peirianneg Sifil (Strwythurol) neu MSc Peirianneg Sifil (Amgylcheddol) wrth gwblhau eich cais.

Llwybr Un 

Mecaneg Strwythurol Uwch

Dealltwriaeth uwch o fecaneg strwythurol i ddatrys problemau peirianneg, gan gynnwys dadansoddi elfennau seismig a meidraidd. 

Dylunio Strwythurol Uwch 

Deall dyluniad strwythurau uwch ac arfer barn briodol, yn seiliedig ar ofynion cleient/tîm dylunio amlddisgyblaeth a chynaliadwyedd. 

Dylunio Strwythurau Pren a Gwaith Maen  

Datblygu technegau dylunio ar gyfer adeiladu pren a gwaith maen ac asesu carbon corfforedig. 

Deunyddiau Peirianneg Sifil Uwch

Datblygu gwybodaeth am amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu a'u defnyddio i gynyddu cynaliadwyedd i'r eithaf. 

Peirianneg Geoamgylcheddol

Datblygu cysyniadau geodechnegol a chymhwyso data maes a labordy i broblemau geoamgylcheddol. 

Rheoli Prosiect Peirianneg Sifil

Datblygu a chymhwyso arferion gorau mewn technegau rheoli adeiladu ar gyfer cynllunio gweithredol a rheoli gwaith peirianneg sifil. 

Traethawd Hir Unigol

Darn o ymchwil ymchwiliol unigol mawr, cynhwysfawr ac arloesol. 

Llwybr Dau

Rheoli Carbon

Datblygu gwybodaeth a dyfnhau dealltwriaeth o dechnolegau carbon isel a dulliau cynaliadwy.

Rheolaeth Amgylcheddol

Ehangu ymwybyddiaeth o faterion ac arferion rheoli amgylcheddol cyfredol a sefydledig, i werthuso'n feirniadol strategaethau ar gyfer gwella busnes.

Peirianneg Amgylcheddol

Datblygu dealltwriaeth o brosesau amgylcheddol a pheirianneg amgylcheddol a'u heffaith ar iechyd y cyhoedd.

Deunyddiau Peirianneg Sifil Uwch 

Datblygu gwybodaeth am amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu a'u defnyddio i gynyddu cynaliadwyedd i'r eithaf.

Peirianneg Geoamgylcheddol

Datblygu cysyniadau geodechnegol a chymhwyso data maes a labordy i broblemau geoamgylcheddol.

Rheoli Prosiect Peirianneg Sifil

Datblygu a chymhwyso arferion gorau mewn technegau rheoli adeiladu ar gyfer cynllunio gweithredol a rheoli gwaith peirianneg sifil.

Traethawd Hir Unigol

Darn o ymchwil ymchwiliol unigol mawr, cynhwysfawr ac arloesol.

 

Rheoli Carbon

Datblygu gwybodaeth a dyfnhau dealltwriaeth o dechnolegau carbon isel a dulliau cynaliadwy.

Rheolaeth Amgylcheddol

Ehangu ymwybyddiaeth o faterion ac arferion rheoli amgylcheddol cyfredol a sefydledig, i werthuso'n feirniadol strategaethau ar gyfer gwella busnes.

Peirianneg Amgylcheddol

Datblygu dealltwriaeth o brosesau amgylcheddol a pheirianneg amgylcheddol a'u heffaith ar iechyd y cyhoedd.

Deunyddiau Peirianneg Sifil Uwch 

Datblygu gwybodaeth am amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu a'u defnyddio i gynyddu cynaliadwyedd i'r eithaf.

Peirianneg Geoamgylcheddol

Datblygu cysyniadau geodechnegol a chymhwyso data maes a labordy i broblemau geoamgylcheddol.

Rheoli Prosiect Peirianneg Sifil

Datblygu a chymhwyso arferion gorau mewn technegau rheoli adeiladu ar gyfer cynllunio gweithredol a rheoli gwaith peirianneg sifil.

Traethawd Hir Unigol

Darn o ymchwil ymchwiliol unigol mawr, cynhwysfawr ac arloesol.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Cyflwynir y radd ôl-raddedig hon mewn Peirianneg Sifil mewn tri bloc mawr sy'n cynnig patrwm dysgu dwys ond hyblyg, gyda dau gyfle mynediad i ymgeiswyr bob blwyddyn – mis Chwefror a mis Medi.

Byddwch yn dysgu trwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau, yn ogystal â darlithoedd gwadd a seminarau gydag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant. Byddwch yn cwblhau traethawd ymchwil ar bwnc o'ch dewis sydd o ddiddordeb gan ddefnyddio ein cyfleusterau labordy rhagorol a'n cefnogaeth arbenigol. Asesir rhai modiwlau trwy waith cwrs, eraill trwy gyfuniad o brosiectau dylunio ac arholiad ffurfiol.

Staff addysgu

Mae ein darlithwyr Peirianneg Sifil yn arbenigwyr yn eu meysydd pwnc, yn sgil gweithio yn y diwydiant neu gydag ef, yn cynnal gwaith ymchwil, yn cyflwyno mewn cynadleddau, yn cyhoeddi eu gwaith, ac yn llywio eich astudiaethau gyda'r syniadau diweddaraf. Yn ogystal â chael eich addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, byddwch yn elwa o siaradwyr gwadd o'r byd peirianneg hefyd.

Lleoliadau

Gall graddedigion peirianneg sifil ymuno ag ymgynghorwyr, contractwyr a chleientiaid peirianneg o'r radd flaenaf, sydd â rhaglenni hyfforddi achrededig sefydledig a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus ledled y byd. Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio.

Mae gan ein gwasanaeth Gyrfaoedd dimau ymroddedig: Tîm profiad gwaith canolog i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy'n cynnwys rhaglen gyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm Menter sy'n canolbwyntio ar syniadau busnes ac entrepreneuriaeth newydd.

Cyfleusterau

Mynediad i amrywiaeth o gyfleusterau safon diwydiant, gan gynnwys:

Laser Mastersizer 2000 

Dadansoddwr thermo-grafimetrig a dadansoddwr thermo-grafimetrig deilliadol

Siambr amgylcheddol Prior Clave

Microsgop delwedd cydraniad uchel

Porosimedr ymyrraeth mercwri

Offer dargludedd thermol

Peiriant tynnol/cywasgiadau Avery Dension 600kN

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein graddedigion MSc Peirianneg Sifil yn gyflogadwy iawn ac mewn sefyllfa gref i gael cyfleoedd gwerth chweil, gyda sgiliau datblygedig iawn mewn meysydd fel rhifedd, gwaith tîm, ysgrifennu adroddiadau a chreadigrwydd. Mae cryn alw am raddedigion Prifysgol De Cymru gan fod safonau academaidd uchel y brifysgol a'r addysgu rhagorol yn denu llawer o recriwtwyr.     

Llwybrau gyrfa posibl

P'un a ydych wedi graddio neu'n weithiwr proffesiynol sydd â phrofiad diwydiannol, mae'r MSc Peirianneg Sifil yn cynnig cyfleoedd rhagorol ar gyfer dilyniant gyrfa. 

Gallwch ddatblygu gyrfa fel peiriannydd sifil, peiriannydd dylunio, peiriannydd niwclear, peiriannydd safle, peiriannydd strwythurol, peiriannydd dŵr, peiriannydd dŵr gwastraff, rheolwr adeiladu, rheolwr prosiect, peiriannydd geodechnegol, neu weithio yn y sectorau rheoli amgylcheddol neu iechyd a diogelwch, gyda chwmnïau ymgynghori cenedlaethol blaenllaw, contractwyr, neu gwmnïau peirianneg sifil cenedlaethol a lleol.

Fel arall, gallwch weithio fel rheolwr technegol neu ymchwil a datblygu mewn ymchwil, awdurdodau rheoleiddio, llywodraeth leol, neu sefydliadau anllywodraethol (cyrff anllywodraethol).

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweld a CVs a'ch helpu i ganolbwyntio ar y trywydd yr hoffech ei ddilyn.

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Bydd gradd Anrhydedd gydag o leiaf 2:2 mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaethau peirianneg cysylltiedig yn cael ei hystyried. Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol/diwydiannol a/neu hyfforddiant ond nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad arferol yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod.

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.