MSc

Rheoli Prosiect Adeiladu

Chwaraewch eich rhan yn y gwaith o ddatblygu isadeiledd yfory. Dyma gyfle i chi fireinio eich sgiliau a datblygu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes Rheoli Prosiectau Adeiladu.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £11,060*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,229*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Os ydych chi’n gweithio mewn proffesiwn sy’n gysylltiedig ag adeiladu, neu os ydych chi eisiau gyrfa ym maes rheoli prosiectau adeiladu, bydd y cwrs Meistr hwn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Achredir y cwrs gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a’r APM.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bydd astudio cwrs Rheoli Prosiectau Adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru yn rhoi’r sgiliau a’r hyblygrwydd angenrheidiol i chi mewn sector cynyddol ddeinamig. Rydym yn derbyn myfyrwyr yn syth o'r brifysgol, ac unigolion sydd â phrofiad sylweddol o weithio yn yr Amgylchedd Adeiledig sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth a'u rhagolygon gwaith.

Achrediadau a Chydnabyddiaethau

  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
  • Cymdeithas Rheoli Prosiectau (APM) - Bydd yr Asesiad Cydnabyddedig hwn yn galluogi myfyrwyr llwyddiannus i wneud cais am APM Chartered Project Professional drwy Lwybr 2, sy’n cydnabod cyflawniad blaenorol o agwedd gwybodaeth dechnegol y safon.

Llwybrau Gyrfa

  • Rheolwr Prosiect Cleientiaid
  • Rheolwr Prosiectau Adeiladu
  • Rheolwr Safle
  • Rheolwr Cyfleusterau
  • Rheolwr Gweithrediadau

Y sgiliau a addysgir

  • Cynllunio
  • Ymwybyddiaeth ariannol
  • Rheolaeth Prosiectau
  • Arweinyddiaeth
  • Datrys problemau

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Achrediad Proffesiynol

Mae’r cwrs Rheoli Prosiectau Adeiladu wedi’i achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)

Perthnasedd uniongyrchol i’r diwydiant

Yn ogystal ag aelodau staff sydd â phrofiad yn y diwydiant sy'n addysgu ar y gwahanol fodiwlau, mae'r cwrs yn croesawu gweithwyr proffesiynol cyfredol i siarad am y materion y maent yn eu hwynebu wrth weithio ar brosiectau.

Rhagolygon gyrfaol byd-eang

Mae galw mawr am reolwyr prosiectau adeiladu ledled y byd, gyda sefydlogrwydd swyddi da a photensial i ennill cyflog da.

Cwrs hyblyg

Gallwch astudio’n rhan-amser neu’n amser llawn, gan roi’r dewis sy’n gweddu orau i’ch amgylchiadau. Mae cynnwys y cwrs yn cael ei ategu gan adnoddau ar-lein i ganiatáu dysgu mwy hyblyg.

Trosolwg o'r Modiwl

Rheoli Prosiect 1 – theori ac ymarfer

Golwg fanwl ar arferion rheoli prosiectau a’r technegau a ddefnyddir i gynllunio, rheoli a sicrhau canlyniadau llwyddiannus. 

Rheoli Prosiect 2 – cynllunio a rheolaeth

Cyfle i ddatblygu ymhellach y sgiliau a ddysgwyd yn Rheoli Prosiect 1 drwy eu cymhwyso i sefyllfaoedd prosiect go iawn.  

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig

Cyflwyniad i’r prif feysydd cyfreithiol sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu. 

Cyflawni Sero Net

Gwerthfawrogi a deall egwyddorion cynaliadwyedd yn yr amgylchedd adeiledig. Mae'r modiwl yn archwilio gwahanol fethodolegau ar gyfer cyflawni sero net mewn adeiladu a gweithrediadau adeiladu.

Systemau Rheoli ar gyfer Rheolwyr Prosiect

Dealltwriaeth o ofynion systemau rheoli effeithiol ym maes Iechyd a Diogelwch, Ansawdd, yr Amgylchedd, a systemau rheoli eraill, a sut maent yn berthnasol i reolwyr prosiect. 

Modelu Gwybodaeth Adeiladu 3D

Defnyddio a gwerthuso’n feirniadol sawl pecyn meddalwedd i gynhyrchu Model Gwybodaeth Adeiladu 3D. 

Traethawd Estynedig Unigol

Prosiect ymchwil unigol sy’n canolbwyntio ar agwedd o reoli prosiect adeiladu y mae’r myfyriwr wedi’i dewis. 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch chi’n dysgu

Cyflwynir y cwrs yn bennaf drwy weithdai sy’n annog trafodaeth a dysgu drwy brofiadau ar y cyd. Darperir cyfleoedd astudio sy'n seiliedig ar wybodaeth ar-lein, ac mae'r gweithdai wedi'u dylunio i archwilio pynciau ymhellach drwy enghreifftiau a chymhwysiad ymarferol. 

Cynhelir asesiadau yn unigol ac mewn grwpiau. Mae asesiadau'n cynnwys adroddiadau (i hyrwyddo darpariaeth broffesiynol), astudiaethau achos (i archwilio prosiectau go iawn), arholiadau llyfr agored (i brofi cymhwysiad yn ogystal â dealltwriaeth), a chyflwyniadau (i wella sgiliau cyfathrebu). 

Staff Addysgu

Mae’r pwnc Rheoli Prosiectau Adeiladu yn cynnig polisi drws agored, lle gall myfyrwyr gael mynediad at staff ar unrhyw adeg. Rydym hefyd yn cynnig Hyfforddwr Academaidd Personol ar gyfer pob un o'n myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau.

Cyfleusterau

Ar gyfer profiad ychwanegol, byddwch yn defnyddio cyfleusterau o safon diwydiant ar y campws. Mae’r rhain yn cynnwys labordai cyfrifiadura gyda meddalwedd peirianneg fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk, QTO, CostX, Synchro, a Navisworks.

Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i’r technolegau digidol diweddaraf fel dronau, delweddu thermol, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig.

Achrediadau a Chydnabyddiaethau

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae rheoli prosiectau yn broffesiwn ffyniannus yn y DU ac yn rhyngwladol. Erbyn i chi raddio, bydd gennych y sgiliau a’r hyder i symud ymlaen fel rheolwr prosiectau adeiladu.

Pan fyddwch yn graddio, bydd gennych y gallu a’r hyder i ddechrau gyrfa raddedig ym maes Arolygu Adeiladau a gweithio tuag at aelodaeth gorfforaethol o’r RICS.

Ar ôl cwblhau eich gradd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer cymhwyster Gweithiwr Prosiect Proffesiynol Siartredig APM drwy Lwybr 1, gan fod eich gradd wedi'i hasesu fel un sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer Gwybodaeth Dechnegol.

Llwybrau gyrfa posibl

Adeiladu yw un o’r diwydiannau mwyaf yn y byd, ac ni fyddai’n bosibl heb arolygwyr a rheolwyr prosiectau. Mae ein cysylltiadau diwydiannol a masnachol cryf yn golygu ein bod ni’n gwybod beth mae cyflogwyr ei eisiau gennych chi pan fyddwch chi’n graddio. Ers dros bedwar degawd, mae gennym hanes balch o ddatblygu graddedigion sy'n barod am ddiwydiant. 

Mae rheoli prosiectau yn broffesiwn ffyniannus yn y DU ac yn rhyngwladol. Ar ôl graddio, gallech weithio i gwmnïau preifat, adrannau eiddo, cwmnïau adeiladu a datblygu, sefydliadau llywodraeth leol a chanolog, neu fod yn hunangyflogedig.

Cymorth gyrfaoedd

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn gallu cael cyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. Mae gan yr Amgylchedd Adeiledig gynghorydd gyrfaoedd pwrpasol a fydd yn eich cefnogi.

Yn ogystal, mae gennym adnoddau ar-lein helaeth i'ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. Mae gan ein cronfa ddata o gyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu myfyrwyr Prifysgol De Cymru, gallwch gael hysbysiadau e-bost wythnosol am swyddi.

Hyb Arloesi yn PDC

A photo thumbnail for the

Wedi’i achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)

Mae RICS yn gorff proffesiynol uchel ei barch sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang, maent yn hyrwyddo newid cadarnhaol yn yr amgylcheddau adeiledig a naturiol.


Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd yn nosbarth 2:2 neu'n uwch mewn disgyblaeth sy'n berthnasol i amgylchedd adeiledig fel pensaernïaeth, arolygu adeiladau, peirianneg sifil, rheolaeth fasnachol, rheoli adeiladu, rheoli prosiectau neu arolygu meintiau. 

Fel arall, gradd Anrhydedd yn nosbarth 2: 2 neu'n uwch mewn pwnc nad yw'n adeiladu gydag o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol yn yr amgylchedd adeiladu, neu brofiad perthnasol a chymhwyster proffesiynol priodol fel RICS, RIBA, CIOB, MICE a MIStructE. 

Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac yn gofyn am Saesneg ar lefel o IELTS 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£11,060

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£11,060

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.