Peirianneg Systemau Awyrofod
Meistrolwch y sgiliau damcaniaethol ac ymarferol uwch a mathemateg sydd eu hangen i adael atmosffer y Ddaear, gan ddefnyddio offer blaengar a phrofiad hedfan go iawn.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Côd UCAS
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Trosolwg o'r Cwrs
Mae cyrraedd y gofod yn gofyn am beirianwyr sydd nid yn unig â sgiliau technegol rhagorol, ond hefyd y creadigrwydd i ddatrys problemau newydd a chymhleth. Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu hennill ar y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer swyddi ar draws y byd awyrofod, yn ogystal â byd awyrennau, moduron, gweithgynhyrchu a mwy.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Dysgwch egwyddorion ac arferion gwyddonol hanfodol peirianneg awyrofod.
Byddwch yn cael profiad ymarferol gydag offer dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu, gan gynnwys pecynnau CAD o safonol y diwydiant ac ieithoedd rhaglennu.
Dewch i ddeall perthnasedd mathemateg ym maes peirianneg a datblygu’r sgiliau mathemategol a data sydd eu hangen i ddatrys problemau peirianneg.
Dysgwch sut i ddiffinio problemau, nodi gofynion a chymhwyso egwyddorion peirianneg o fewn dylunio, gweithgynhyrchu, deunyddiau ac ymarfer.
Dewch i ddeall y defnydd o gyfrifiaduron i efelychu a datrys problemau ym maes peirianneg, gan gynnwys defnyddio cod rhaglennu a chynllunio gyda chymorth cyfrifiadur.
Dewch i ddatrys problemau mecaneg mewn systemau statig a dynamig, gan edrych ar gysyniadau allweddol fel straen, plygu, dirdro a dirgrynu.
Dadansoddwch gylchedau cerrynt tonnog (AC) a cherrynt uniongyrchol (DC), gan gynnwys gwahanol gyfuniadau o ffynonellau gwrthydd/anwythydd/cynhwysor (RLC), foltedd a cherrynt.
Byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o briodweddau mecanyddol hylif a thermodynamig hylifau a nwyon, gan gymhwyso egwyddorion thermodynamig i brosesau peirianneg allweddol.
Byddwch yn archwilio meysydd allweddol ym maes peirianneg awyrofod, gan gynnwys technoleg roced a gofod a dylunio awyrofod.
Byddwch yn defnyddio sgiliau a enillwyd yn y flwyddyn gyntaf i fynd i’r afael â phroblemau peirianneg awyrofod, fel awyrennau RC a rocedi model.
Ewch i'r afael â strategaethau rheoli a ddefnyddir yn eang ar gyfer systemau rheoli ac offeryniaeth mewnbwn sengl ac allbwn sengl (SISO), gan edrych ar wahanol synwyryddion a throswyr.
Cyfunwch egwyddorion uwch thermodynameg a'u cymhwyso i raglenni peirianneg awyrofod, gan archwilio gwahanol ddulliau dadansoddi ar gyfer hylifau gweithredol.
Defnyddiwch ddulliau profi safonol i nodi beth sy’n achosi methiant, ac archwilio sut mae strwythur, priodweddau a phrosesu deunyddiau peirianyddol yn dylanwadu ar eu defnydd mewn awyrofod.
Dewch â'ch Einstein mewnol i'r amlwg wrth i chi ddatrys heriau peirianyddol gan ddefnyddio modelau mathemategol uwch fel hafaliadau differol, gwerthoedd eigen a thrawsffurfiad z.
Dysgwch beth sydd ei angen i gael roced i'r gofod a chadw llong ofod yno'n ddiogel wrth i chi archwilio mecaneg orbitol, gwyddoniaeth roced, roboteg a chyfathrebu lloeren.
Gan weithio mewn grwpiau, byddwch yn datblygu dyluniad awyren cysyniadol ac yn cynhyrchu awyren RC. Byddwch yn archwilio dyluniad roced trwy gynhyrchu model o roced.
Dewch yn arbenigwr awyrofod trwy fagu dealltwriaeth ddofn o strwythur a gyriant llongau gofod.
Profwch ehediadau prawf yn yr awyren Jetstream a'r efelychydd hedfan a datblygwch sgiliau proffesiynol trwy arwain prosiect peirianneg i ddod yn 'barod am waith'.
Defnyddiwch offer sy'n arwain y diwydiant fel meddalwedd Ansys Fluent a thwneli gwynt i ddatrys problemau o fewn dadansoddiad elfennau meidraidd a dynameg hylif cyfrifiannu.
Treuliwch amser helaeth yn yr efelychydd hedfan wrth i chi asesu rhinweddau hedfan a thrin awyren a chynhyrchu adroddiad manwl.
Nodwch, ymchwiliwch a chyflwynwch eich canfyddiadau ar bwnc peirianneg awyrofod sy'n eich diddori, gan ddod â'ch holl sgiliau a gwybodaeth ynghyd.
Archwiliwch amrywiaeth o systemau gyriant solid a hylif gan gynnwys peiriannau scramjet a ramjet, a dyluniwch a dadansoddwch eich system eich hun.
Dewch i ddeall egwyddorion dylunio strwythurau a chydrannau awyrofod fel adenydd, cyrff awyrennau, arwynebau rheolaeth, sefydlogyddion a fframiau lloeren.
Paratowch i ffynnu yn y gweithle peirianyddol wrth i chi ddatblygu rhinweddau allweddol yn ymwneud â rheolaeth, sicrhau ansawdd, a gwybodaeth fasnachol ac amgylcheddol.
Mae gennych y dewis i wneud lleoliad rhyngosod ar ôl eich ail flwyddyn mewn sefydliad peirianneg awyrofod, awyrenegol neu fecanyddol allweddol fel Airbus.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Mae dulliau asesu yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs, yn ogystal ag asesiad ymarferol trwy efelychiadau a thasgau datrys problemau. Mae prosiectau grŵp yn pwysleisio sgiliau cyflwyno, lle byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i gyfoedion. Mae uchafbwynt gwirioneddol yn digwydd yn y flwyddyn olaf, pan fyddwch chi'n hedfan mewn awyren go iawn, gan ddyfnhau eich dealltwriaeth o egwyddorion rheoli ac ymddygiad awyrennau.
Mae’r cwrs BEng Peirianneg Awyrofod yn cyfuno darlithoedd, tiwtorialau, gwaith mewn labordai a seminarau. Byddwch hefyd yn cael ymweld â chyfleusterau mawrion y diwydiant ac elwa o ddarlithoedd gwadd gan ddiwydianwyr ac academyddion blaenllaw sy’n trafod y cynnydd technolegol diweddaraf.
Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiol ddulliau gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs a thasgau ymarferol fel efelychiadau a gweithgareddau datrys problemau. Byddwch yn pwysleisio eich sgiliau cyflwyno drwy brosiectau grŵp a fydd yn eich gweld yn cyflwyno canfyddiadau eich ymchwil i'ch cyd-fyfyrwyr. Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn hedfan awyren go iawn, gan roi cipolwg cyffrous a throchol i chi ar ymddygiad awyrennau ac egwyddorion rheoli.
Rydym yn gwybod nad oes unrhyw beth yn curo mynd allan i'r byd go iawn, gweld sut mae'r diwydiant peirianneg yn gweithredu a datblygu eich sgiliau mewn amgylcheddau go iawn.
Rydym yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau ystyrlon ac mae gennych yr opsiwn i gael blwyddyn ryngosod ar ôl eich ail flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys cyflogwyr peirianyddol mawr fel GE Aviation, Airbus a British Airways Maintenance, ac rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu mwy o gyfleoedd yn y sector awyrofod.
Rydym yn trefnu sawl taith maes ac yn gwahodd arbenigwyr o'r diwydiant o wahanol gwmnïau i draddodi darlithoedd a chefnogi prosiectau, gan roi cipolwg pellach i chi ar fyd gwaith.
Dysgwch ar awyren go iawn gan ddefnyddio ein cyfleusterau awyrofod arloesol, y gwnaethom fuddsoddi £3.3 miliwn ynddynt yn ddiweddar, gan gynnwys 1,000m2 o ofod gweithdai a labordai, dau awyrendy, ac efelychydd hedfan Merlin MP521.
Mae ein Canolfan Awyrofod yn dal awyren Jetstream 31, gweithdai cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedion, offer llaw a weldio.
O fis Medi 2026 ymlaen, bydd ein cyrsiau Cyfrifiadura, Peirianneg, Technoleg ac Amgylchedd Adeiledig yn symud i'w cartref newydd sbon: adeilad Calon.
Bydd y buddsoddiad £60m hwn yn cynnwys mwy na 40 o fannau addysgu, dysgu ac ymchwil arloesol newydd, gan gynnwys labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, yn ogystal â gallu realiti rhithwir, ac amrywiaeth o fannau arddangos.
Bydd Calon yn rhoi mynediad i chi at y dechnoleg, y cyfleusterau a'r cyfleoedd sydd eu hangen i lunio'r dyfodol.
Cyngor Derbyn
Rydym yma i helpu. P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
-
Peirianneg Systemau Awyrofod
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Peirianneg Systemau Awyrofod
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Stori Llwyddiant