Rhaglen Gyn-Sesiynol mewn Saesneg
Cwrs dwys sy’n helpu myfyrwyr i addasu'n gymdeithasol ac yn academaidd cyn dechrau'r flwyddyn academaidd yn ogystal â'u galluogi i fodloni'r gofynion mynediad Saesneg ar gyfer eu cwrs dewisol.
Sut i wneud cais Cysylltwch â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-student-undergraduate-pre-sessional-english.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£4,600*
Myfyrwyr rhyngwladol
£4,600*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Cwrs dwys sy’n helpu myfyrwyr i addasu'n gymdeithasol ac yn academaidd cyn dechrau'r flwyddyn academaidd yn ogystal â'u galluogi i fodloni'r gofynion mynediad Saesneg ar gyfer eu cwrs dewisol.
Cynlluniwyd Ar Gyfer
Myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno gwella safon eu Saesneg cyn astudio gradd. Gall myfyrwyr hefyd ddewis y cwrs hwn i'w helpu i fodloni'r gofynion mynediad Saesneg ar gyfer eu cwrs dewisedig.
Sgiliau a addysgir
- Ysgrifennu traethodau
- Darllen cyfnodolion, erthyglau a llyfrau
- Gwrando ar ddarlithoedd a thrafodaethau
- Cyfrannu at seminarau a chyflwyniadau
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Dulliau Dysgu
Rydym yn defnyddio dull addysgu iaith gyfathrebol. Golyga hyn y bydd disgwyl i chi gymryd rhan a chyfrannu at y dosbarthiadau. Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf gwaith cwrs, profion, prosiectau a chyflwyniadau. Mae myfyrwyr yn derbyn cymorth a sylw unigol drwy diwtorialau un-i-un wythnosol er mwyn monitro cynnydd a helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudio mewn prifysgol ym Mhrydain. Bydd uchafswm o 18 i bob dosbarth.
Mae'r dosbarthiadau'n rhedeg rhwng 9.30 a 12.30 a 1.30-3.30 o ddydd Llun i ddydd Iau. Ar ddydd Gwener bydd gennych waith i'w gwblhau'n annibynnol. Bydd gennych 20 awr o amser cyswllt bob wythnos.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-newport-50393.jpg)
Staff addysgu
Mae staff y Ganolfan Saesneg Ryngwladol yn athrawon Saesneg cymwysedig a phroffesiynol. Mae ganddynt gyfoeth o brofiad o weithio gyda myfyrwyr rhyngwladol, ac maent yn deall ac yn cefnogi anghenion ac uchelgeisiau myfyrwyr. Mae'r Ganolfan yn falch o fod yn aelod gweithgar o Learn English in Wales a BALEAP (British Association of Lecturers of English for Academic Purposes), gan ddangos ei hymrwymiad i ddarparu rhaglenni Saesneg o ansawdd uchel i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd.
Mae staff y ganolfan yn gweithio'n agos gyda Chyfadrannau academaidd y Brifysgol i sicrhau eich bod yn cael y paratoad a'r gefnogaeth orau ar gyfer eich astudiaethau academaidd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/Centre-for-International-English_30175.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae angen cynnig dilys ar ymgeiswyr ar gyfer gradd israddedig neu ôl-raddedig ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ogystal, mae’n rhaid i chi feddu ar y sgorau IELTS (Academaidd) canlynol neu uwch:
- 5.0 gydag o leiaf 4.5 ar gyfer ysgrifennu a 4.0 ym mhob cydran arall (10 wythnos)
- 5.5 gydag o leiaf 5.5 ar gyfer ysgrifennu a 5.0 ym mhob cydran arall (5 wythnos)
Os oes angen fisa arnoch i astudio yn y DU, mae’n rhaid i chi wneud prawf IELTS ar gyfer y fersiwn Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) o'r prawf. Gall fod angen cwrs Saesneg cyn-sesiynol hirach ar fyfyrwyr sy'n astudio cwrs sy’n gofyn am sgôr IELTS uwch na 6.0.
FFIOEDD A CHYLLID
Cyfeiriwch at ein tudalen Ffioedd Rhyngwladol am fanylion ffioedd y Cwrs Iaith Saesneg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at y flwyddyn gywir.
Ffioedd RhyngwladolCostau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
- Ionawr 2026 Llawn Amser
- Mehefin 2026 Llawn Amser
- Gorffennaf 2026 Llawn Amser
- Mehefin 2025 Llawn Amser
- Medi 2025 Llawn Amser
- Hydref 2025 Llawn Amser
- Gorffennaf 2025 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Mehefin 2025 Llawn Amser
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.