Rheoli Adnoddau Dynol
Bwriad y radd Meistr Rheoli Adnoddau Dynol hon yw rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf sydd eu hangen arnoch i reoli pobl yn effeithiol yn y gweithle.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/business-and-management/msc-human-resource-management.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn rhoi cymhwyster ôl-raddedig i chi hefyd ochr yn ochr ag achrediad CIPD, y corff proffesiynol ar gyfer Rheolwyr Adnoddau Dynol, ar lefel gyswllt.
Trosolwg o'r Modiwl
Byddwch yn astudio meysydd allweddol rheoli adnoddau dynol, fel yr egwyddorion, y gwerthoedd a'r dulliau o arwain a rheoli, a byddwch yn archwilio'r cyd-destun newidiol y mae busnesau'n gweithredu ynddo.
Rheoli Adnoddau Dynol a Strategaeth mewn Cyd-destun Busnes
Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth o wreiddiau hanesyddol a datblygiad cysyniad, damcaniaethau a modelau Rheoli Adnoddau Dynol, cyn mynd ymlaen i archwilio prif gyd-destunau amgylcheddol mewnol ac allanol sefydliadau cyfoes y mae rheolwyr, gweithwyr proffesiynol AD a gweithwyr yn rhyngweithio o’u mewn.
Rheoli Talent Fyd-eang
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar faterion recriwtio, dethol a chadw gweithwyr ynghyd ag agweddau strategol ar arfogi dysgwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adnoddau a rheoli talent o fewn cyd-destun byd-eang.
Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Talent
Nod y modiwl hwn yw darparu dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau rheoli gwybodaeth a dysgu sefydliadol a datblygu'r sgiliau personol a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyfer cynllunio a gweithredu strategaethau rheoli gwybodaeth sy'n hyrwyddo dysgu sefydliadol gan gynnwys trwy hyfforddi.
Datblygu Sgiliau i Arwain Busnes
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich sgiliau meddal a dangos eich gallu a'ch ymrwymiad i ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus, mae’r ddau yn hanfodol yn y gweithle proffesiynol cyfoes. Mae'r modiwl hefyd yn eich galluogi i ddangos gwybodaeth ac ymddygiad sy'n cyd-fynd â gofynion Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Rheoli Perfformiad
Mae'r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr o rôl rheoli perfformiad wrth gefnogi amcanion strategol sefydliad mewn gwahanol amgylcheddau busnes.
Arwain a Rheoli Pobl
Nod y modiwl hwn yw rhoi sgiliau arwain i ddysgwyr ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli a datblygu pobl
Rheoli Cysylltiadau â Gweithwyr
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o safbwyntiau a dadleuon cysylltiadau cyflogaeth. Bydd yn galluogi dysgwyr i ddeall, dadansoddi a gwerthuso damcaniaethau a safbwyntiau gwrthgyferbyniol sy'n gysylltiedig â rheoli strategaethau cysylltiadau cyflogaeth a'u canlyniadau. Bydd y modiwl hefyd yn helpu dysgwyr i ddeall yn well y cyd-destunau a'r fframweithiau cyfreithiol i reoli perthnasoedd yn y gweithle.
Adroddiad Ymchwil Busnes/Traethawd Hir
Mae hwn yn ddarn mawr o waith ymchwiliol hunangyfeiriedig sy'n canolbwyntio ar bwnc neu fater Rheoli Adnoddau Dynol cyfredol a ddewisir gan y dysgwr. Fel rhan o’r modiwl hwn byddwch chi’n datblygu sgiliau ymchwil a byddwch chi’n ymgymryd â’r prosiect dan oruchwyliaeth arbenigwr pwnc.
Trwy gydol y cwrs Rheoli Adnoddau Dynol, byddwch yn datblygu portffolio i ddangos eich ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus, gan arwain at gynhyrchu adroddiad ymchwil busnes ar bwnc o'ch dewis sy'n gysylltiedig ag AD.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Mae myfyrwyr llawn amser yn treulio tua 12 awr yr wythnos mewn dosbarthiadau, sy'n cynnwys cyfuniad o astudio dan gyfarwyddyd ac annibynnol. Mae myfyrwyr rhan-amser yn treulio tua chwe awr yr wythnos mewn dosbarthiadau, a gynhelir un prynhawn ac un min nos bob wythnos. Byddwch yn meithrin gwybodaeth am y maes pwnc trwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, dysgu dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac ymgysylltu â'r gweithle.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/161-treforest-facilities/B1_Brecon_Building_Lecture_Theatre.original.jpg)
Asesu
Byddwch yn cael eich asesu drwy gymysgedd o arholiadau a gwaith cwrs wedi'i asesu ar ffurf traethodau, portffolios a phrosiectau, adroddiadau, astudiaethau achos, cyflwyniadau, tasgau dylunio ac ymchwil sylfaenol/eilaidd. Mae asesiad anffurfiol wedi'i ymgorffori yn y broses ddysgu a byddwch yn cael adborth yn ystod seminarau sy'n annog ymarfer myfyriol mewn asesiadau ffurfiol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/business-and-management/course-business-and-management-business-clinic-42261.jpg)
Gofynion mynediad
Gradd Anrhydedd 2: 2 o leiaf neu gymhwyster cyfatebol, neu mewn amgylchiadau eithriadol, tair blynedd neu fwy o brofiad rheoli arwyddocaol.
Mae’n bosib bod deiliaid Aelodaeth Graddedig CIPD, neu gymwysterau ôl-raddedig mewn naill ai Rheoli Adnoddau Dynol neu fath arall o reoli â hawl i eithriadau trwy'r rhaglen llwybr carlam.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
O bryd i'w gilydd bydd y cwrs yn trefnu amrywiaeth o gyfleoedd Teithio, ymweliadau Diwydiant a/neu weithgareddau cymdeithasol eraill i ymgysylltu a chymdeithasu carfannau myfyrwyr, ynghyd â darparu elfennau gwerth ychwanegol i wella profiad y myfyrwyr. Gallai rhai neu'r cyfan o'r rhain arwain at gostau ychwanegol a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y digwyddiad a'r lleoliad.
Darperir llyfrau testun trwy lyfrgell PDC ond mae’n bosib y bydd myfyrwyr am brynu eu copïau preifat eu hunain.
Cost: I fyny at £400
Mae myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu amryw o ddigwyddiadau CIPD cangen a rhanbarthol yn ogystal â seminarau a chynadleddau achlysurol. Argymhellir bod pob myfyriwr yn ymgysylltu'n llawn â'r CIPD a'u digwyddiadau i gynyddu eu manteision o'u haelodaeth broffesiynol i'r eithaf. Mae'r costau'n amrywio yn dibynnu ar y digwyddiad a'r lleoliad.
Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn unrhyw gyfle profiad gwaith, fodd bynnag, gall rhai o'r rhain fod yn ddi-dâl a gallant arwain at gostau sy'n gysylltiedig â theithio a'r dillad disgwyliedig yn y gweithle a bydd hyn yn amrywio yn ôl y lleoliad.
Pe bai myfyrwyr yn dewis sefyll arholiadau dramor (yn eu mamwlad er enghraifft) bydd ffi weinyddol o £50 a chost o £20 fesul arholiad. Mae myfyrwyr hefyd yn gyfrifol am unrhyw daliadau ychwanegol a godir gan leoliad arholiadau tramor.
Cost: £300 - £400
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
- Chwefror 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2025 Rhan-amser
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2026 Rhan-amser
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.