Rheoli Pwysau a Gordewdra
Creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth syn gysylltiedig â gordewdra a rheoli pwysau yn annibynnol.
Sut i wneud cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/nursing-postgraduate-diploma-in-obesity-and-weight-management-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau’n canolbwyntio ar alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gaffael yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i drin cleifion yn effeithiol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau’n canolbwyntio ar alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gaffael yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i drin cleifion yn effeithiol.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Meddyg teulu
- Nyrs
- Ffisigwyr
- Ffisiotherapydd
- Deietegydd
Sgiliau a addysgir
- Datrys problemau
- Sgiliau clinigol
Trosolwg o'r Modiwl
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth systematig o ofal cleifion yn ymwneud â gordewdra a rheoli pwysau; ymwybyddiaeth feirniadol o faterion cyfredol sy'n effeithio ar ofal cleifion sy'n cael triniaethau rheoli pwysau a gordewdra; gwybodaeth ddatblygedig o ordewdra a rheoli pwysau a fydd yn hwyluso gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd anrhagweladwy a/neu gymhleth.
Cydbwysedd Meinwe Blonegog ac Egni
Yn y modiwl hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth feirniadol am feinwe blonegog, dyddodi a storio braster a chydbwysedd egni dynol.
Gordewdra, Epidemioleg ac Iechyd y Boblogaeth
Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn archwilio gordewdra'n feirniadol fel clefyd cronig, ei epidemioleg a baich byd-eang gordewdra, a chydafiacheddau sy'n gysylltiedig â gordewdra mewn poblogaethau.
Gordewdra mewn Perthynas â Chlefydau, Geneteg a Ffactorau Amgylcheddol
Yn y modiwl hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o'r ffactorau meddygol, genetig ac amgylcheddol a all achosi magu pwysau a gordewdra.
Rheoli Pwysau Personol (1): Maetheg, Ymarfer Corff a Newid Ymddygiad
Yn y modiwl hwn, byddwch yn gwella'r wybodaeth a'r sgiliau clinigol sy'n ofynnol i werthuso a thrin gordewdra yn effeithiol gyda phwyslais ar ofal personol, maetheg, ymarfer corff a newid ymddygiad.
Rheoli Pwysau Personol (2): Triniaethau Meddygol a Therapïau sy’n Ymddangos
Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn gwella'r wybodaeth a'r sgiliau clinigol sy'n ofynnol i werthuso a thrin gordewdra’n effeithiol gyda phwyslais ar ofal personol, therapi fferyllol a therapïau newydd a rhai sy’n ymddangos.
Rheoli Pwysau Personol (3): Ymyriadau Llawfeddygol
Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn gwella'r wybodaeth a'r sgiliau clinigol sy'n ofynnol i werthuso a thrin gordewdra’n effeithiol gyda gofal personol a llawfeddygaeth, ac i reoli'r claf llawfeddygaeth ôl-bariatrig.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Ystyrir gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.
Gofynion Ychwanegol:
Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Er y byddwch chi'n dysgu ar-lein, byddwch chi'n rhan o grŵp gyda 10 i 15 o fyfyrwyr eraill. Bydd eich dysgu o bell hunangyfeiriedig yn cael ei arwain gan drafodaeth wedi'i hysgogi gan diwtor yn seiliedig ar senarios achos sy'n gyfoethog yn glinigol.
Byddwch chi'n gwneud cyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio ymarfer myfyriol i'ch helpu chi i ystyried sut y gellir trosi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar y cwrs yn waith ac ymarfer bob dydd.
Disgwylir i fyfyrwyr ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol yn ystod yr 8 wythnos gyntaf. Mae myfyrwyr yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).
Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Cyflwynir y cwrs gan fwrdd sydd ag enw da rhyngwladol ym maes Gordewdra a Rheoli Pwysau a darparu addysg ar-lein:
- Yr Athro Nadim Haboubi – Gastroenterolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr y Cwrs
- Dr Karl New, Arweinydd y Cwrs
Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna