PGDip

Rhewmatoleg

Datblygu sgiliau datrys problemau a chlinigol ynghyd â pharatoi myfyrwyr i gymryd rôl arwain ym maes Rhewmatoleg.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Nod y Diploma Ôl-raddedig mewn Rhewmatoleg, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Rhewmatoleg.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r MSc hwn mewn Rhewmatoleg wedi'i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn rôl arwain. Bydd yn datblygu sgiliau datrys problemau a chlinigol ynghyd â pharatoi myfyrwyr i gymryd rôl arwain mewn Rhewmatoleg.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Meddyg
  • Meddyg Teulu
  • Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
  • Nyrs Practis

Sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau
  • Sgiliau clinigol

Trosolwg o'r Modiwl

  • Rhewmatoleg: Trosolwg Clinigol
  • Arthritis Gwynegol
  • Sbectrwm o Arthritidau Llidiol Eraill
  • Anhwylderau Meinwe Gyswllt
  • Cyflyrau Rhewmatig Amrywiol
  • Cyflyrau Cyhyrysgerbydol Anllidiol

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Darperir yr amgylchedd dysgu drwy Moodle. Bydd gennych fynediad at wasanaethau
myfyrwyr gyda Diploma MSc. Bydd gennych fynediad at yr holl gyfleusterau ar-lein yn unol â rheoliadau Prifysgol De Cymru.

Mae gan bob un o'r chwe modiwl yr un fformat asesu:

  • Fforwm Academaidd - 40%
  • Dyddiadur Myfyriol - 10%
  • Gweithgarwch grŵp/unigol - 20%
  • Arholiad seiliedig ar achosion - 30%

Staff addysgu

Cyflwynir y cwrs gan fwrdd sydd ag enw da rhyngwladol ym maes addysg Rhewmatoleg:

  • Dr Rizwan Rajak, Cyfarwyddwr y Cwrs

Mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr cydnabyddedig mewn addysg Rhewmatoleg ac yn brofiadol mewn cyflwyno dysgu ar-lein.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.

Gofynion Ychwanegol:

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Cyfeiriwch at wefan ein partner cydweithredol.

Gwefan Learna

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.