Bydd ein cwrs Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gyda Chyfiawnder Ieuenctid yn caniatáu i chi ofyn cwestiynau am achosion a chanlyniadau troseddau ieuenctid.

Gwneud cais yn uniongyrchol Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

Rydym yn byw mewn byd lle mae troseddau’n cael eu dangos yn aml trwy ffilmiau, dramâu, rhaglenni dogfen, y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd ein Cyrsiau mewn Troseddeg yn caniatáu i chi ofyn cwestiynau am achosion a chanlyniadau troseddau.

PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a De Orllewin Lloegr i weithredu Uned Achosion Oer. Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar achosion byw a chynorthwyo ymchwiliadau heddlu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Prosiect Innocence, gan archwilio achosion gwirioneddol lle mae camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd er mwyn sefydlu sail resymol dros apelio.


CYNLLUNIWYD AR GYFER

Yn ogystal â deall ymddygiad troseddol mewn pobl o bob oed, byddwch yn archwilio’r prif faterion yn ymwneud â throseddau ieuenctid a’r system cyfiawnder ieuenctid, yn ogystal â sut mae cymdeithas yn ymateb i droseddwyr ifanc.

Llwybrau Gyrfa

  • Swyddog Prawf
  • Troseddegwr
  • Gweithiwr Ieuenctid
  • Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Sgiliau a addysgir

  • Meddwl yn Feirniadol
  • Sgiliau Dadansoddol
  • Sgiliau Datrys Problemau

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyfleoedd ar gyfer lleoliadau

Mae ein cyrsiau’n cael eu dylunio gyda mwy na 40 o bartneriaid yn y diwydiant, fel y byddwch yn graddio â’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen ar gyfer cyflogaeth.

Cyfleusterau rhagorol

Prifysgol De Cymru yw un o’r ychydig rai yn y byd sydd â chyfleuster dysgu ymdrwythol integredig – Canolfan Efelychu Hydra.

Dysgu rhyngweithiol

Bydd ein graddau’n rhoi cyfle i ddysgu mewn ffyrdd arloesol sy’n manteisio i’r eithaf ar dechnoleg, gan gynnwys efelychiadau golygfa drosedd a gweithio ar ymchwiliadau go iawn.

Ymchwil sy’n newid bywydau

Mae gan y Ganolfan Droseddeg hanes hir o waith ymchwil ar nifer o faterion cyfiawnder troseddol hollbwysig a chyfoes.

Trosolwg o’r Modiwl

Mae ein gradd Cyfiawnder Ieuenctid yn amlddisgyblaethol, yn cynnwys astudio safbwyntiau polisi cymdeithasol, cymdeithasegol, seicolegol a throseddegol. Byddwch yn archwilio pam mae pobl ifanc yn troseddu, a’r effaith y mae eu teuluoedd a’u cymunedau’n ei chael ar eu datblygiad personol a’u hymddygiad troseddol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ystyried arferion cymharol o reoli ymddygiadau troseddol, a mentrau ar gyfer lleihau troseddu. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cwblhau prosiect ymchwil penodol i bwnc ac yn cael cyfle i gwblhau lleoliad penodol i bwnc.

Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modiwl, a fydd yn cael eu hasesu trwy nifer o arholiadau, aseiniadau a chyflwyniadau. Dyluniwyd y modiwl sgiliau astudio i’ch helpu gydag arholiadau a thechnegau adolygu, yn ogystal â sgiliau gan gynnwys gwneud nodiadau, ysgrifennu traethodau, cyfeirnodi a chynllunio aseiniadau.

  • Sgiliau Astudio
  • Prosiect Ymchwiliol
  • Gallu Digidol
  • Seiliau Seicoleg
  • Cymdeithaseg
  • Polisi Cymdeithasol
  • Archwilio Trosedd a Gwyredd
  • O Theori i Effaith: Ymchwil Hanfodol mewn Troseddeg
  • Dinoethi Trosedd: Trosedd a Heriau Cyfoes
  • Tu mewn i'r system cyfiawnder troseddol
  • Tu Hwnt i'r Llyfrau: Y Byd Academaidd, Cyflogaeth a Phroffesiynoldeb mewn Cyfiawnder Troseddol
  • Amrywiaeth, Trosedd a Chyfiawnder
  • Gwir Effaith Trosedd: Bregusrwydd a Dioddefwyr
  • Tu Hwnt i'r Penawdau: Dealltwriaeth Fanwl o Drosedd a Chyfiawnder Ieuenctid
  • Diogelu ac Amddiffyn y Cyhoedd: Yr Her o Gadw Pobl yn Ddiogel
  • Ymchwilio i Drosedd, Diogelwch a Chyfiawnder
  • Dinoethi Trosedd Dreisgar
  • Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau: Llinell yn rhy bell?
  • Tu Hwnt i Ffiniau: Troseddu Difrifol, Cyfundrefnol, a Thrawswladol
  • Profiad gwaith
  • Gweithio gyda Phobl Ifanc ac Oedolion Ifanc yn y System Cyfiawnder
  • Trawma a Throsedd Ieuenctid
  • Ymchwiliad Cyfiawnder Troseddol: Traethawd Hir
  • Tu ôl i Fariau a Thu Hwnt: Archwilio Carchardai, Prawf ac Adsefydlu
  • Archwilio Dynladdiad: O Ddynladdiad Corfforaethol i Lofruddwyr Cyfresol
  • Torri'r Distawrwydd: Archwilio Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

video-course-criminology.jpg

Gofynion mynediad

Pwynt tariff UCAS: 48

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: DD, 48 pwynt Tariff UCAS i eithrio Astudiaethau Cyffredinol. 
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio.
  • Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
  • Safon T: Pasio (D neu E)

 

Gofynion ychwanegol:

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

Ffioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen

Y Ffi Dysgu ar gyfer myfyrwyr y DU ar flynyddoedd sylfaen yn yr ystafell ddosbarth yw £5,760. Bydd ffioedd ar gyfer blynyddoedd dilynol y cwrs gradd yn cael eu codi yn unol â'n ffioedd israddedig Cartref amser llawn safonol.

Gwybodaeth Bellach

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain.

Cost: £0-200

Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad.

Cost: £0-300

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post.

Cost: £55.42

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch yn dysgu

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod ein harferion addysgu a’n hasesiadau’n realistig, yn ddilys, ac yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Credwn y dylai asesiadau fod yn amrywiol ac na ddylent ganolbwyntio ar draethodau ac arholiadau yn unig.

Mae gennym gysylltiadau cryf ag asiantaethau cyfiawnder troseddol ac rydym yn cynnig modiwlau sy’n adlewyrchu natur bresennol y pwnc hwn, gan wahodd siaradwyr i sôn wrthych am eu gwaith yn aml.

Staff addysgu

Bydd ein tîm addysgu, sy’n enwog ac yn adnabyddus yn rhyngwladol, yn golygu y cewch eich addysgu gan rai o’r gorau yn y diwydiant. Addysgir myfyrwyr gan dîm o ymchwilwyr gweithredol sy’n arbenigo mewn dynladdiad a thrais, cyfiawnder ieuenctid, plismona, defnyddio cyffuriau, atal troseddau, y gwasanaeth prawf a mwy.

Mae gan Droseddeg ym Mhrifysgol De Cymru hanes sefydledig o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, a hynny oherwydd ein bod yn sicrhau bod y cynnwys a addysgir i chi yn gyfredol, yn ysgogol ac wedi’i lywio gan ein hymchwil.

Lleoliadau

Rydym wedi dylunio ein cyrsiau gyda mwy na 40 o bartneriaid yn y diwydiant, fel y byddwch yn graddio â’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen ar gyfer cyflogaeth. Yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli, gallwch gwblhau modiwl lleoliad gwaith, a allai eich helpu i sicrhau cyflogaeth pan fyddwch yn graddio.

Cyfleusterau

Credwn yn gryf na allwch ddysgu popeth yn yr ystafell ddosbarth. Dyna pam rydym wedi
buddsoddi yn ein cyfleusterau, oherwydd rydym yn gwybod y byddant yn eich helpu i ddefnyddio’ch gwybodaeth mewn lleoliadau realistig. Mae ein cyfleusterau’n cynnwys y Tŷ Golygfa Drosedd, Ffug Ystafell Lys a Hydra Minerva.

Oeddech chi'n gwybod?

Two policing lecturers sat discussing in front of the screens in the hydra simulation centre on glyntaff campus
  • Roedd 93% o fyfyrwyr BA (Anrh) Plismona Proffesiynol yn fodlon ar eu cwrs (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)

  • Mae'r Gyfraith yn PDC ar y brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr ac ar y brig yng Nghymru o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2027)

Oeddech chi'n gwybod?

99.5%

o raddedigion Plismona Gweithredol PDC mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2022/23) 

  • Roedd 93% o fyfyrwyr BA (Anrh) Plismona Proffesiynol yn fodlon ar eu cwrs (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)

  • Mae'r Gyfraith yn PDC ar y brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr ac ar y brig yng Nghymru o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2027)


Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Mae ein graddedigion Troseddeg wedi mynd ymlaen i gael amrywiaeth o yrfaoedd
cysylltiedig ym maes cyfiawnder troseddol. Mae eraill wedi dilyn amrywiaeth o lwybrau
gyrfa gan gynnwys ymchwil, addysgu, plismona, proffesiynau cyfreithiol, gwaith
cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gweinyddiaeth a rheolaeth.

Llwybrau gyrfa posibl

  • Swyddog Prawf
  • Troseddegwr
  • Gweithiwr Ieuenctid
  • Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Cymorth Gyrfa

Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyrfaol wedi’i deilwra i’n myfyrwyr ar bob cam astudio yn ogystal ag ar ôl iddynt raddio. Mae ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn darparu ystod wedi’i theilwra o ddigwyddiadau gyrfaoedd ar hyd y flwyddyn.