Ysbrydolrwydd a Gofal Ysbrydol
Mae’r cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) byr hwn ar gyfer Pobl Broffesiynol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Pherthynol i Iechyd ar gael i’w astudio ar eich cyflymdra ac yn eich amser eich hun.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyda mynediad hwylus i ddefnyddiau a dysgu cyfranogol rhyngweithiol, byddwch yn dysgu sut i roi sylw i gredoau personol, crefyddol ac ysbrydol cleientiaid fel rhan o ofal cyfannol person-ganolog.
Mae rhoi sylw i anghenion gofal ysbrydol pobl yn gynyddol yn cael ei gydnabod yn bwysig mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fyd-eang. Bydd y rhaglen hon yn cynnig y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i chi yn eich arferion gofal person-ganolog.
Bydd amcanion y rhaglen hon yn eich helpu gyda’r canlynol:
- Ystyried y cymwyseddau sy’n cael eu harfer o fewn perthynas dosturiol ac wedi’i seilio mewn agwedd person-ganolog a myfyrgar o ddidwylledd, presenoldeb ac ymddiriedaeth.
- Trin pobl mewn modd cyfannol sydd wedi dangos ei fod yn cryfhau adferiad, ansawdd bywyd, a’r potensial i fyw bywydau annibynnol, hapus a bodlon.
- Bod o gymorth iddynt i ddod o hyd i ystyr, pwrpas, gwerth a chysylltiad ynghanol digwyddiadau sy’n newid bywydau megis salwch, ansicrwydd, tristwch a cholled.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Yr hyn y byddwch chi'n ei ddysgu
Sbardunau ar gyfer ysbrydolrwydd a gofal ysbrydol
Persbectif rhyngwladol. Nodi pwy sy’n galw am ysbrydolrwydd i gael ei gynnwys o fewn iechyd a gofal cymdeithasol: llunwyr polisi; cyrff rheoleiddiol proffesiynol; cleifion a gofalwyr; pobl broffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.
Ysbrydolrwydd mewn-bersonol
Deall beth yw ystyr ‘ysbrydolrwydd’ a ‘gofal ysbrydol’, effaith gwerthoedd a chredoau personol ar ddarpariaeth gofal, digwyddiadau newid bywyd fel sbardun i hunanofal ysbrydol.
Ysbrydolrwydd rhyngbersonol
Ymgysylltu ag ysbrydolrwydd pobl, gan gydnabod eu bydolwg, credoau ac arferion ysbrydol a diwylliannol unigryw.
Asesu a chynllunio
Asesu anghenion ac adnoddau ysbrydol gan ddefnyddio ymagweddau ffurfiol ac anffurfiol a chynllunio gofal ysbrydol.
Ymyrraeth a gwerthuso
Ymateb i anghenion ac adnoddau ysbrydol a gwerthuso’r canlyniad. Dogfennaeth, atgyfeiriad, gweithio gydag eraill, yr arbenigwr gofal ysbrydol, ystyriaethau moesegol, cyfyngiadau personol/proffesiynol, presenoldeb tosturiol.
Camau nesaf
Edrych ymlaen a datblygiad proffesiynol pellach. Canolbwyntio ar ddefnyddio cynnwys y cwrs yn eich arferion a’ch datblygiad proffesiynol.
Addysgu ac asesu
Mae nifer o fanteision i astudio cwrs CPD byr ym Mhrifysgol De Cymru, mae’n ddull hyblyg i symud ymlaen ym maes gyrfa o’ch dewis, yn cynyddu eich gwybodaeth a chael cydnabyddiaeth. Dylech gael gwybod bod mynediad i'r deunyddiau dysgu ar-lein yn ddilys am gyfnod o dri mis o'r dyddiad cofrestru. Sicrhau bod y cwrs yn cael ei gwblhau'n brydlon o fewn yr amserlen hon.
Mae 6 modiwl yn y rhaglen gyfan a gallwch gofrestru ynddynt yn unigol neu gyda’i gilydd. Mae’n cymryd rhwng 30 munud a 90 munud i gwblhau pob modiwl. Mae’r rhaglen ar gael ar blatfform digidol y mae modd ei ddefnyddio ar unrhyw adeg, gan wneud dysgu’n hyblyg er mwyn cyd-fynd â’ch amserlen.
Mae Asesiadau byr i wirio’r dysgu wedi’u cynnwys drwyddi draw, gydag asesiad ar ddiwedd y cwrs a fydd, wedi’i gwblhau, yn cynnig cymhwyster digidol i chi o’ch portffolio CPD.
Mae’r cwrs CPD Ar-lein yn unig hwn yn cynnig 7 awr o ddysgu, a gallwch ddysgu ar eich cyflymdra eich hun i gyd-fynd ag amserlenni gwaith prysur.
Tiwtoriaid cwrs
Athro Linda Ross a'r Athro Wilfred McSherry
Arweinir y cwrs gan yr Athro Linda Ross (Prifysgol De Cymru) a'r Athro Wilfred McSherry (Prifysgol Swydd Stafford), dau arbenigwr blaenllaw mewn ysbrydolrwydd a gofal ysbrydol mewn nyrsio a gofal iechyd.
Mae'r Athro Ross wedi arloesi ymchwil i ddealltwriaeth nyrsys o ysbrydolrwydd a gofal ysbrydol, gan gyfrannu at ganllawiau ac ymchwil Llywodraeth Cymru a helpodd i wneud addysg gofal ysbrydol yn orfodol i fyfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd cynghreiriol yng Nghymru. Mae hi hefyd yn cadeirio'r grŵp Ysbrydolrwydd, Iechyd a Llesiant yn y GIG a Gofal Cymdeithasol Cymru (SHaW).
Mae gan yr Athro McSherry dros 30 mlynedd o brofiad nyrsio ac mae'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ymchwil i ysbrydolrwydd, urddas a gofal tosturiol. Datblygodd y Raddfa Graddio Ysbrydolrwydd a Gofal Ysbrydol (SSCRS) a ddefnyddir yn eang a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Nyrsys iddo yn 2012 am ei gyfraniad i nyrsio.
Ffioedd y cwrs
Mae'r cwrs yma yn costi £65.00
Bydd aelodau RCN yn derbyn 50% o gyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Archebwch nawr