Dan Sylw

Myfyrwyr Cerddoriaeth yn Creu Label Recordiau

Bob blwyddyn mae ein myfyrwyr cerddoriaeth a sain yn cynhyrchu sampl finyl o albwm "Create" sy'n arddangos detholiad o artistiaid a bandiau'r Ysgol.

Cerddoriaeth a Sain
orange and pink vinyl music album and vinyl cover created by USW students leaning against a white wall

Dewisir y traciau dan sylw gan banel o diwtoriaid a gwesteion o'r diwydiant sy'n dadlau'n frwd am safon uchel y ceisiadau.

Y canlyniad terfynol yw casgliad gwych o draciau wedi’u hysgrifennu, eu perfformio a’u peiriannu gan fyfyrwyr PDC, wedi’u lapio mewn clawr plyg a ddyluniwyd gan fyfyriwr MA Cyfathrebu Graffeg Kim Appleby.

Gallwch wrando ar y Sampl ar SoundCloud.

Dywedodd Lucy Squire, Rheolwr Academaidd ar gyfer Cerddoriaeth a Sain:

“Mae Prosiect Sampl Create yn ddathliad o dalent yr Ysgol Cerddoriaeth a Sain. Heb amheuaeth, bydd rhai o’r artistiaid dan sylw yn torri tir newydd ac rydym yn gyffrous i gynnig y lefel hon o amlygiad ar ddechrau gyrfa ein myfyrwyr.”

Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ennill clod beirniadol a sylw ar y radio gan gynnwys cefnogaeth gan y cyflwynwyr Adam Walton, Huw Stephens a Bethan Elfyn. Mae'r sampl yn cael ei stocio yn siop recordiau hynaf y byd, Spillers Records, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd; prifddinas Cymru a chartref ein cyrsiau diwydiannau creadigol.

Dywedodd Ashli Todd o Spillers Records:

“Mae Spillers bob amser wedi ymrwymo i gefnogi cerddoriaeth newydd sy’n dod i’r amlwg; mae Sampl Create yn darparu'r cyfle perffaith i wneud hynny. Mae’r casgliad yn cynnwys 11 o draciau o safon a grëwyd gan fyfyrwyr cerddoriaeth PDC a’n gobaith yw y daw’n recordiad blynyddol oherwydd o’r egin ar lawr gwlad mae popeth yn tyfu”.