Tystysgrif Sage a achredwyd gan CIMA
Gall myfyrwyr ar y cwrs BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid(Yn agor mewn tab newydd) gael tystysgrif Sage a achredwyd gan CIMA fel rhan o'u gradd - heb gost ychwanegol.
BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid
Cwmni byd-eang yw Sage sy’n gweithio gyda 6.2 miliwn o fusnesau ledled y byd, sy’n golygu eu bod yn un o brif ddarparwr meddalwedd busnes y byd.
Caiff cymhwyster cyfrifeg CIMA Sage ei astudio ar ail flwyddyn ein gradd fel rhan o'r modiwl ymarfer proffesiynol a chyflogadwyedd, lle byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth am Excel ac yn datblygu ymwybyddiaeth o brosesau recriwtio a dethol cyflogwyr i gystadlu'n effeithiol yn y broses recriwtio a dethol.
Mae tystysgrif Sage yn dangos bod gennych chi’r sgiliau meddalwedd cyfrifeg cyfrifiadurol diweddaraf a werthfawrogir gan lawer o gyflogwyr y gellir eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r gweithle yn ogystal ag atgyfnerthu eich gwybodaeth academaidd am gyfrifeg a chyllid.
Bydd graddio gyda'r dystysgrif hon yn eich gwneud chi’n fyfyriwr graddedig mwy deniadol i ddarpar gyflogwyr.
Dywedodd Sarah Liddell, myfyriwr BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid: “Mae cwblhau tystysgrif CIMA Sage wedi rhoi profiad i mi o ddefnyddio rhaglen gyfrifeg sy’n cael ei defnyddio’n gyffredinnol mewn diwydiant, ac mae hefyd wedi rhoi cipolwg i mi ar sut y caiff egwyddorion cyfrifyddu eu cymhwyso yn y feddalwedd. Bydd gwybod sut mae Sage yn gweithredu’n fantais ar ôl graddio, gan ei fod yn sgil ymarferol ychwanegol y gellir ei drosglwyddo i’r gweithle.”