Gradfest Creadigol 21
myfyrwyr ffotograffiaeth yn ennill gwobrau cyflawniad eithriadol
Ffotograffiaeth
Mae’r myfyrwyr blwyddyn olaf BA (Anrh) Ffotograffiaeth Laura Deakins, Bethan Charles, Booker Skelding a Tom Keighley i gyd wedi ennill Gwobr Cyflawniad Eithriadol Reginald Salisbury am eu gwaith gwych fel graddedigion.
Cynhelir gwobrau Reginald Salisbury, sydd fel arfer yn wobrau teithio, yn flynyddol ac daw’r gwobrau o rodd gan y teulu Salisbury o Gasnewydd. Mae’r gwobrau’n cefnogi myfyrwyr Ffotograffiaeth Prifysgol De Cymru i ddatblygu neu gwblhau prosiectau sydd ag elfen o deithio ynghlwm â nhw, naill ai’n genedlaethol neu’n rhyngwladol.
Fodd bynnag, oherwydd pandemig Covid-19, rhoddwyd gwobrau Cyflawniad Eithriadol i fyfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. Fel rhan o GradFest Creadigol 21, gofynnom i enillwyr eleni ddweud mwy wrthym am eu hamser ar y cwrs.
Laura Deakins
“Dewisais astudio ym Mhrifysgol De Cymru oherwydd fy mod wedi teimlo cymaint o groeso ac roedd y staff yn cymryd cymaint o ddiddordeb pan ddangosais fy ngwaith iddyn nhw. Roedd y lleoliad, y cyfleusterau ffotograffiaeth a’r llety i fyfyrwyr hefyd yn sefyll allan fel rhesymau gwych dros ddewis Prifysgol De Cymru.
Taniwyd fy niddordeb mewn ffotograffiaeth pan gafodd fy chwaer hynaf gamera Canon fel anrheg. A ninnau’n 12 oed ar y pryd, byddem yn cymryd troeon i’w ddefnyddio yn y caeau y tu ôl i’n tŷ ni. Tyfodd fy nghariad at ddefnyddio camerâu’n gyflym, ac ar ôl ei gyflawni ar lefel Safon Uwch, penderfynais gwblhau gradd yn y pwnc!
Fe wnaeth y modiwlau drwy gydol y tair blynedd fy helpu i ddod o hyd i fy null i o weithio yn ogystal â fy helpu i fod yn fwy hyderus wrth egluro fy ngwaith. Dysgais sgiliau ffotograffig newydd, moesau proffesiynol, a'r safonau gwaith y mae angen i chi eu cyflawni i lwyddo yn y diwydiant. Rwy’n gobeithio ymuno ag asiantaeth greadigol, i gael fy nghynrychioli gan gwmni sy’n arbenigo mewn ffasiwn neu ffotograffiaeth olygyddol. Byddwn yn ffodus iawn i allu ymuno â’r diwydiant creadigol ar hyn o bryd, gan fod pethau wedi bod yn anodd yn ystod Covid-19.”
Bethan Charles
“Unwaith y cyrhaeddais Brifysgol De Cymru ar gyfer fy nghyfweliad, ro’n i’n gwybod mai hon oedd y brifysgol i mi. Roedd y bobl yn hyfryd, ac mae’r cyfleusterau’n anhygoel!
Ers i mi gael gafael ar gamera, roeddwn i’n gwybod y byddai ffotograffiaeth yn rhan fawr o fy mywyd ac felly y bu byth ers hynny. Mae Prifysgol De Cymru wedi rhoi rhywfaint o gerrig camu i mi i fy helpu i baratoi ar gyfer y diwydiant gan fy mod wedi gwneud profiad gwaith, defnyddio offer safonol y diwydiant, ac wedi cwrdd â ffotograffwyr eraill yn y diwydiant.
Fy ngobeithion a’m cynlluniau ar gyfer y dyfodol yw camu i fyd ffasiwn a ffotograffiaeth fasnachol, a lledaenu fy adenydd i arddangos fy ngwaith a gwthio ffiniau celf weledol.”
Booker Skelding
“Rydw i wrth fy modd ac mor falch fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y wobr hon.
Penderfynais ddod i Brifysgol De Cymru oherwydd y lleoliad gwych, y gefnogaeth a gynigiwyd i fyfyrwyr hŷn a’r dilyniant naturiol o’m Gradd Sylfaen yng Ngholeg y Cymoedd.
Mae ffotograffiaeth wedi fy nghyfareddu ers fy arddegau, yn enwedig gallu technegol y camera a chasglu atgofion.
Mae'r cwrs gradd yn heriol iawn ac mae'r modiwlau'n eich paratoi ar gyfer diwydiant. Mae'r gefnogaeth a'r arweiniad rwyf wedi eu cael gan Brifysgol De Cymru wedi cynyddu fy hyder a'm proffesiynoldeb yn fawr.
Mae’r darlithwyr yn mynd ati’n glyfar i ymestyn a gwthio eich ffiniau, ac mae fy ffotograffiaeth wedi ffynnu yn sgil hynny. Rwyf wedi dod o hyd i gyfeiriad a throedle ar gyfer fy ymarfer ffotograffig.
Mae gen i gynlluniau i arddangos fy mhrosiect, Finding My Religion, yn yr eglwys leol lle seiliwyd/ ffotograffwyd fy stori. Gofynnodd y Rheithor am gyfarfod er mwyn curadu’r arddangosfa pan fydd hi’n ‘ddiogel o ran Covid’ i wneud hynny. Byddaf yn gwneud cais am gyllid cyn gynted â phosibl i gefnogi’r arddangosfa, a fydd yn helpu i hyrwyddo fy llyfr lluniau. Rwy'n bwriadu dechrau prosiect newydd ar ôl yr haf ac rwy'n gobeithio rhannu fy ngwaith i helpu myfyrwyr eraill i raddio.
Tom Keighley
“Dewisais Brifysgol De Cymru oherwydd yr awyrgylch cyfeillgar yng Nghaerdydd, ac oherwydd croeso a gefais gan y Brifysgol a'r staff.
Byth ers i mi gael fy nghamera cyntaf ddechrau’r ysgol uwchradd fy uchelgais oedd bod yn ffotograffydd!
Mae Prifysgol De Cymru a’r cwrs Ffotograffiaeth wedi helpu i roi’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnaf i weithio yn y diwydiant ffotograffiaeth, drwy roi’r sgiliau a’r profiad i mi o weithio gyda sawl math ac arddull o ffotograffiaeth ac o dan derfynau amser sy’n efelychu’r byd gwaith.
Rwyf hefyd wedi gallu creu cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant. Yn y dyfodol, fy nod yw creu mwy o waith a datblygu fy astudiaethau gyda gradd Meistr."
I weld mwy o waith myfyrwyr BA (Anrh) Ffotograffiaeth, ewch i uswbaphotography.com