Dan Sylw

Francesca Saleh - Gwyddorau Meddygol

Myfyriwr graddedig yn y Gwyddorau Meddygol yn dweud bod y cwrs wedi ei gwneud yn fwy penderfynol i fod yn feddyg

Gwyddorau Meddygol
medical sciences graduate francesca saleh posing with USW sign on Pontypridd campus, Treforest at graduation

Dywed Francesca Saleh, a raddiodd yn y Gwyddorau Meddygol, fod astudio’r Gwyddorau Meddygol wedi cryfhau ei phenderfyniad i fod yn feddyg.

Mae’r Gwyddorau Meddygol yn gwrs 3 blynedd o hyd a oedd yn golygu fod gen i amser hir iawn i ddeall, i ddysgu a thrwytho’n hun mewn anatomi, ffisioleg a dechrau arni gyda phathoffisioleg erbyn i mi ddechrau astudio Meddygaeth. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ganolbwyntio mwy o'm hamser a'm hymdrechion ar y sgiliau a'r galluoedd eraill sydd eu hangen i fod yn feddyg, fel nodi hanes cleifion, cynnal archwiliadau corfforol a sgiliau clinigol, a gwella fy fformwleiddiad o ddiagnosis gwahaniaethol, opsiynau triniaeth a chynlluniau rheoli.

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn astudio gradd y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol De Cymru, cefais leoliad wythnos o hyd gyda nyrsys ac yn fy ail flwyddyn, cefais leoliad wythnos o hyd gyda meddygon iau, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y ddau achlysur. Roedd y lleoliadau hyn yn fy ngalluogi i gael dealltwriaeth o swyddi nyrsys a meddygon ar ward ysbyty a sut maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd fel tîm i sicrhau’r gofal gorau i gleifion.

Fe wnaeth hefyd yn fy ngalluogi i ddeall pwysigrwydd timau amlddisgyblaethol a sut maen nhw’n darparu’r gofal unigol gorau posibl i gleifion. Roedd cael lleoliadau’n golygu y gallwn ddechrau rhoi’r wybodaeth roeddwn wedi'i dysgu o ddarlithoedd ar waith mewn lleoliad meddygol yn ogystal ag adeiladu ar yr wybodaeth hon yn glinigol. Roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i gael arsylwi ar driniaeth i osod pen-glin cyfan newydd. Roedd y tîm llawfeddygol yn hapus iawn i’m cael yn y theatr ac roedd y prif lawfeddyg yn egluro beth oedd yn digwydd yn y llawdriniaeth wrth iddo ei gwneud, gan ddangos nodweddion anatomegol y ben-glin i mi, ac roedd yn barod iawn i ateb unrhyw gwestiynau a oedd gennyf drwy gydol y llawdriniaeth.

Mae'r wybodaeth rwyf wedi'i dysgu o'r cwrs wedi fy mharatoi'n dda ar gyfer fy astudiaethau yn yr Ysgol Feddygaeth

Cefais amser wrth fy modd ym Mhrifysgol De Cymru! Roedd y cwrs yn wych, a chefais fywyd gwych fel myfyriwr. Mae'r wybodaeth rwyf wedi'i dysgu o'r cwrs wedi fy mharatoi gymaint ar gyfer fy astudiaethau yn yr Ysgol Feddygaeth. Roedd y darlithwyr i gyd yn frwdfrydig ac wedi dysgu deunydd y cwrs yn dda, ac roedd arweinydd y cwrs (Dr Lewis Fall) yn hynod angerddol ac yn benderfynol o'n cefnogi a'n paratoi i roi'r cyfle gorau posibl i ni gyda'n ceisiadau a'n cyfweliadau.

Fel rhan o fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol De Cymru, manteisiais ar y cyfle i fod yn un o lywyddion y Gymdeithas Paratoi ar gyfer Meddygaeth ac roedd y cwrs yn gefnogol iawn o ran fy helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng fy llwyth gwaith â rhedeg y gymdeithas.

Gwneud ffrindiau am oes

Fe wnes i fanteisio’n llawn ar fy mywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd Undeb y Myfyrwyr yn lle gwych i wneud cymaint o bethau, er enghraifft, i wylio’r Chwe Gwlad (dydw i ddim hyd yn oed yn gefnogwr rygbi ond ro’n i wrth fy modd â’r awyrgylch), roedd cymdeithasau’n cynnal llu o ddigwyddiadau yn y neuadd a oedd yn ffordd wych i gwrdd â phobl newydd, yn lle i dreulio amser gyda ffrindiau a chael seibiant o astudio, ac wrth gwrs y clwb lle gwnes i lwyth o ffrindiau rwy’n dal i gadw mewn cysylltiad â nhw nawr.

Mae campws Glyn-taf yn cynnig llawer o fannau astudio da, mae ganddo lyfrgell helaeth gyda llyfrau a llenyddiaeth sy'n berthnasol i'r Gwyddorau Meddygol felly does dim angen i chi brynu’ch gwerslyfrau eich hun (oni bai eich bod am gael eich copïau eich hun) ac mae’n cynnwys ystafelloedd y gallwch eu llogi i’w defnyddio ar gyfer sesiynau astudio neu addysgu gyda ffrindiau (sy’n cael ei wneud yn bennaf drwy'r Gymdeithas Paratoi ar gyfer Meddygaeth). Mae’r campws hefyd yn cynnwys labordai gyda’r holl gyfarpar lle datblygon ni set enfawr o sgiliau, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgymryd ag ymchwil, bydd y rhain yn rhoi cychwyn gwych i chi!