Gwnaeth Prifysgol De Cymru fy ngyrfa ym maes meddygaeth yn fwy cyraeddadwy
Emily Spencer
Gwyddorau Meddygol
Ar ôl rhai rhwystrau anffodus, digalonwyd y myfyriwr graddedig, Emily Spencer, ar ôl peidio â chael y graddau oedd ei hangen arni i fynd i'r Ysgol Feddygaeth.
Fodd bynnag, ar ôl i’w mam ei hannog i fynd i ddiwrnod agored ym Mhrifysgol De Cymru ar gyfer ein gradd yn y Gwyddorau Meddygol, dyw hi heb edrych yn ôl o gwbl. Mae hi bellach wedi bod yn astudio mewn Ysgol Feddygaeth ers chwe blynedd ac ar y trywydd iawn i wireddu ei breuddwyd o fod yn feddyg.
Yma, mae Emily’n trafod ei phrofiad o astudio cwrs meddygaeth mynediad i raddedigion, ei bywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru a sut enillodd Wobr y Sherman i ehangu mynediad yn 2018.
“Mae astudio i fod yn feddyg yn benderfyniad mawr a brawychus gan fod yn rhaid i chi roi’r cyfan i mewn iddo. Mae’n gofyn am waith caled, ymroddiad a derbyn y byddwch chi’n dysgu drwy gydol eich oes. Serch hyn i gyd, roeddwn i’n dal i fod yn awyddus iawn i fod yn feddyg.
Roedd gen i atgof clir o’r gofal a roddwyd i’m Mam cyn iddi farw pan oeddwn i’n 13 oed, a’r cyfan rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers hynny oedd gallu helpu teuluoedd eraill er mwyn iddyn nhw gael eu hanwyliaid yn ôl. Fe wnaeth y cyfnod hwnnw a dreuliodd fy Nain mewn hosbis leol a thrugaredd eithriadol y staff ennyn fy niddordeb mewn gofal lliniarol ac rwy’n dal i ddilyn y freuddwyd honno nawr yn yr Ysgol Feddygol, gan ymgymryd ag amryw o brosiectau gofal lliniarol gyda’r gobaith y gallaf wireddu fy mreuddwyd o helpu pobl eraill a’u teuluoedd ryw ddydd.
Rwy’n ystyried y blynyddoedd a dreuliais ym Mhrifysgol De Cymru fel rhai o’r rhai gorau yn fy mywyd. Roedd y profiadau a gefais, y cyfeillgarwch a wnes i a’r addysg a gefais i gyd yn amhrisiadwy.
Cefais brofiad dysgu heb ei ail – roedd y darlithwyr yn gefnogol ac roedd ymdeimlad gwych o gyfeillgarwch ymysg fy nghyfoedion ar y cwrs gradd. Roedd y staff yn frwd iawn ynghylch helpu myfyrwyr i fynd ymlaen i astudio meddygaeth ac roeddent wir yn cefnogi 'y rhai gwanaf' o ran ehangu mynediad at feddygaeth, achos sy'n agos at fy nghalon. Dyna oedd y prif beth a wnaeth fy nenu at y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol De Cymru gan fy mod yn gwybod y byddwn i’n cael fy nghefnogi’n llawn wrth i mi ddysgu ac yn fy awydd i fod yn Feddyg.
Fel llawer o fyfyrwyr y Gwyddorau Meddygol, treuliais oriau lawer yn y llyfrgelloedd ar gampysau Glyn-taf a Threfforest. Roedd y rhain yn llyfrgelloedd ardderchog ac, yn wir, mae fy ffrindiau a minnau’n dal i siarad am lyfrgell Trefforest a chymaint yr hoffem ni allu ei defnyddio unwaith eto! Rhoddodd y labordai a ddefnyddiwyd gennym yn ein gradd hefyd yn rhoi profiad rhagorol i ni o waith labordy; mae'r profiad hwn o fudd mawr gan fod llawer o'm ffrindiau bellach yn defnyddio'r sgiliau a ddysgom yn y labordy yn eu swyddi presennol!
Mae lle arbennig yn fy nghalon i’r profiadau a gefais ar leoliad, ac roeddwn i’n gwybod fy mod i’n mynd i’r yrfa iawn.
Ro’n i’n ddigon ffodus i ymgymryd â lleoliadau pythefnos o hyd yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol De Cymru mewn ysbyty cyffredinol ardal leol; treuliwyd un o’r wythnosau’n cysgodi nyrsys a threuliwyd un wythnos yn cysgodi meddygon. Fe wnes i fwynhau'r ddwy wythnos yn fawr ond roeddwn i'n gwerthfawrogi'r amser a dreuliais gyda'r nyrsys gan ei fod wir wedi fy nysgu am bwysigrwydd y tîm amlddisgyblaethol, gwers amhrisiadwy pan fyddwch chi'n dechrau yn yr Ysgol Feddygaeth.
Rwy’n cofio treulio un o’r boreau gyda chlaf â dementia, yn dal ei llaw a chadw cwmni iddi gan ei bod yn gynyddol ofidus gan nad oedd yn gwybod ble’r oedd hi. Erbyn diwedd y bore, roedden ni’n gallu cael hwyl a magu perthynas, ac er nad oedd yn brofiad clinigol, rwy’n sicr y byddaf bob amser yn cofio’r amser hwn, ac yn yr eiliad honno, roeddwn i’n gwybod mai hon oedd yr yrfa iawn i mi; ro’n i’n gwybod mai’r cyfan ro’n i eisiau ei wneud oedd ei helpu hi mewn unrhyw ffordd ac felly byddaf yn mynd â’r profiad hwnnw gyda mi drwy fy hyfforddiant.”
Enillodd Emily Wobr Sherman hefyd ar ôl cael ei henwebu gan arweinydd ei chwrs, Lewis Fall.
“Dyfarnir Gwobr Sherman bob blwyddyn i fyfyriwr sydd wedi dechrau meddygaeth drwy ehangu mynediad. Ro’n yn ddigon ffodus i ennill y wobr hon yn 2018 ar ôl cael fy enwebu gan arweinydd fy nghwrs, Lewis Fall. Ro’n i wedi dioddef cyfres o ddigwyddiadau anodd a heriau yn fy mywyd ac, o ganlyniad, doeddwn i heb gael y graddau i fynd yn uniongyrchol i astudio Meddygaeth ac felly, roedd yn rhaid i mi fynd ar drywydd Meddygaeth Mynediad i Raddedigion, ac, wrth edrych yn ôl, dyma un o’r pethau gorau i ddigwydd i mi.
Mae'r wobr yn codi ymwybyddiaeth o fyfyrwyr sydd wedi dilyn llwybr gwahanol i astudio meddygaeth a hefyd yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hyn. Mae nifer fawr o bobl a oedd, am ryw reswm neu'i gilydd, wedi gorfod dilyn cwrs Meddygaeth Mynediad i Raddedigion neu nad oedden nhw’n gallu dilyn unrhyw lwybr Meddygaeth, ond mae’r gwerth y byddai'r bobl hyn yn ei gynnig i feddygaeth gyda'u hamrywiaeth eang o brofiadau bywyd ac empathi yn amlygu'r angen i Feddygaeth fod yn ddewis gyrfa mwy hygyrch i fwy o bobl gan nad yw graddau Safon Uwch gwych bob amser yn gwneud rhywun yn feddyg gwych.
Dydw i erioed wedi bod yn fwy diolchgar am brofiad nag y yr oeddwn i yn ystod fy amser ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae'r cwrs yn floc adeiladu anhygoel i ddod yn feddyg, gan roi sylfaen gadarn i chi adeiladu eich hyfforddiant arni. Rydw i ar fy chweched blwyddyn ar y cwrs hyfforddi saith blynedd o hyd i fod yn feddyg ac mae’n deg dweud ei fod yn waith caled, ond fyddwn i ddim yn agos at fod mor hyderus a gwydn yn fy hyfforddiant pe na bawn i wedi bod ar gwrs Gwyddorau Meddygol Prifysgol De Cymru yn gyntaf. Felly, yr unig gyngor y gallaf ei roi yw eich bod yn mwynhau pob eiliad o’r cwrs hwn a gwerthfawrogi’r profiadau rydych chi’n eu cael yno oherwydd unwaith y byddwch chi’n gadael, byddwch chi eisiau mynd yn ôl!”
Wyt ti am gael gyrfa lwyddiannus yn y Gwyddorau Meddygol? Meistrola dy yfory ym Mhrifysgol De Cymru.