Y Gymdeithas Paratoad Meddygol
“Crëwyd y Gymdeithas Paratoad Meddygol i wella ein siawns o lwyddo pan fyddwn yn gwneud cais am feddygaeth mynediad graddedig,” meddai Francesca Saleh, myfyriwr Gwyddorau Meddygol, a welir yma gyda’i chyd-lywyddion Emanuele Pirozzi a Lucy James (dde).
BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol
"Mae'r Gymdeithas yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn amrywio o weithdai i wella ein sgiliau clinigol i ffug arholiadau mynediad. Mae hefyd yn darparu cefnogaeth gyffredinol gyda gwaith ac arholiadau prifysgol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn eu cyrsiau er mwyn cael mynediad i feddygaeth i raddedigion.
Mae myfyrwyr blaenorol - sydd bellach yn astudio meddygaeth neu'n gweithio fel meddygon - yn dychwelyd i siarad am eu profiadau o'r broses ymgeisio, yn rhoi awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau, a hyd yn oed yn cynnal ffug gyfweliadau.
Mae'r Gymdeithas hefyd yn mynychu'r Cynllun Meddygaeth Frys Cyn-ysbyty, a gynhelir gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n darparu cyfle i'n myfyrwyr gymysgu â myfyrwyr meddygol cyfredol.
Rydym yn cyfarfod bob dydd Mercher ar ôl darlithoedd, ac mae’r gymdeithas yn agored i bob blwyddyn a chwrs. Fel arfer mae yna ddigwyddiad cymdeithasol mawr ar ddiwedd pob tymor i ddweud hwyl fawr cyn pob gwyliau."