Dan Sylw

Bydd yn rhoi mwy o opsiynau i mi pan fyddaf yn gadael y Brifysgol

BSc (Anrh) Seicoleg gyda Chwnsela
psycholofy with counselling student, Ross, sitting in an empty lecture theatre smiling to camera

Mae Ross yn astudio BSc (Anrh) Seicoleg gyda Chwnsela.

"Dewisais Seicoleg gyda Chwnsela oherwydd fy mod i eisiau bod yn gwnselydd ac ro’n i'n gwybod bod gan Brifysgol De Cymru enw da ym maes Cwnsela.

Ro’n i’n teimlo y byddai cael sylfaen mewn Seicoleg yn gwella fy nealltwriaeth o’r meddwl dynol a’n hymddygiad.

Ro’n i hefyd yn teimlo y byddai cael gradd ychydig yn ehangach (na chwnsela yn unig) yn rhoi mwy o opsiynau ar ôl i mi adael y brifysgol.

Cyfuniad mor dda

Mae'r radd yn gyfuniad mor dda. Mae cymaint o droeon y gellid cymhwyso'r hyn rwyf wedi'i ddysgu mewn seicoleg i'r agwedd gwnsela ac mae'r cwnsela hefyd wedi helpu gyda'r seicoleg.

Y Cyflwyniad i Egwyddorion Therapiwtig oedd fy hoff fodiwl. Mi wnes i wir fwynhau dysgu am hanes a strwythur y gwahanol ddulliau o gwnsela.

Roedd wedi ei gynllunio’n dda gyda darlith agoriadol ragorol, ac yna gweithdy lle’r oeddech chi’n rhoi’r hyn y gwnaethoch chi ei ddysgu ar waith.

Hoff wersi

Un o fy hoff ddarnau o waith oedd y cyflwyniad ar Egwyddorion Therapiwtig. Er y gall gwneud cyflwyniad fod yn frawychus, roedd llawer o gefnogaeth ar gael gan fy narlithydd a gan gyd-fyfyrwyr hefyd.

Roedd yn wych cael y cyfle i gyflwyno gwaith yn hytrach nag ysgrifennu traethawd neu adroddiad, ac roedd yn baratoad da ar gyfer y drydedd flwyddyn pan roedd cyfle i ni gyflwyno yng Nghynadleddau Seicolegol Prydain.

Mae’r addysgu yma yn ardderchog. Mae'r staff yn gwneud y darlithoedd yn hwyliog, yn ddiddorol ac yn rhyngweithiol, ac yn mynd allan o'u ffordd i gefnogi myfyrwyr p'un ai a yw'n sgwrs am sut mae pethau'n mynd neu drefnu gweithdai i fyfyrwyr ddod iddynt.

Cyfleoedd â gwerth ychwanegol

Mae Prifysgol De Cymru yn lle cymdeithasol iawn. Mae digon o ddigwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan mewn llawer o wahanol bethau.

  • Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gallwn sefydlu ein lleoliadau ein hunain gyda chymorth staff. Mae hyn yn ein galluogi i ddysgu sgiliau gwerthfawr a chreu cysylltiadau â darpar gyflogwyr.
  • Mae cyfle hefyd i ni fod yn rhan o Gymdeithas Seicolegol Prydain(Yn agor mewn tab newydd). Mae hyn yn golygu y gallwn ni fynychu neu helpu gyda digwyddiadau, arddangos ein gwaith mewn cynadleddau a bod ar flaen y gad o ran ymchwil seicolegol.
  • Mae yna hefyd gynllun Psychology Plus. Mae’r cynllun hwn yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cyrsiau byr i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau i ychwanegu at eu CV.