Amdanom ni

Eisteddfod

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Sir Benfro o 1-8 Awst.

Maes at the eisteddfod

Bydd gan Brifysgol De Cymru (PDC) stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yn Llantwd rhwng 1 a 8 Awst.

Byddwn yn arddangos popeth sydd gan y brifysgol i’w gynnig, gan gynnal amserlen o weithgareddau cyffrous i ymwelwyr o bob oed eu mwynhau.

Beth yw’r Eisteddfod Genedlaethol?

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant ac iaith Cymru. Mae’r ŵyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr a dros 250 o stondinau masnachol bob blwyddyn ac yn cwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau a’r diwylliant yng Nghymru. Mae’n ŵyl gynhwysol a chroesawgar, sy’n denu miloedd o siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith bob blwyddyn.

Mwy o wybodaeth am Eisteddfod 2026

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod am wythnos llawn gweithgareddau

Dewch i stondin 116-117 am sgwrs anffurfiol am y cyfleoedd sy’n aros amdanoch yn PDC, ac ystod o weithgareddau pynciol rhyngweithiol.

Gweithgareddau sy'n cael eu cynnal ar ein stondin trwy’r wythnos:

  • Argraffu crys-T
  • Her y Ski-Erg
  • Gemau BeeBot
  • Celf a chrefft