Sermoni Graddio Noswaith
Cynllunio eich Diwrnod Graddio Sermoni Graddio 5yp - Gwybodaeth Bwysig
Er mwyn sicrhau eich bod chi’n hollol barod ar gyfer y seremoni, defnyddiwch y ddolen isod i weld y cyfarwyddiadau terfynol ar gyfer y diwrnod a nodyn i’ch atgoffa am wybodaeth bwysig: Sermoni Graddio 5yp - Gwybodaeth Bwysig
AMSEROEDD
| Amser | Gweithgaredd | Gan bwy? |
|---|---|---|
|
O 2:30yh |
CYRRAEDD CANOLFAN GYNADLEDDA RYNGWLADOL CYMRU, CASNEWYDD (ICCW) SYLWER: DIM OND YN ÔL DISGRESIWN Y PRIF FARSIAL Y GELLIR DERBYN UNRHYW DDARPAR-RADDEDIGION NEU WESTEION SY'N CYRRAEDD AR ÔL 4.50YP. GWNEWCH YN SIŴR EICH BOD YN CYRRAEDD MEWN PRYD. |
Darpar-raddedigion/ Gwesteion |
|
O 2:30yh |
CASGLU EICH GWISG ACADEMAIDD Ewch i'r Brif Neuadd i gasglu eich gwisg academaidd. |
Darpar- raddedigion yn unig |
|
O 2:30yh |
COFRESTRU A CHASGLU EICH TOCYNNAU Bydd eich tocynnau ar gael wrth i chi adael y Brif Neuadd. |
Darpar- raddedigion yn unig |
|
Cyn 4:00yh |
CAEL EICH LLUN WEDI’I DYNNU Mae ffotograffau swyddogol ar gael yn y Brif Neuadd |
Darpar-raddedigion/ Gwesteion |
|
4:15yh |
EWCH I'R AWDITORIWM |
Darpar-raddedigion/ Gwesteion |
|
O 4:15yh |
DARPAR-RADDEDIGION I GYMRYD EU SEDDAU |
Darpar-raddedigion |
|
O 4:30yh |
GWESTEION I GYMRYD EU SEDDI |
Gwesteion |
|
5:00yh |
BYDD Y SEREMONI YN DECHRAU YN BRYDLON |
Pawb |
Gwybodaeth Allweddol
Dathlwch Eich Graddio yn ICC Cymru
Wedi'i amgylchynu gan awyr iach a choetiroedd godidog, mae ICC Cymru yn cynnig y cefndir perffaith i nodi eich carreg filltir academaidd. Gyda mannau llawn golau a digon o le i ailgysylltu, dyma le mae atgofion bythgofiadwy yn cael eu creu.
Gwnewch i'r Foment Ddisgleirio
Ar ôl y seremoni, gall y dathliadau barhau gyda'ch cyd-fyfyrwyr, eich teulu a’ch ffrindiau. Crwydrwch ein stondinau bwyd blasus a'n bariau dros dro drwy gydol y dydd, nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer diodydd na bwyd yn ICC Cymru.
Fodd bynnag, os ydych chi am ddathlu yn un o'r bwytai gwych ar draws The Celtic Collection, gan gynnwys Gwesty’r Celtic Manor, Gwesty Coldra Court, Newbridge on Usk, Tŷ Casnewydd a Thŷ Magwyr, bydd angen i chi archebu ymlaen llaw yma i fwynhau 20% oddi ar eich pryd o fwyd, a gwydraid o prosecco am ddim pan fyddwch chi'n archebu ymlaen llaw.*
Dyma'r ffordd berffaith i ddathlu eich llwyddiant mewn steil!
Graddio yw uchafbwynt y flwyddyn academaidd. Mae'n gyfle i ddarpar-raddedigion ddathlu cyflawniadau gyda gwesteion a staff y Brifysgol. Rydym eisiau i chi fwynhau'r diwrnod, felly rydym yn gofyn i chi barchu eraill sydd hefyd yn graddio gyda chi. Rydym yn gwybod eich bod eisiau i bawb fwynhau'r diwrnod cymaint ag y byddwch chi'n ei wneud.
Er mwyn sicrhau bod pob darpar-raddedig yn cael yr un profiad o gydnabod eu cyflawniadau, hoffem ofyn i ddarpar-raddedigion a gwesteion fod yn ymwybodol o'r canllawiau canlynol:
- Bydd darpar-raddedigion yn dychwelyd i'w seddau ar ôl iddynt groesi'r llwyfan, dan arweiniad y Marsialiaid
- Mae disgwyl i ddarpar-raddedigion aros yn eu seddi yn yr awditoriwm drwy gydol y seremoni
- Disgwylir i westeion aros yn eu seddi yn yr awditoriwm drwy gydol y seremoni, i fod yn ystyriol o eraill o'u cwmpas.
- Parchwch yr holl raddedigion drwy aros yn dawel drwy gydol y Seremoni a chymeradwyo pob myfyriwr graddedig wrth iddynt gerdded ar draws y llwyfan.
Bydd gwiriadau diogelwch manylach ar waith ar gyfer yr holl seremonïau graddio, a fydd yn cynnwys polisi chwilio i ddiogelu mwynhad yr holl raddedigion a'r gwesteion sy'n mynychu. Gofynnwn i chi gynorthwyo drwy gymryd sylw o'r canlynol:
- Ni chaniateir bagiau mawr - mae'n debygol y bydd unrhyw fag sy’n fwy na maint bag dwrn merched yn cael ei chwilio
- Ni chaniateir cesys dillad yn y lleoliad graddio, gellir gwrthod mynediad i ddarpar-raddedigion a gwesteion
- Bydd darpar-raddedigion a gwesteion ond yn cael eu derbyn i Awditoriwm ICCW os oes ganddynt eu tocynnau. (NODER: Un tocyn i bob gwestai).
Sicrhewch eich bod yn cynllunio'ch cyrhaeddiad er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer y mesurau diogelwch cynyddol.
Mae ffotograffiaeth yn wasanaeth galw heibio yn y Brif Neuadd, felly gallwch chi gael eich llun wedi’i dynnu cyn neu ar ôl eich Seremoni. Bydd y ciw ar gyfer lluniau yn cael ei fonitro a bydd yn cau tuag awr cyn amser cychwyn eich Seremoni, bydd hyn yn caniatáu i bob darpar-raddedig fynd i'r Awditoriwm mewn pryd i eistedd ar gyfer y Seremoni. Os hoffech gael lluniau graddio proffesiynol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd o leiaf 2 awr cyn amser dechrau eich seremoni gan y bydd y ffotograffiaeth yn cau ar ôl y seremoni.
Rhaid i ddarpar-raddedigion a gwesteion wirio eu tocynnau am fanylion y lefel a rhif y drws y bydd rhaid iddynt ei ddefnyddio i fynd i mewn i'r awditoriwm. Bydd gan docynnau i ddarpar-raddedigion a gwesteion rif sedd penodol arnynt, a byddwch yn cael eich dangos i'r sedd a ddyrannwyd i chi. Sicrhewch eich bod yn cadw'ch tocyn, mae rhif eich sedd yn cyfateb i'r hyn sydd ar eich tocyn. Rhaid i ddarpar-raddedigion fynd i mewn ar wahân ar ôl cyflwyno eu tocynnau i'r Marsial. DARPAR-RADDEDIGION – PEIDIWCH Â SYMUD I SEDD GYFAGOS A ALLAI FOD YN WAG.
SYLWER: DIM OND YN ÔL DISGRESIWN Y PRIF FARSIAL Y GELLIR DERBYN UNRHYW DDARPAR-RADDEDIGION NEU WESTEION SY'N CYRRAEDD AR ÔL 4.50YP. GWNEWCH YN SIŴR EICH BOD YN CYRRAEDD MEWN PRYD.
| Teithio i ICCW | Am fanylion llawn ac opsiynau cyfeiriwch at: https://www.iccwales.com/getting-here/ |
|---|---|
| Parcio yn ICCW | Parcio Didrafferth Gyda dros 2,000 o leoedd ar gael, gan gynnwys 700 wedi'u lleoli ar lefelau -1 a -2, mae cyrraedd ICC Cymru yn syml ac yn gyfleus. Archebwch ymlaen llaw i sicrhau parcio drwy'r dydd am £6 yn unig yma: Archeb Parcio ICC Cymru (celtic-collection-events.com). |
| Rwy'n graddio, beth ddylwn i’w wisgo? | Mae'n ofynnol i'r holl ddarpar-raddedigion WISGO DILLAD PRIODOL (SYLWER: DIM JÎNS, SIORTS NEU FFLIP-FFLOPS). Rhaid i wisgo’r wisg academaidd briodol (cap, gŵn a chwfl). Ni chaniateir i chi raddio heb y wisg academaidd gywir. |
| Beth sy'n digwydd yn y neuadd seremoni? – darpar-raddedigion yn unig | Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu darllen cyn diwrnod eich seremoni. https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/graddio/ar-eich-diwrnod-graddio/ |
| A fydd tocynnau ychwanegol ar gael ar y diwrnod? | Mae’n bosibl y bydd gennym docynnau ychwanegol ar gyfer gwesteion i’w prynu ar y diwrnod, fodd bynnag, os bydd unrhyw docynnau ychwanegol ar gyfer gwesteion ar gael, y tu hwnt i’r dyraniad safonol o 2, codir tâl o £20.00. Byddwch yn ymwybodol, nid oes sicrwydd y bydd tocynnau ar gael ar y diwrnod. |
| Yn dilyn y seremoni – dychwelyd eich gwisg academaidd | Yn dilyn y seremoni, bydd rhaid i chi ddychwelyd eich gwisg academaidd (cap, gŵn a chwfl) agos at yr ystafell gotiau. Sicrhewch eich bod yn dychwelyd eich gwisg academaidd unrhyw bryd hyd at 7.30yh. Os nad ydych wedi talu am logi estynedig a'ch bod yn methu â dychwelyd eich gŵn erbyn 7:30yh eich cyfrifoldeb chi yw ei anfon yn ôl at Ede and Ravenscroft. |
| Beth am lyfryn? | Mae llyfrynnau am ddim ar gael ar y diwrnod a byddant yn cael eu dosbarthu pan fyddwch yn casglu eich tocynnau. |