Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Yn darparu mynediad at arbenigedd academaidd i fusnesau sydd am dyfu, arloesi neu wella eu perfformiad economaidd.
Gwasanaethau Busnes Cysylltu â NiMae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn ymwneud â chydweithio tair ffordd rhwng cwmni neu sefydliad; tîm academaidd a myfyriwr graddedig medrus.
- Gwella proffidioldeb
Gallai Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gynyddu eich elw drwy gael mynediad at farchnadoedd newydd, datblygu cynnyrch newydd a chynyddu cynhyrchiant.
- Ennill mantais gystadleuol
Drwy weithio mewn partneriaeth ag arbenigedd academaidd, gall Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth wella eich prosesau busnes a’ch perfformiad.
- Ymgorffori gwybodaeth newydd
Bydd Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn gyfle i ymgorffori gwybodaeth ac arbenigedd newydd yn eich busnes a chau bylchau sgiliau a nodwyd.
- Gwella effeithlonrwydd ac optimeiddio
Bydd Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn gyfle i ymgorffori gwybodaeth ac arbenigedd newydd yn eich busnes a chau bylchau sgiliau a nodwyd.
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn lleoli myfyriwr graddedig o'r radd flaenaf, a elwir yn ‘Fyfyriwr Cyswllt’, mewn sefydliad i gyflwyno prosiect o bwysigrwydd strategol i'r busnes. Mae'r Myfyriwr Cyswllt yn cael ei gyflogi ac yn cael ei oruchwylio ar y cyd gan arbenigwr/mentor academaidd o Brifysgol De Cymru, ynghyd ag uwch aelod o'r sefydliad.
Mae prosiectau’n ffocysu ar wreiddio gwybodaeth a galluoedd newydd mewn sefydliad, fel y gellir eu defnyddio i gyflawni amcanion twf.
Mae prosiectau’n para rhwng deuddeg mis a thair blynedd ac fe’u cefnogir gyda chyllid gwerth rhwng 50% a 67%, yn dibynnu ar faint y cwmni. Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth nid yn unig yn cefnogi twf busnes ac arloesedd, maent hefyd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i'r myfyriwr graddedig i ddatblygu gyrfa broffesiynol.
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn cael eu hariannu'n rhannol gan y Llywodraeth a gall busnesau bach a chanolig yng Nghymru elwa ar gyfraniad o 75% at Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth cymwys tan fis Mawrth 2024, sy'n gallu gwneud prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn gost-effeithiol iawn. Mae busnesau nad ydynt yn fusnesau bach a chanolig yn elwa o gyfraniad grant o 50%.
Ym Mhrifysgol De Cymru, mae gennym hanes cryf o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. Rydym wedi bod yn rhan o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth ers iddynt gael eu lansio, ac rydym wedi cwblhau dros 100 o brosiectau llwyddiannus. Mae ein profiad yn ein galluogi i wneud y broses mor hawdd â phosibl o ran cael gafael ar y cyllid ac mae Prifysgol De Cymru yn cynnig cymorth pwrpasol i fusnesau i sicrhau bod pob prosiect yn cael ei reoli’n effeithlon a bod ganddo’r posibilrwydd mwyaf o lwyddo.