Hyfforddiant Rheoli Prosiectau a Rhaglenni

O’n Cyrsiau Rheoli Prosiect Agile i gymwysterau PRINCE2 a rheoli prosiectau APM – datblygwch eich effaith yn y gweithle.

Archebu cwrs Rhaglenni Rhithwir wedi'u Teilwra
Two colleagues talking about a project in their office whilst working on laptops and papers.

Dewch o hyd i gyrsiau rheoli prosiect sy'n gweithio i chi. Byddwn yn eich helpu i lunio pecyn cymorth a methodoleg rheoli prosiectau newydd neu well – y cyfan wedi’i ddylunio drwy hyfforddiant rheoli prosiectau sy’n gweithio i chi.


Gellir cyflwyno'r cyrsiau uchod drwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni teilwredig o fewn eich sefydliad. Os ydych yn bwriadu cael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu'ch sefydliad, archwiliwch ein llwybrau ariannu neu gwnewch ymholiad i siarad â'n cynghorwyr.

Cyrsiau

Cyrsiau sydd ar ddod

®PRINCE2 7fed Argraffiad Sylfaen ac Ymarferydd (5 diwrnod): 24 Medi, 25 Medi, 26 Medi, 2 Hydref a 3 Hydref 2025

®PRINCE2 7fed Argraffiad Sylfaen ac Ymarferydd (5 diwrnod): 17 Tachwedd, 18 Tachwedd, 19 Tachwedd, 27 Tachwedd a 28 Tachwedd 2025

Archebwch eich lle.

Pris 

Cost PRINCE2 Sylfaen ac Ymarferydd (7ed Argraffiad) yw £1,475.00.   

Mae’r pris hwn yn cynnwys:  

  • Mynediad at holl ddeunydd y cwrs trwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir 
  • E-lyfr Swyddogol PRINCE2  
  • Arholiad Sylfaen ac Ymarferydd 

Beth yw PRINCE2?  

Dull strwythuredig o reoli prosiectau yw PRINCE2® Sylfaen ac Ymarferydd (7ed Argraffiad). Mae’n seiliedig ar brofiad o filoedd o brosiectau a chyfraniadau noddwyr prosiectau, rheolwyr prosiectau, timau prosiect, academyddion, hyfforddwyr ac ymgynghorwyr. Fe’i cynlluniwyd i fod yn raddadwy ac yn hawdd i’w addasu i anghenion gwahanol fathau o brosiectau a sefydliadau. Mae’r dull wedi hen ennill ei blwyf fel y safon yn y DU ac mae hefyd yn cael ei ymarfer ledled y byd.  

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?  

Mae’r rhaglen hon ar gyfer unrhyw un mewn amgylchedd prosiect neu mewn rôl sy’n cefnogi prosiectau sydd angen dysgu am ddull PRINCE2®. Mae’r rhaglen yn fuddiol i unrhyw reolwyr prosiect newydd neu brofiadol sydd am ddysgu sut i redeg prosiectau llwyddiannus ac effeithiol.  

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?  

Yn ystod y rhaglen, byddwn yn eich cyflwyno i’r rolau, yr egwyddorion, y themâu a’r prosesau sy’n rhan o strwythur PRINCE2®. Bydd y rhaglen yn eich dysgu sut i gymhwyso elfennau o fethodoleg PRINCE2®, er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i lwyddo, beth bynnag fo math neu raddfa'r prosiect. Yn ogystal â meithrin sgiliau rheoli prosiect ardderchog a rhagolygon cyflogaeth gwell, byddwch hefyd yn dysgu sut i reoli risgiau busnes a phrosiect yn fwy effeithiol, gan eich galluogi i weithio’n fwy strategol.  

Pam dewis y cwrs hwn?  

  • I ddysgu sut i gynllunio, monitro a rheoli prosiectau gan ddefnyddio dull PRINCE2® 
  • I ddatblygu sgiliau rheoli prosiect ardderchog a gwell rhagolygon o ran cyflogaeth  
  • I gyflawni cymhwyster achrededig cydnabyddedig  
  • Dyma gwrs amser real o dan arweiniad hwylusydd mewn amgylchedd dysgu rhithwir  

Mae PRINCE2® a'r logo Swirl yn nodau masnach cofrestredig y grŵp PeopleCert. Defnyddir o dan drwydded gan PeopleCert. Cedwir pob hawl.

Cyrsiau sydd i ddod

Nid oes dyddiadau ar gyfer y cyrsiau nesaf. Cofrestrwch eich diddordeb os hoffech neilltuo lle ar y cwrs hwn, os gwelwch yn dda.

Pris  

Cost MSP Sylfaen ac Ymarferydd (5ed Argraffiad) yw £1,495.00.   

Mae’r pris hwn yn cynnwys:  

  • Mynediad at holl ddeunydd y cwrs trwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir 
  • E-lyfr Swyddogol MSP 
  • Arholiad Sylfaen ac Ymarferydd   

Beth yw MSP®?  

Mae 5ed Argraffiad MSP® (Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus) Sylfaen ac Ymarferydd yn ddull hyblyg ac addasadwy o reoli prosiectau lle mai “gweledigaeth” busnes yw’r canlyniad gofynnol. Mae MSP® yn addas ar gyfer unrhyw fath a maint o raglen, ac mae’n helpu i gydlynu’r gwaith o reoli set o brosiectau i gyflawni amcanion strategol sy’n gofyn am reoli newid, amcanion strategol a chyflawni manteision busnes. Mae MSP® yn delio â rheolaeth cyd-ddibyniaethau a gwrthdaro posibl o fewn gwahanol brosiectau, gan ddarparu fframwaith ar gyfer gweithredu strategaethau busnes neu newid sefydliadol.  

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?  

Mae’r cymhwyster hwn yn berthnasol i’r rheini sy’n awyddus i reoli nifer o ddigwyddiadau newid yn eu sefydliad. Mae’n addas ar gyfer rheolwyr rhaglenni, rheolwyr prosiect profiadol ac uwch reolwyr mewn sefydliadau sy’n ymwneud â gweithredu newid, boed hynny’n uniongyrchol neu mewn rôl gefnogol.  

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?  

Bydd y cwrs yn eich galluogi i wahaniaethu rhwng prosiectau a rhaglenni, ac i nodi materion strategol y dylid eu hystyried wrth gynllunio rhaglen. Byddwch yn deall egwyddorion prosesau rheoli rhaglenni, ac yn penderfynu a allai dull rheoli rhaglenni fod yn fuddiol mewn amgylchedd busnes penodol.  

Pam dewis y cwrs hwn?  

  • Defnyddio arferion gorau wrth reoli rhaglenni i gyflawni newid trawsnewidiol yn llwyddiannus  
  • Mynd ati’n gydlynol i drefnu, cyfarwyddo a gweithredu coflen o brosiectau a gweithgareddau trawsnewid  
  • Arwain y gwaith o drawsnewid busnes gan ddarparu ar gyfer lefelau uchel o gymhlethdod, amwysedd a risg 

Dull gwahanol iawn o reoli prosiectau yw AgilePM®, nad yw’n mynnu bod popeth yn cael ei wneud ymlaen llaw ar ddechrau prosiect. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu datrysiad yn raddol er mwyn galluogi timau prosiect i ymateb yn effeithiol i ofynion sy’n newid, gan rymuso staff y prosiect ac annog mwy o gydweithio a pherchnogaeth. Mae AgilePM® yn darparu dull cyfannol; gan gofleidio newid a chynnig hyblygrwydd, a gellir ei ddefnyddio ar y cyd â dulliau fel PRINCE2®. 

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen? 

Mae AgilePM® wedi'i anelu at ddarpar reolwyr a rheolwyr cyfredol, ac at aelodau tîm sy'n dymuno mabwysiadu dull cyflym, hyblyg a chydweithredol o reoli prosiectau, ar yr un pryd â chynnal safonau a thrylwyredd. Mae'r rhaglen hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy'n dymuno ychwanegu at eu gwybodaeth am ddulliau traddodiadol, megis PRINCE2®. 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu? 

Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth ymarferol o AgilePM® i gynrychiolwyr, sy’n seiliedig ar fframwaith DSDM Antern, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Bydd hyn yn galluogi cynrychiolwyr i fod yn gynhyrchiol ar unwaith fel rheolwyr prosiect mewn amgylchedd prosiect ystwyth. Mae pynciau'r cwrs yn cynnwys: yr hanfodion a'r athroniaeth, yr egwyddorion, paratoadau, cylch bywyd a chynhyrchion, strwythurau tîm, rolau a chyfrifoldebau, cyfathrebu, rheoli cynllunio, risg, a rheoli prosiectau mewn ffordd ystwyth. 

Pam dewis y cwrs hwn? 

  • I ennill dealltwriaeth o ddull AgilePM® a'r gallu i gymhwyso dulliau rheoli prosiect perthnasol  
  • I gyfuno gwybodaeth am fethodolegau traddodiadol ag AgilePM® er mwyn addasu i amgylchedd busnes sy’n newid 
  • I hyrwyddo ymddiriedaeth a chydweithrediad agos rhwng y busnes a datblygwyr  

Pris 

Cost AgilePM® Sylfaen ac Ymarferydd yw £1,345.00. Mae hyn yn cynnwys yr holl ffioedd hyfforddi ac arholi.  

Cyrsiau sydd i dod 2024

AgilePM® (Ar-lein): 21 Goffennaf, 22 Goffennaf, 23 Goffennaf, 28 Goffennaf a 29 Goffennaf 2025

AgilePM® (Ar-lein): 6 Hydref, 7 Hydref, 8 Hydref, 13 Hydref a 14 Hydref 2025

AgilePM® (Ar-lein): 1 Rhagfyr, 2 Rhagfyr, 3 Rhagfyr, 8 Rhagfyr a 9 Rhagfyr 2025

Archebwch eich lle yma.

Y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM) yw’r corff proffesiynol annibynnol mwyaf yn Ewrop sy’n ymroddedig i reoli prosiectau a rhaglenni. Mae eu cymwysterau’n cynnwys cymysgedd o offer, technegau, prosesau a sgiliau, ac yn cynnig strwythur blaengar sy’n arddangos eich llwyddiannau o ran rheoli prosiectau. Caiff y cyrsiau eu rhedeg gan reolwyr prosiect ar gyfer rheolwyr prosiect, ac mae aelodau APM yn rhannu angerdd dros y proffesiwn, ac yn parhau i fod ar flaen y gad o ran safonau ac ymarfer proffesiynol, gan hyrwyddo rheoli prosiectau a chyflwyno syniadau newydd i’r byd rheoli prosiectau. 

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen? 

Mae Cymhwyster Rheoli Prosiectau APM (Lefel 7 SCQF) wedi’i anelu at reolwyr prosiect profiadol sy’n chwilio am gymhwyster proffesiynol sy’n seiliedig ar wybodaeth. 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu? 

Mae cymhwyster APM yn cydnabod dealltwriaeth drylwyr ymgeiswyr o reoli prosiectau. Byddwch yn gallu arddangos dealltwriaeth o sut mae’r elfennau hyn yn rhyngweithio a sut mae eich prosiect yn cyd-fynd â’ch amgylchedd strategol a masnachol, gydag enghreifftiau o’r byd go iawn, tra bydd ymarferion astudiaethau achos yn cael eu defnyddio i gyflymu’r dysgu.  

Mae’r pynciau astudio’n cynnwys: rheoli prosiectau mewn cyd-destun, cynllunio’r strategaeth, gweithredu’r strategaeth, technegau, busnes a masnachol, trefnu a llywodraethu, pobl a’r proffesiwn. 

Cymhwyster Rheoli Prosiectau APM – 6 diwrnod – mae’r cymhwyster hwn yn asesu pob maes rheoli prosiect, o oblygiadau strategol a masnachol eu rôl, i’r sgiliau technegol, sefydliadol a rheoli pobl sydd eu hangen i gyfrannu’n effeithiol o fewn tîm prosiect. 

Pam dewis y cwrs hwn? 

I ddangos eich bod yn weithiwr prosiect proffesiynol medrus sy’n meddu ar wybodaeth fanwl am dechnegau arfer gorau rheoli prosiectau  

I ddatblygu dealltwriaeth o sut mae elfennau rheoli prosiectau yn rhyngweithio 

I ddatblygu'r gallu i weithredu fframwaith safonol ar draws y diwydiant ac ar draws timau ac adrannau, gan sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl.

Pris

Cymhwyster Rheoli Prosiect APM yw £1595.00. Mae hyn yn cynnwys yr holl ffioedd hyfforddi ac arholiadau.  

Cyrsiau sydd ar ddod

Cymhwyster Rheoli Prosiect APM: 23 Mehefin, 24 Mehefin, 25 Mehefin, 2 Gorffennaf, 3 Gorffennaf a 4 Gorffennaf 2025

Cymhwyster Rheoli Prosiect APM: 10 Tachwedd, 11 Tachwedd, 12 Tachwedd, 24 Tachwedd, 25 Tachwedd a 26 Tachwedd 2025

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys diwrnod adolygu ar ddiwrnod 6. 

Llenwch ein ffurflen ymholiadau yma.

Mae rheoli newid ac effaith newid yn flaenoriaeth uchel a gall fod yn anodd ei gael yn iawn. Mae cwrs Ymarferydd Rheoli Newid Rhyngwladol APMG™ wedi cael ei ddatblygu i wella eich gallu i gofleidio a rheoli effeithiau newid yn llwyddiannus. Mae’n canolbwyntio ar agweddau ymarferol rheoli newid yn effeithiol drwy roi cyfle i chi ddatblygu eich gallu i ddelio â newid cyn, yn ystod ac ar ôl iddo ddigwydd. 

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen? 

Yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr prosiectau, rhaglenni neu newid; sydd naill ai’n gyfrifol am, neu’n ymwneud â gweithredu newid. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer aelodau’r tîm newid sydd un ai’n cael eu heffeithio gan newid neu sy’n cyfrannu at y newid, ac ar gyfer y rheini sy’n cefnogi cydweithwyr, timau a’u sefydliad drwy newid. 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu? 

APMG Change Management Practitioner™: 22, 23, 24, 29 a 30 Medi 2025

Archebwch eich lle nawr

Mae logos Change Management a Swirl Device APMG International yn nodau masnach APM Group Limited, ac fe’u defnyddir gyda chaniatâd APM Group Limited. Cedwir pob hawl.  

Gellir cyflwyno’r cwrs uchod drwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni pwrpasol yn eich sefydliad. Os ydych chi’n awyddus i gael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu eich sefydliad, edrychwch ar ein llwybrau cyllido neu gwnewch gais i siarad â’n cynghorwyr.