Datblygiad Proffesiynnol

Data a Thrawsnewid Digidol

Mae'r gyfres ddeinamig hon o raglenni byr, pwrpasol wedi'u dylunio i arfogi arweinwyr a thimau â'r ddealltwriaeth a'r offer sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Ymholwch nawr Datblygiad Proffesiynnol
Person working on data using touchscreen

Llunio Dyfodol Gwaith

O gracio'r cod diwylliannol i arwain yn oes deallusrwydd artiffisial, mae'r gyfres hon yn ystyried y themâu allweddol sy'n llunio dyfodol gwaith - gan gynnwys arweinyddiaeth ddigidol, strategaeth ddata, gwytnwch sefydliadol, a dylanwad strategol.

Holi Nawr

Arwain y Trawsnewidiad Digidol

Cyflwyniad
Mae Hanfodion Arweinyddiaeth ar gyfer Trawsnewid Digidol yn rhaglen arweinyddiaeth pedwar diwrnod sydd wedi'i chynllunio i adeiladu'r sgiliau, yr hyder a’r meddylfryd strategol sydd eu hangen i arwain newid digidol yn llwyddiannus. Mae ei ffocws ar arweinyddiaeth, trawsnewid sefydliadol, a newid diwylliant, gan helpu cyfranogwyr i droi uchelgais ddigidol yn weithredoedd ymarferol.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Arweinwyr canol neu uwch, penaethiaid gwasanaethau, asiantau newid, a rheolwyr mewn rolau gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Bydd y cwrs yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae trawsnewid digidol yn bwysig a sut i'w arwain yn effeithiol. Byddwch yn dysgu sut i greu gweledigaeth ddigidol glir, ymgysylltu â rhanddeiliaid, adeiladu diwylliant arloesol a chynhwysol, a chyflawni newid cynaliadwy trwy arweinyddiaeth, llywodraethu ac atebolrwydd ystwyth.

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr sydd angen sgiliau ymarferol i yrru trawsnewid digidol, nid arbenigedd technegol
  • Yn cyfuno dulliau arwain, gweithdai, dysgu gan gymheiriaid, ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • Adeiladu hyder i arwain timau trwy gyfnodau o newid technolegol a diwylliannol
  • Yn cefnogi sefydliadau i gryfhau gallu a pharodrwydd digidol

Pris
Pris - £200 y pen
Mae’r cwrs yn cael ei gynnig fel cwrs wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru tan fis Mawrth 2027

Dyddiadau fydd ar gael ar gyfer y cwrs
Cwrs 4 diwrnod

30 Medi, 7 Hydref, 14 Hydref, 21 Hydref 2026 (wyneb yn wyneb, Casnewydd)

17 Chwefror, 24 Chwefror, 3 Mawrth, 10 Mawrth 2027 (wyneb yn wyneb, Casnewydd)

Archebwch yma

Cyflwyniad
Mae Dylunio Newid: Arloesedd sy'n Canolbwyntio ar Bobl dros Gymru, yn rhaglen pedwar diwrnod sy'n seiliedig ar ymarfer, ac sy'n rhoi sgiliau meddylfryd dylunio a UX i arweinwyr a rheolwyr er mwyn gwella gwasanaethau, polisïau a phrosesau. Mae cyfranogwyr yn gweithio drwy'r cylch arloesi llawn, gan gynnwys deall anghenion defnyddwyr, diffinio problemau, cynhyrchu syniadau, creu prototeipiau a phrofi atebion, a hynny i gyd wrth ddefnyddio heriau sefydliadol go iawn. Mae'r cwrs yn meithrin hyder i arwain newid, meithrin cydweithio a gwreiddio ffyrdd mwy arloesol o weithio ar draws sefydliadau, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

I bwy mae o?
Arweinwyr, rheolwyr, a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat sy'n ceisio arloesi prosesau a gwella mynediad at gynhyrchion a gwasanaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i weithredu meddylfryd dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl ac egwyddorion UX gyda heriau sefydliadol go iawn, o ddeall anghenion defnyddwyr hyd at brofi a mireinio atebion. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol mewn ymchwil defnyddwyr, diffinio problemau, creu syniadau, creu prototeipiau, a gwella ailadroddus, gan ddefnyddio offer fel mapio empathi, mapio teithiau, a datganiadau "Sut Gallem Ni". Byddwch hefyd yn meithrin hyder i arwain arloesedd cydweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a gwreiddio dulliau newid sy'n canolbwyntio mwy ar y defnyddiwr o fewn eich sefydliad.

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Meithrin gallu ymarferol wrth arwain arloesedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i fynd i'r afael â heriau sefydliadol cymhleth
  • Meithrin hyder gan ddefnyddio meddylfryd dylunio wedi’i brofi a dulliau UX i wella gwasanaethau, polisïau a phrosesau
  • Gweithredu dulliau strwythuredig, creadigol sy'n cryfhau cydweithio ac yn ysgogi diwylliant o welliant parhaus
  • Gweithio ar heriau byd go iawn i sicrhau bod dysgu yn berthnasol yn uniongyrchol a bod modd ei ddefnyddio ar unwaith yn eich sefydliad

Pris
Pris - £200 y pen
Caiff hwn ei gynnig fel cwrs wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru tan fis Mawrth 2027

Dyddiadau cwrs sydd i ddod
Cwrs 4 diwrnod (3 diwrnod o gyflwyno rhithwir, 1 diwrnod mewn gweithdy yng Nghasnewydd)

11 Tachwedd (wyneb yn wyneb Casnewydd), 18 Tachwedd, 25 Tachwedd, 2 Rhagfyr 2026 (wyneb yn wyneb Casnewydd) 

24 Mawrth (wyneb yn wyneb Casnewydd), 31 Mawrth, 7 Ebrill, 14 Ebrill 2027 (wyneb yn wyneb Casnewydd)

Archebwch yma

Cyflwyniad
Mae Gorwelion Digidol: Edau, Gefeilliaid, Technoleg a Thrawsnewid yn rhaglen arweinyddiaeth pedwar diwrnod sy'n meithrin dealltwriaeth ddigidol, hyder, a gallu mewn tirwedd dechnolegol sy'n esblygu'n gyflym. Mae'n paratoi arweinwyr i lywio technolegau sy'n dod i'r amlwg, arwain trawsnewid yn effeithiol, a throi cyfleoedd digidol yn werth sefydliadol go iawn.

I bwy mae o?
Arweinwyr, rheolwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat sy'n ceisio arloesi prosesau a gwella mynediad at gynhyrchion a gwasanaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Nod y cwrs fydd datblygu eich dealltwriaeth o'r ecosystem ddigidol, gan gynnwys data, deallusrwydd artiffisial, a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, a sut i weithredu'r offer yma i wella’r broses gwneud penderfyniadau a pherfformiad sefydliadol. Byddwch yn meithrin eich hyder wrth arwain trawsnewid digidol, gan ddefnyddio llwyfannau fel Microsoft Copilot a Power Platform, wrth fynd i'r afael â materion allweddol fel moeseg data, diwylliant, a seiberddiogelwch.

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer arweinwyr sydd angen deall newid digidol ar lefel strategol a sefydliadol yn hytrach nag un dechnegol.
  • Yn cyfuno astudiaethau achos o'r byd go iawn, mewnbwn arbenigwyr, ac efelychiad seiberddiogelwch byw i ddod â dysgu'n fyw
  • Yn helpu sefydliadau i leihau risg a gwella gwneud penderfyniadau mewn amgylcheddau digidol sy'n newid yn gyflym
  • Yn cefnogi datblygiad proffesiynol drwy gryfhau hyder arweinyddiaeth wrth lywio newid cymhleth digidol a newid sy'n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial

Pris
Pris - £200 y pen
Caiff hwn ei gynnig fel cwrs wedi’i ariannu'n llawn ar gyfer y sector cyhoeddus tan fis Mawrth 2027

Dyddiadau cwrs sydd i ddod
Cwrs 4 diwrnod

2 Medi, 9 Medi, 16 Medi (rhithwir) and 23 Medi 2026 (wyneb yn wyneb).

13 Ionawr, 20 Ionawr, 27 Ionawr, 3 Chwefror 2027 (wyneb yn wyneb).

28 Ebrill, 5 Mai, 12 Mai, 19 Mai 2027 (wyneb yn wyneb).

Archebwch yma

Cyrsiau

Cyflwyniad

Mae Adrodd Storïau Digidol yn gwrs pum diwrnod ymarferol sydd wedi'i gynllunio i adeiladu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i helpu pobl i rannu eu storïau a'u profiadau trwy’r cyfryngau digidol. Mae'n cyfuno technegau adrodd storïau â sgiliau golygu sain a fideo ymarferol, gan alluogi cyfranogwyr i greu storïau digidol ystyrlon a diddorol o'r dechrau i'r diwedd.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Unrhyw un sydd â diddordeb mewn adrodd storïau at ddibenion newid, cyfathrebu, ymgysylltu, neu ymchwilio mewn sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Bydd y cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o sut mae storïau’n cael effaith a sut i ddefnyddio dulliau adrodd storïau digidol yn effeithiol. Byddwch yn dysgu sut i strwythuro storïau mewn ffordd sy’n cydio yn y dychymyg, sut i ddarganfod storïau drwy sgyrsiau un-wrth-un, sut i recordio a golygu sain a sut i gyfuno delweddau â sain, yn ogystal â dod i ddeall meysydd allweddol fel cydsyniad, moeseg a llywodraethu.

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Dysgu ymarferol ac uniongyrchol, gyda chyfle i greu eich stori ddigidol eich hun
  • Datblygu sgiliau technegol a thechnegau rhyngbersonol adrodd storïau
  • Deall gofynion moesegol, cydsyniad, ac arfer da pan yn gweithio gyda storïau
  • Delfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n defnyddio adrodd storïau ar gyfer ymgysylltu, ymchwilio, neu newid sefydliadol

Pris

£395 y pen

Dyddiadau fydd ar gael ar gyfer y cwrs

Cwrs 5 diwrnod
10 Tachwedd, 11 Tachwedd, 17 Tachwedd, 18 Tachwedd a 25 Tachwedd 2026

Archebwch yma

Datglowch bŵer data i yrru penderfyniadau mwy craff drwy ein cwrs undydd, Arweinyddiaeth Data, wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer arweinwyr a rheolwyr. Mae'r gweithdy ymarferol hwn yn eich arfogi â'r wybodaeth strategol a'r offer ymarferol sydd eu hangen i harneisio data yn effeithiol, gwella darpariaeth gwasanaethau, a meithrin diwylliant o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata.

Trosolwg o'r Cwrs

Nod y cwrs undydd hwn yw rhoi dealltwriaeth sylfaenol i gyfranogwyr o arweinyddiaeth data, gan ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata, rheoli data, a meithrin diwylliant sy'n canolbwyntio ar ddata o fewn sefydliadau.

Pynciau’r cwrs

Gwneud Penderfyniadau sy'n Cael eu Gyrru gan Ddata

  • Diffiniad a manteision
  • Astudiaethau achos ac enghreifftiau
  • Gweithgaredd rhyngweithiol: Dadansoddi data i wneud penderfyniad

Rheoli Data

  • Ansawdd data, llywodraethu a diogelwch
  • Offer ac arferion gorau
  • Heriau wrth reoli data

Creu Diwylliant sy'n cael ei Yrru gan Ddata

  • Adeiladu tîm llythrennog o ran data
  • Annog defnydd data mewn gweithrediadau dyddiol
  • Hyrwyddo mentrau sy'n cael eu gyrru gan ddata

Galluogi Rhagolwg drwy Ddata

  • Defnyddio dadansoddeg i gynllunio’n strategol
  • Ymateb i dueddiadau'r diwydiant
  • Datblygu strategaeth sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer cwmni damcaniaethol

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Deall pwysigrwydd arweinyddiaeth data mewn sefydliadau modern.
  • Gweithredu prosesau gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata.
  • Rheoli ansawdd data, llywodraethu a diogelwch.
  • Meithrin diwylliant sy'n seiliedig ar ddata o fewn eu timau.
  • Defnyddio data i osod nodau strategol ac ymateb i dueddiadau'r diwydiant.

Pwy ddylai ddilyn y cwrs?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, arweinwyr timau a gweithwyr proffesiynol sy'n ceisio gwella eu prosesau gwneud penderfyniadau strategol trwy ddata, gwella arferion llywodraethu data, a meithrin diwylliant sy'n seiliedig ar ddata o fewn eu sefydliadau.

Dyddiad ac amseroedd y cwrs

Nid oes dyddiadau ar gyfer y cyrsiau nesaf. Cofrestrwch eich diddordeb os hoffech neilltuo lle ar y cwrs hwn, os gwelwch yn dda.

Tiwtor y Cwrs

Dr Rebecca Peters yw Pennaeth Pwnc Cyfrifiadureg a Mathemateg yn PDC, gan arwain arloesedd academaidd ar draws y ddwy ddisgyblaeth. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wyddor data a dadansoddeg ragfynegol, gyda chydweithrediad cryf yn y diwydiant ledled De Cymru.

Mae’r hyfforddiant yn profi’n hynod o werthfawr i’r staff a’r cleifion. Mae cleifion yn adrodd eu bod yn teimlo eu bod yn cael gwrando’n ddwfn pan fyddant yn cymryd rhan mewn creu stori ddigidol.

Jessica Jones

Cyfarwyddwr Ysbyty Aberbeeg, Elysium Healthcare