Datblygiad Proffesiynnol

Cyrsiau Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cwblhewch gwrs ILM i ddod yn arweinydd ym maes newid – gyda set unigryw o sgiliau ac ymddygiadau.

Ymholwch Nawr Datblygiad Proffesiynol
A business team discussing ideas in an office.

Datblygwch yr wybodaeth a’r hyder i gyflawni datrysiadau digidol effeithiol a sbarduno newid ystyrlon. Heriwch eich meddylfryd drwy fyfyrio’n feirniadol, gan nodi cyfleoedd i’ch sefydliad esblygu ar yr un pryd. Byddwch yn canfod ac yn datblygu’r cryfderau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn.



student-25

RHAGLEN ARWEINYDDIAETH I FENYWOD

Mae'r Rhaglen Arweinyddiaeth i Fenywod yn sbardun ar gyfer newid - taith rymus ac ymarferol sydd wedi ei dylunio i'ch helpu i godi eich llais, ehangu eich dylanwad, a chyflymu eich llwybr arweinyddiaeth.

Cynyddu eich potensial drwy gymysgedd o hyfforddiant, dysgu gan gyfoedion, a strategaethau ymarferol. Meithrin cysylltiadau ystyrlon, ehangu eich rhwydwaith, a chlywed safbwyntiau y gallwch eu defnyddio ar unwaith.