Llunio Arweinyddiaeth drwy Her a Newid
28 Chwefror, 2025
Graddiodd Lleucu Siencyn yn ddiweddar o raglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 7, gan ymuno â’r cwrs yn 2024 ar adeg allweddol yn ei gyrfa, wrth iddi chwilio am her newydd a chyfeiriad proffesiynol ffres.
“Ro’n i wedi cwblhau ILM Lefel 5 rai blynyddoedd ynghynt ac wedi cael profiad gwych,” eglurodd Lleucu. “Felly pan deimlais ei bod hi’n amser gwthio fy hun ymhellach, roedd y rhaglen hon yn gam naturiol ymlaen – yn enwedig gan ei bod yn cyd-fynd â rhai newidiadau mawr yn fy mywyd gwaith.”
Ei swydd newydd yw Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni yn Adnodd, corff hyd fraich Llywodraeth Cymru sy’n goruchwylio ac yn cydlynu’r ddarpariaeth o adnoddau addysgol yn y Gymraeg a’r Saesneg i gefnogi addysgu a dysgu Cwricwlwm i Gymru. Fel sefydliad newydd, roedd angen gweledigaeth strategol glir ar Adnodd, ac arweiniodd Lleucu - gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd ar y rhaglen - ddatblygiad ei Strategaeth gyntaf erioed.
Amgylchedd Dysgu Cydweithredol
Un o agweddau mwyaf gwerthfawr y cwrs oedd y strwythur, a chyfuno astudio annibynnol, cymhwysiad ymarferol a thrafodaethau grŵp ystyrlon.
“Roedd bod yn rhan o garfan o arweinwyr o bob cwr o’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn fraint go iawn. Fe roddodd y cyfle i ni rannu profiadau ac ystyried sefyllfaoedd y tu allan i’n hamgylchiadau arferol. Roedd y grŵp mor gefnogol; fe ddysgon ni i gyd gymaint gan ein gilydd.”
Mewnblannu Myfyrio a Thwf Parhaus
Un o brif wersi’r rhaglen oedd pwysigrwydd neilltuo amser ar gyfer myfyrio – a gwreiddio hynny yn y gwaith o ddydd i ddydd.
“Mae’n rhywbeth rydyn ni i gyd yn gwybod y dylem ei wneud, ond prin ein bod yn gwneud lle iddo. Fe ddysgodd y rhaglen i mi fod angen disgyblaeth ar gyfer myfyrio ystyrlon – ac mae’n werth yr ymdrech. Mae bellach yn rhan reolaidd o’r ffordd rwy’n mynd ati i wneud fy ngwaith.”
Camu i Swydd Newydd gyda Hyder
Mae effaith y cwrs wedi bod yn bersonol ac yn broffesiynol. Yn ogystal â meithrin eglurder a hyder, mae Lleucu wedi llwyddo i drosglwyddo i swydd newydd mewn sector newydd, gyda set well o offer ac ymdeimlad dyfnach o empathi.
“Roeddwn i eisiau i’r broses hon fod yn un gydweithredol, yn cynnwys staff a rhandaliad i gasglu syniadau a gwrando ar eu barn am ein meysydd blaenoriaeth. Rhoddodd y fframweithiau a’r adnoddau a rannwyd ar y cwrs yr offer i mi lunio’r broses mewn ffordd gydweithredol, gyda’r egwyddor o arweinyddiaeth a rennir wrth wraidd y gwaith.”
Creu Diwylliant o Ddysgu
Dechreuodd Lleucu ar y rhaglen yn fuan ar ôl sicrhau’r rôl yn Adnodd, a chafodd gefnogaeth gref gan ei sefydliad o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r gefnogaeth gynnar honno wedi helpu i lunio diwylliant y sefydliad o’r diwrnod cyntaf. “Gyda chefnogaeth y Prif Weithredwr, mae aelodau eraill o’r tîm hefyd yn cael eu hannog i gymryd amser i ddysgu a myfyrio.”
Pecyn Offer Ymarferol ar gyfer Arweinyddiaeth y Dyfodol
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r dysgu’n parhau i lunio ffordd Lleucu o weithio – yn enwedig o ran creadigrwydd a chydweithio.
“Rwyf wedi dod allan o’r rhaglen gyda phecyn o offer rwy’n eu defnyddio bob dydd, boed hynny i fynd i’r afael â heriau neu i adeiladu ar yr hyn rwy’n ei wneud orau. Fe wnaeth y rhaglen annog meddwl arloesol a rhoi’r lle i mi ddeall sut rwy’n arwain a ble rwyf am fynd nesaf.”