66 Days, Asiantaeth Fideo a Ffotograffiaeth Creadigol
Mae 66 Days a sefydlwyd gan unigolyn angerddol a brwd, ac sydd wedi cael cefnogaeth rhaglen LAUNCH+ arobryn PDC (a ariennir ar y cyd gan Fenter Gyrfaoedd a Stiwdio Sefydlu) yn gwneud ei farc ym maes creu cynnwys digidol.
Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
Mae Stiwdio Sefydlu, a grëwyd gan PDC, yn rhaglen cymorth i fusnesau newydd i raddedigion PDC. Mae’n cynnig man unigryw i dyfu cysylltiadau a rhagolygon busnes drwy rwydweithiau, digwyddiadau a chynigion amrywiol.
Yr angen
Cyn lansio 66 Days, roedd ei sylfaenydd, Dan McCadden, yn ceisio ymdopi gyda phedair swydd contract dim oriau – tra’n adeiladu busnes o’r gwaelod i fyny. Roedd y weledigaeth yno: helpu brandiau a busnesau sefyll allan ar-lein drwy fideos hysbysebu o safon uchel, fideos byr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth. Ond heb USP clir, sefydlogrwydd ariannol na’r lle i ganolbwyntio, roedd troi’r weledigaeth honno yn fusnes llawn amser yn teimlo’n bell i ffwrdd.
Roedd gwir angen am gymorth, nid yn unig o ran datblygu busnes a mentora, ond hefyd mynediad i offer, strwythur a chymuned o weithwyr creadigol tebyg iddo.
Y Datrysiad
Rhoddodd y rhaglen LAUNCH+ – rhaglen datblygu busnes pedair mis sy’n cynnig cyflog dros dro a ddarperir gan Menter PDC – gyfle i Dan ganolbwyntio ar ei fusnes newydd go iawn. Trodd 66 Days o fod yn waith achlysurol i rywbeth llawn amser dros y misoedd hynny, gan ddiffinio USP clir, mireinio cynnig y gwasanaeth a rhoi’r lle a’r amser oedd ei angen i ganolbwyntio ar dwf. Nid dyna oedd diwedd y gefnogaeth. O fentoriaid busnes a chyngor arbenigol bob cam o’r ffordd, i fynediad i git o safon uchel a chyllid er mwyn prynu offer, daeth Stiwdio Sefydlu yn rhan hanfodol o’r daith.
Yr Effaith
Ers hynny, mae 66 Days wedi bod yn brysur – ac nid yn lleol yn unig. Yn ddiweddar, enillodd y tîm gontract mawr gyda Global Water Intel, sefydliad sy’n gweithio ar sicrhau bod dwr yfed glân ar gael ar draws y byd. Y briff? Taflu golau ar y diwydiant dŵr byd-eang a chodi ymwybyddiaeth o’i effaith bositif. Roedd hynny’n golygu ymweld â chyfleusterau dŵr blaengar yn Hong Kong, Tsieina, Singapore ac Awstralia, er mwyn cynhyrchu cynnwys o safon, yn seiliedig ar stori, fydd yn ysbrydoli ac yn rhannu gwybodaeth â chynulleidfa byd-eang.