Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru
Cyflwynodd Prifysgol De Cymru gyfres o Ddiwrnodau Asesu ar-lein ar gyfer FFORWM CANOLFAN GYSWLLT CYMRU (WCCF) a’i chonsortiwm cyflogwyr, i gyfweld ymgeiswyr ar gyfer eu rhaglen graddedigion Data/AI carlam.
Cysylltu â n Ymuno â’n Rhwydwaith
Mae hon yn rhaglen garlam arloesol sy’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial, ar gyfer graddedigion STEM detholedig fel rhan o bartneriaeth newydd.
Gyda 25 o raddedigion bob wythnos, a sefydliadau sy’n arwain y diwydiant fel aseswyr, roedd angen datrysiad ar-lein i gynnal cyflwyniadau grŵp, cyfweliadau unigol a sesiynau briffio.
Dyfeisiodd Tîm Cynadleddau a Digwyddiadau Prifysgol De Cymru ddatrysiad ar-lein gan ddefnyddio ein meddalwedd mewnol, a oedd yn cynnwys mynd ag ymgeiswyr i grwpiau trafod ar-lein, amseru cyflwyniadau i sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg yn unol â’r amserlen, rheoli’r gwahanol ystafelloedd ar-lein, recordio cyfweliadau unigol a chreu dolenni ar gyfer y gwahanol sesiynau.
Gwnaethom hefyd gefnogi'r graddedigion ac aseswyr y diwydiant gydag unrhyw anawsterau technegol, gan weithio ochr yn ochr â thîm WCCF i gynllunio manylion y diwrnod asesu.