Straeon Llwyddiant

FinTech Cymru

Cydweithiodd PDC â FinTech Cymru i gynnal cyfres o ddigwyddiadau effeithiol gyda'r nod o gysylltu myfyrwyr â darpar gyflogwyr, hyrwyddo entrepreneuriaeth fenywaidd, a meithrin perthnasoedd rhwng y brifysgol a busnesau lleol.

Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
FinTech Wales CEO

Mae'r bartneriaeth hon yn tynnu sylw at ymrwymiad PDC i gefnogi'r gymuned fusnes ranbarthol a darparu cyfleoedd gwerthfawr i'w myfyrwyr.


student-25

Yr angen

Ceisiodd FinTech Cymru ymgysylltu â sefydliadau addysgol i hwyluso cysylltiadau ystyrlon rhwng myfyrwyr a chyflogwyr gyda'r nod terfynol o arloesedd pellach yn y diwydiannau cyllid a thechnoleg. Mae FinTech Cymru hefyd yn canolbwyntio ar hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y sectorau hyn. O ganlyniad, roedd angen partner ar FinTech Cymru a allai ddarparu lleoliadau addas a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer digwyddiadau amrywiol. Daeth y berthynas â PDC i'r amlwg fel un arbennig o fuddiol, gan gynnig lleoliad strategol, parodrwydd sylweddol i gynnig cefnogaeth ac ymagwedd ragweithiol tuag at ymgysylltu â'r gymuned.


YR ATEB

I ddechrau, cydweithiodd PDC â FinTech Cymru ar ddigwyddiad recriwtio gyda'r nod o gysylltu cyflogwyr â myfyrwyr er mwyn i gyflogwyr gwrdd â thalent o safon uchel, ac i fyfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o'r rolau sydd ar gael yn y diwydiannau technoleg a chyllid. Arweiniodd llwyddiant y digwyddiad hwn at gydweithio pellach, gan gynnwys brecwast rhwydweithio, a roddodd gyfle i gael sgyrsiau rhwng busnesau technoleg ariannol Cymru a Chyfnewidfa PDC, gan gyflwyno nifer o ffyrdd y gall busnes elwa o wasanaethau busnes PDC. Daeth nifer fawr o bobl i’r ddau ddigwyddiad o fyd menter ac addysg, gan greu cyfle unigryw i gyflogwyr gwrdd â thalent leol newydd a manteisio arni’n rhagweithiol.

MAE YMAGWEDD RAGWEITHIOL A CHYDWEITHREDOL PDC WEDI BOD YN ALLWEDDOL YN LLWYDDIANT EIN DIGWYDDIADAU. MAE EI HYMRODDIAD I FEITHRIN PERTHNASOEDD CRYF Â BUSNESAU LLEOL A DARPARU CYFLEOEDD GWERTHFAWR I FYFYRWYR YN RHAGOROL.

Sarah Kochanski, Prif Swyddog Gweithredol

FinTech Cymru

EDRYCHWN YMLAEN AT WELD BETH DDAW NESAF O'R BARTNERIAETH LLYWYDDIANNUS HON, A DATHLU EI CHANLYNIADAU I FYFYRWYR, CYFLOGWYR AC, O GANLYNIAD, I DDIWYDIANNAU TECHNOLEG A CHYLLID YNG NGHYMRU.

Sarah Kochanski, Prif Swyddog Gweithredol

FinTech Cymru