Profi Diagnostig Cyflymach, Gwyrddach ac yn Fwy Cost-effeithiol
28 Chwefror, 2025
Gyda chefnogaeth Rhaglen Partneriaethau Academaidd-Diwydiannol (PAD) Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, mae ImmunoServ, cwmni o Gaerdydd, wedi trawsnewid ei broses weithgynhyrchu – gan ostwng costau cynhyrchu 30%, lleihau ei hôl troed carbon, ac ychwanegu dros £200,000 at ei refeniw disgwyliedig.
Mae’r ffordd newydd, fwy cynaliadwy o weithio nid yn unig yn gyrru arloesi ym maes diagnosteg, ond hefyd yn cefnogi swyddi lleol ac yn gosod y sylfaen ar gyfer cydweithrediadau yn y dyfodol.
Y Cwmni
Mae ImmunoServ yn fusnes biotechnoleg fach ond uchelgeisiol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Ei gynnyrch nodedig - Pecyn Prawf Labordy Immuno-TTM - yn cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr a thimau iechyd cyhoeddus ledled y byd i asesu effeithiolrwydd brechlynnau ac ymateb poblogaethau i haint.
Yr Her
Hyd yn ddiweddar, roedd yn rhaid i ImmunoServ anfon deunyddiau allweddol ar gyfer ei becynnau prawf i India ar gyfer proses hanfodol o sychu trwy rewi, cyn eu cludo’n ôl i Gaerdydd. Nid oedd hyn yn unig yn ddrud – roedd hefyd yn cynnwys risgiau fel oedi wrth y tollau, ôl troed amgylcheddol trwm o gludiant awyr rhyngwladol, a chostau a oedd yn lleihau elw’r cwmni.
I fusnes micro sy’n tyfu ac sydd ag adnoddau cyfyngedig, nid oedd y trefniant hwn yn gynaliadwy.
Y Datrysiad
Drwy ymgysylltu â Rhaglen Partneriaethau Academaidd-Diwydiannol Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (CCR AIP), mae ImmunoServ wedi gallu dod â’r broses gyfan i mewn i’r cwmni ei hun. Gyda buddsoddiad a chyngor technegol gan Brifysgol Caerdydd, datblygodd y tîm ffordd o gyflawni’r broses sychu trwy rewi yn lleol, yn eu labordy yng Nghaerdydd.
Sicrhaodd y tîm fod y dull newydd yn cyfateb i ansawdd y broses allanol – gan gynnal profion manwl i sicrhau canlyniadau dibynadwy ym mhob batsh. Roedd llwyddiant y newid hwn yn golygu eu bod bellach yn gallu rheoli’r cylch cynhyrchu cyfan eu hunain, heb gyfaddawdu ar berfformiad.
Y Canlyniadau
Mae dod â’r broses gynhyrchu yn ôl i Gaerdydd wedi cael effaith sylweddol:
- Gostyngiad mewn costau cynhyrchu: 30% yn llai o gost fesul pecyn – gan ryddhau arian i’w ail-fuddsoddi yn y busnes.
- Cynnydd mewn refeniw: £218,000 o refeniw ychwanegol disgwyliedig dros y 12 mis nesaf, wedi’i gefnogi gan archebion masnachol newydd a chyllid ychwanegol.
- Ôl troed carbon gwell: Arbedwyd 2.93 tunnell o CO₂ fesul llwyth – cam mawr ymlaen wrth leihau effaith amgylcheddol y cwmni.
- Swyddi wedi’u diogelu: Tair swydd wedi’u cadw, gan gynnig mwy o sefydlogrwydd a chyfleoedd i’r tîm.
- Amser cyflymach i gael effaith: Gwell amseroedd ymchwil a datblygu a phartneriaethau mwy o faint ar draws Rhanbarth Prifddinas Caerdydd – gan gynnwys gwaith newydd ar ddiagnosteg ar gyfer MS, canser a’r ffliw gyda sefydliadau ymchwil blaenllaw.
Mae’r cydweithrediad hwn yn enghraifft wych o sut y gall busnesau bach dyfu’n glyfar gyda’r gefnogaeth gywir. Drwy ddatrys problem leol, mae ImmunoServ wedi cryfhau ei gynnig ar lefel fyd-eang – gan brofi bod arloesi, effaith a chynaliadwyedd yn gallu mynd law yn llaw.