Straeon Llwyddiant

Pobl Yn Gyntaf RhCT

I ddechrau, cydweithiodd PDC gyda Pobl yn Gyntaf RhCT i ddarparu cyfleusterau cynadledda hygyrch a chroesawgar ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau rhanbarthol Contact.

Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
rct

Heddiw, mae'r bartneriaeth hon yn parhau i fod yn allweddol wrth gefnogi cenhadaeth Contact i rymuso oedolion ag anableddau dysgu.


student-25

Yr angen

Mae Contact yn elusen yn y DU sy'n cefnogi teuluoedd â phlant anabl, gan gynnig cyngor a gwybodaeth, beth bynnag yw sefyllfa neu gyflwr plentyn. Maent hefyd yn helpu gweithwyr proffesiynol sy'n cynorthwyo'r teuluoedd hyn ac yn ymgyrchu dros eu hawliau yn y DU.
Fel rhan o'r genhadaeth hon, roedd angen lleoliad canolog, hygyrch ar Contact ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau a allai ddarparu’n gyfforddus ar gyfer eu haelodau o wahanol ranbarthau, gan gynnwys RhCT, Casnewydd, Blaenau Gwent, a Thorfaen.

Roedd angen i'r lleoliad fod yn gymwynasgar a darparu amgylchedd cefnogol i unigolion ag anghenion penodol.


YR ATEB

Profodd Canolfan Gynadledda PDC yng Nghasnewydd i fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer Contact a Family. Roedd hygyrchedd y cyfleuster a dealltwriaeth y staff o ofynion yr elusen yn ei gwneud yn lleoliad perffaith. Defnyddiwyd y lleoliad at wahanol ddibenion, gan gynnwys cyfarfodydd byrddau partneriaeth rhanbarthol a digwyddiadau cydweithredol gyda myfyrwyr nyrsio'r brifysgol. Fe wnaeth tîm PDC roi croeso cynnes yn gyson ac aethant yr ail filltir i ddiwallu anghenion yr elusen, gan sicrhau bod pob digwyddiad wedi rhedeg yn ddi-drafferth.

MAE'R TÎM YNG NGHANOLFAN GYNADLEDDA PDC YN WYCH. MAENT BOB AMSER YN GROESAWGAR AC YN GYMWYNASGAR, GAN WNEUD I'N HAELWODAU DEIMLO’N GYSURUS A’U BOD NHW’N CAEL EU GWERTHFAWROGI. MAE EU CEFNOGAETH WEDI BOD YN HANFODOL O RAN LLWYDDIANT EIN DIGWYDDIADAU, AC RYDYM YN ARGYMELL EU GWASANAETHAU YN FAWR.

Mark Evans, Cynrychiolydd

Contact

MAE CYFLEUSTERAU'R GYNHADLEDD YN PDC YN GYFFORDDUS, YN HYGYRCH AC YN DIWALLU EIN ANGHENION YN BERFFAITH. MAE'R STAFF YN ANHYGOEL - DOES DIM BYD BYTH YN GORMOD O DRAFFERTH IDDYN NHW. RYDYM WRTH EIN BODD YN DEFNYDDIO'R LLEOLIAD HWN PRYD BYNNAG Y GALLWN.

Dawn Price, Rheolwr Trefniadol

Pobl yn Gyntaf RhCT