Sefydliad Prydeinig y Galon
Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru fel llysgennad ar gyfer ei gynllun Pack for Good cenedlaethol.
Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
Mae'r cynllun Pack for Good yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff Prifysgol De Cymru roi eitemau diangen fel dillad, offer trydanol, llyfrau a dodrefn i fanciau casglu BHF ar bob campws.
Yr angen
Wrth i fyfyrwyr adael eu cartrefi ym Mhrifysgol De Cymru, mae angen ystyried rheoli gwastraff. Mae gan Brifysgol De Cymru gynlluniau uchelgeisiol i fod yn garbon niwtral erbyn 2040, felly mae'r Brifysgol yn edrych yn gyson ar sut gallai weithredu'n gynaliadwy a lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.
Mae angen eitemau diangen ar Sefydliad Prydeinig y Galon bob amser i helpu i ariannu gwaith ymchwil sy’n achub bywydau. Maent yn ailddefnyddio dros 71,000 tunnell o roddion bob blwyddyn ac yn atal 135,000 tunnell o CO2 rhag cael ei ryddhau i’r atmosffer.
Yr ateb
Mae Prifysgol De Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i lansio’r cynllun Pack for Good. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff roi eitemau diangen drwy fanciau casglu ar y campws. Bydd yr eitemau a roddir, a fyddai fel arall yn debygol o fod wedi mynd i safleoedd tirlenwi, yn cael eu gwerthu yn siopau elusen BHF Cymru, gan gefnogi a helpu i ariannu gwaith ymchwil a gwaith yr elusen sy’n achub bywydau. Fel rhan o'r cynllun, bydd Prifysgol De Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn ceisio cefnogi ystod eang o ddigwyddiadau ymgysylltu â myfyrwyr. Bydd y rhain yn cynnwys siop dros dro lle gall myfyrwyr newydd brynu eitemau mawr eu hangen ar gyfer eu hamser yn y Brifysgol.