Defnyddio Sgiliau Digidol i Greu Effeithlonrwydd mewn Gofal Cymdeithasol

15 Mai, 2025

Simon Jones

Cofrestrodd Simon Jones, sy’n Swyddog Perfformiad a Gwella Strategol gyda Chyngor Abertawe, ar gwrs MSc Arwain Trawsnewid Digidol PDC i hogi ei sgiliau digidol ac i ystyried ffyrdd newydd o greu effeithlonrwydd mewn gofal cymdeithasol.

Dywedodd, "Ar ddechrau'r cwrs, fe ofynnais i fi fy hun - allai ChatGPT wneud fy ngwaith? I gychwyn, roedd hynny'n teimlo fel bygythiad. Ond yna dechreuais feddwl am y dyletswyddau ailadroddus hynny sy’n rhan o fy ngwaith – ysgrifennu adroddiadau, yn enwedig. Mae'n debygol y gallai Deallusrwydd Artiffisial, neu AI, wneud y gwaith hwnnw,  hyd yn oed yn well weithiau, efallai."

Y Prosiect: Harneisio AI Eglurhaol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol

Wedi'i ysbrydoli gan fodiwlau ac aseiniadau’r MSc, dechreuodd Simon ystyried sut y gallai AI - AI Eglurhaol yn benodol – fod o gymorth i dimau gwasanaethau cymdeithasol. Roedd ei brosiect yn ffocysu ar ddefnyddio dulliau Cynhyrchu Estynedig Adferol (RAG) i adeiladu teclyn a allai awtomeiddio elfennau o’r gwaith o ysgrifennu adroddiadau a chynnal y tryloywder a'r atebolrwydd sy'n hanfodol mewn gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae AI cynhyrchiol yn wych," medd Simon. "Ond mewn gofal cymdeithasol, gall fod yn anodd argyhoeddi pobl o’i werth. Mae'n faes gwaith ymarferol, sydd â phobl wrth galon popeth, ac mae pobl eisiau gwybod sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud – a gall AI traddodiadol fod yn rhywbeth anghyfarwydd nad yw pobl yn ei ddeall. Dyna pam mae AI Eglurhaol mor bwysig."

Dylanwad yr MSc ac Egwyddorion Meddwl mewn Ffordd Ddyluniol

Rhoddodd yr MSc gyfle i Simon lunio, cynllunio a chwblhau ei brosiect gyda mewnbwn academaidd ac arbenigol y gyfadran. Roedd modiwl Meddwl mewn ffordd Ddyluniol yn arbennig o drawsnewidiol.

"Newidiodd y ffordd rwy'n meddwl am heriau yn llwyr," dywed. "Mae meddwl mewn ffordd ddyluniol yn eich annog i gamu y tu hwnt i strwythurau haearnaidd ac anhyblyg a ffocysu ar brofiad pobl. Ymunais â rhwydweithiau dylunio a dechreuais ddysgu sut mae pobl greadigol yn mynd i'r afael â phroblemau. Yn y gwasanaethau cyhoeddus, dydyn ni ddim wastad yn meddwl fel hyn - ond fe ddylen ni."

Adeiladu Prototeip i Ateb Gofynion y Byd Go Iawn

Yn hytrach nag aros am gyllid neu i rywun arall gamu i’r adwy, penderfynodd Simon fod yn  rhagweithiol. Aeth i bartneriaeth gyda datblygwr i greu teclyn Cynhyrchu Estynedig Adferol prototeip allai greu adroddiadau gan ddefnyddio data wedi'i glustnodi a thechnoleg cod isel.

"Roedd y teclynnau oedd eisoes ar y farchnad yn rhy ddrud ac roedd diffyg tryloywder," dywed. "Roedd angen rhywbeth y gallwn ni ei ddeall a'i reoli. Mae fy mhrototeip i’n caniatáu i ddefnyddwyr weld sut mae'r system yn gweithio - ac mae hynny'n cynyddu ymddiriedaeth. Os na allwch esbonio sut mae offeryn AI yn dod at ei gasgliadau, sut allwch chi gyfiawnhau ei ddefnyddio i lunio polisi cyhoeddus?"

Addasu i Amgylchiadau Newidiol

Roedd Simon wedi bwriadu ymgorffori'r teclyn yng ngwaith Cyngor Abertawe i ddechrau, ond pan newidiodd blaenoriaethau cyllido, ehangodd ei weledigaeth. Mae bellach yn rhan o sawl grŵp cenedlaethol sy'n edrych ar adroddiadau strategol mewn awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus yn ehangach.

"Rwyf wedi ymuno â'r grŵp meddwl Dyfodol Cenedlaethol sy’n rhan o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ac rwy'n ymwneud â datblygu pecyn cymorth adrodd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru. Rwy'n cyflwyno AI Eglurhaol i'r ddwy fenter."

Ei ffocws yw creu prosesau adrodd cyson ac effeithlon sy'n parchu gwerthoedd tryloywder a chynhwysiant. "Os gall mwy o sefydliadau ddefnyddio'r teclyn hwn yn y ffordd gywir, gallwn arbed amser a chreu deilliannau gwell," ychwanega.

Y Darlun Mawr

Mae Simon yn credu y bydd dyfodol gofal cymdeithasol yn cynnwys AI - ond dim ond os yw'n cael ei wneud yn y ffordd iawn. "Ddylai AI fyth disodli cysylltiad â phobl," mae'n pwysleisio. "Ond gall leihau baich tasgau ailadroddus, gan roi mwy o amser i ymarferwyr ei dreulio gyda'r bobl maen nhw'n eu cefnogi. Yr allwedd yw adeiladu systemau sy'n ddibynadwy, yn deg ac yn hawdd eu cyrchu."

Agwedd Gyfannol at Drawsnewid Digidol

Wrth edrych yn ôl ar yr MSc, dywed Simon bod y radd wedi gweddnewid y ffordd mae'n mynd i'r afael â heriau digidol – ac y byddai'n argymell y rhaglen i eraill yn y sector cyhoeddus.

"Mae gan ymarferwyr bersbectif unigryw. Nid mater o ddefnyddio technoleg er mwyn defnyddio technoleg mohono - mae'n ymwneud â'r hyn sydd ei angen ar bobl. Mae'r MSc wedi fy helpu i weld trawsnewid digidol fel ecosystem, lle mae popeth yn gysylltiedig.  Mae wedi rhoi ffyrdd newydd o feddwl i fi, ynghyd â hyder i roi pethau ar waith."